Athrawes yw Hannah o ysgol uwchradd yn ne Cymru. Cynhaliodd yr ymchwil hon gyda’i dosbarth AAA Blwyddyn 8. Nod y prosiect oedd dod o hyd i strategaethau Asesu ar gyfer Dysgu i gynorthwyo disgyblion i ddeall terminoleg celf er mwyn cyrchu’r wybodaeth a ddarperir mewn adborth llafar ac ysgrifenedig. Roedd yr ymyriad yn golygu gweithredu system sgaffaldio weledol i enghreifftio terminoleg bwnc-benodol i’r disgyblion. Nododd yr ymyriad fod y disgyblion wedi elwa yn sgil y cynllun a hynny drwy feddu ar well dealltwriaeth o dermau allweddol, a’u helpodd i ddeall yr adborth a’r cyfarwyddiadau fel ei gilydd. Arweiniodd hyn hefyd at wella hyder ac ansawdd gwaith. Amlygodd canlyniad yr ymyriad hefyd fod angen am ystod o enghreifftiau gweledol mewn pynciau ymarferol, yn hytrach nag un ‘safon aur’, er mwyn i’r holl ddisgyblion gael ymdeimlad o lwyddiant a hyder.
© Hannah Thomas Ionawr 2016