Nod y prosiect yma yw deall os yw hunanasesu dysgwr yn gallu gwella lefelau ysgrifennu stori mewn dosbarth blwyddyn 4 o fewn Ysgol Gymreig. Defnyddiwyd 'cynllun cyfarwyddo personol' i dargedu pedwar sgil ysgrifennu stori; dewiswyd y sgiliau yma'n benodol ar gyfer y dosbarth oedd yn rhan o'r ymyrraeth. At ei gilydd, defnyddiwyd amrywiaeth o ddulliau casglu data ansoddol a meintiol i ateb y cwestiynau ymholi allweddol: data sylfaenol, holiaduron staff, arsylwadau dysgwyr a chyfweliadau lled-strwythuredig i ddysgwyr. Yna trionglwyd y rhain yn ystod y dadansoddi, gyda'r gobaith o ateb cwestiynau'r ymholiad. Un brif ganfyddiad a ddarganfuwyd drwy'r prosiect ymchwiliad hwn oedd yr ymatebion agweddol gwahanol rhwng staff a dysgwyr. Roedd staff yn teimlo nad yw hunanasesu o fudd i ddysgwyr o allu is. Fodd bynnag, teimlai pob dysgwr gallu is bod hunanasesu eu gwneud yn ddysgwyr gwell. Mae'r data yn cefnogi barn y dysgwyr. Roedd defnyddio'r dull cyfarwyddo wedi cynyddu lefelau ysgrifennu stori dysgwyr, ond nid oedd yn cynyddu lefelau dysgwyr Saesneg yn gyffredinol. Gallai hyn ddangos bod y cyfarwyddyd yn gallu cynyddu lefelau dysgwyr yn y genre a dargedwyd o ysgrifennu stori, ond nid oedd yn gallu trosglwyddo i genres eraill. Gallai hyn gael effaith ar ganlyniadau lefelau dysgwyr ar gyfer blynyddoedd dilynol os yw'r dull yma o hunanasesiad yn parhau. Ar y cyfan, gwelwyd bod hunanasesu yn gallu cynyddu lefelau hyder y dysgwyr yn sylweddol yn ysgrifenedig tra hefyd yn lleihau'r bwlch rhwng dysgwyr o allu is a gweddill y garfan.
©Elin Evans