Fy ffocws ar gyfer yr ymyriad hwn yw gwella gallu plant i ddeall ystyr amrywiaeth o destunau, a all fod yn ddarnau darllen deongliadol neu draethiadol. Y cwestiwn ymchwil generig sydd wedi arwain y ffocws hwn yw ‘Sut gall plant wella eu gallu i ddeall ystyr nad yw’n cael ei ddatgan yn amlwg yn y testun?’
Roedd yr ymyriad yn cynnwys cyfres o grwpiau trafod, lle'r oedd gofyn i’r plant ymateb i gwestiynau darllen dan arweiniad, a chynnal eu trafodaethau dysgu annibynnol eu hunain yn seiliedig ar ddarn darllen storïol. Roedd y trafodaethau dysgu annibynnol yn defnyddio dull darllen cytbwys Palinscar a Brown (1984).
Defnyddiwyd y dulliau casglu data canlynol i archwilio pa mor effeithiol oedd yr ymyriad:
Data ansoddol:
- Cael lleisiau cytbwys rhwng disgyblion trwy’r grwpiau ffocws
- Sylwadau ar yr ymyriad ei hun
- Cyfweliadau lled-strwythurol gyda chydweithwyr
- Fy nyddiadur dysgu
Data meintiol
- Data o brofion ysgol cenedlaethol
- Holiaduron gan ddisgyblion
Arweiniodd y dechneg darllen cytbwys o fewn y grwpiau trafod at gasgliadau gwell gan y plant, a thrafodaethau o ansawdd uwch am y testun roedden nhw’n ei ddarllen. Roedd cwestiynau agored yn llawer mwy effeithiol wrth ganiatáu’r plant i ddefnyddio’u sgiliau gwneud casgliadau lefel uwch, ac roedd eu caniatáu i reoli a chyfarwyddo’r trafodaethau’n effeithiol hefyd. Byddai defnyddio technegau gofyn cwestiynau Socrataidd wedi symud y plant ymhellach i ddefnyddio lefelau uwch o wneud casgliadau yn ystod y trafodaethau.
Mae’r ymyriad wedi effeithio ar y ffordd rwyf yn mynd ati i gynnal darllen fel grŵp. Bellach, rwyf yn fwy o hwylusydd nag athrawes, ac rwyf yn defnyddio cwestiynu agored yn llawer mwy aml nag yr oeddwn. Mae’r plant yn gallu trafod yn annibynnol o ganlyniad i ddefnyddio’r dechneg darllen cytbwys, ac mae darllen cytbwys wedi cael ei gyflwyno yn y dosbarthiadau blwyddyn 5 a 6 eraill, yn seiliedig ar ei lwyddiant yn fy ystafell ddosbarth i.
Y brif wers a ddysgwyd o’r ymchwiliad hwn oedd bod defnyddio’r athro/athrawes i hwyluso dysgu annibynnol yn werthfawr, yn ogystal â defnyddio cwestiynu Socrataidd er mwyn annog defnyddio sgiliau creu casgliad yn ehangach wrth werthuso testunau storïol.
©Caroline Daly Ionawr 2017