Mae’r prosiect ymchwilio hwn yn ymwneud â phwnc rhesymu rhifyddol, fel rhan o Fathemateg yn y cwricwlwm cenedlaethol. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ddatblygu a gwella dysgu ac addysgu rhesymu i finnau fel athro ac i gydweithwyr a dysgwyr.
Roedd yr ymyriad a gyflawnwyd ar ffurf tasgau wedi’u cynllunio’n benodol. Dyma’r tasgau a ddarparwyd: cydweithredol (wrth i ddysgwyr weithio gyda’i gilydd fel partneriaid ac mewn grwpiau); yn hybu defnyddio iaith; ac wedi’u gosod mewn cyd-destun bywyd go iawn oedd yn ennyn diddordeb ac y gallai dysgwyr uniaethu ag ef. Defnyddiwyd amrywiaeth o ddulliau casglu data i gasglu data i’w dadansoddi er mwyn edrych ar yr hyn oedd yn digwydd yn ystod yr ymyriad. Roedd y dulliau casglu data a ddefnyddiwyd yn cynnwys:
- Holiaduron ac arolygon
- Arsylwadau ar ddysgu
- Cyfweliadau lled-strwythuredig
- Dadansoddiad testunol (gan gynnwys lluniau o ddysgwyr yn gweithio)
- Cofnodion mewn dyddlyfr
Dyma’r prif ganfyddiadau a drafodir:
- Cafodd y dysgwyr fudd o weithio’n gydweithredol wrth resymu er mwyn cynorthwyo, ymestyn a herio ei gilydd. Er nad oes gan yr holl ddysgwyr y medrau i weithio’n gydweithredol eto.
- Cafodd y dysgwyr fudd o dasgau sy’n hybu defnyddio iaith i atgyfnerthu dealltwriaeth, cyfiawnhau strategaethau a disgrifio dulliau gweithredu.
- Dangosodd y dysgwyr eu bod yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn modd ystyrlon ac o’u gwirfodd mewn tasgau rhesymu pan fo’r tasgau’n rhai bywyd go iawn, yn hawdd uniaethu â hwy, yn bleserus neu mewn cyd-destun y gallant ei ddychmygu a gwneud synnwyr ohono.
At hynny, cafwyd yr effeithiau canlynol o ganlyniad i’r ymyriad a’r prosiect:
- Fel arweinydd athrawon, mae gennyf fedrau gwell i gynllunio tasgau rhesymu effeithiol sy’n canolbwyntio ar anghenion a diddordebau dysgwyr.
- Mae’r dysgwyr yn dod yn rhesymwyr mwy hyderus ac yn fwy parod i gyflawni tasgau rhesymu.
- Mae’r dysgwyr yn dibynnu llai ar fodel athro o gymorth i resymu, ac yn defnyddio eu cyd-ddisgyblion a’u dealltwriaeth ddatblygol eu hunain i resymu’n effeithiol.
- Rwyf mewn sefyllfa i rannu fy nghanfyddiadau gyda chydweithwyr yn yr ysgol a phartneriaid ehangach er mwyn sicrhau effaith ehangach i ddysgwyr a staff.
Drwy gydol y prosiect hwn dysgwyd llawer. Rwyf wedi dysgu am werth ymholi yn fy ymarfer innau er mwyn diwallu angen a deimlir a gwella sgiliau dysgwyr mewn unrhyw faes, gan gynnwys rhesymu. Rwyf wedi dysgu, yn yr achos hwn, fod dysgwyr yn ymateb i dasgau sy’n adlewyrchu’r hyn sy’n ennyn eu diddordeb. Felly, mae’n hollbwysig adnabod eich dysgwyr, pa anawsterau sydd ganddynt, sut maent yn dysgu orau a beth all ddatblygu eu dysgu.