AndrewWhite Stonewall blogMae digwyddiadau 2016 o Brexit i etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau wedi bod yn sioc i rai, ac yn newid i'w groesawu i eraill. Beth bynnag yw'ch barn am Brexit neu etholiad America, nid oes unrhyw amheuaeth fod yr ymgyrchoedd hyn wedi amlygu rhaniadau dyfnion mewn cymdeithas: maent wedi codi ofn ar rai cymunedau ac wedi grymuso eraill.

Nid yw gwleidyddiaeth ofn a rhannu pobl wedi bod yn enghraifft gadarnhaol i'n pobl ifanc. Byddai rhai yn dadlau y dylwn symud ymlaen o siarad am ein hunaniaeth, bod casineb a bwlio i bobl LHDT yn rhywbeth o'r gorffennol. Fel nifer o fewn cymunedau LHDT rwy'n gwybod o brofiad uniongyrchol nad dyma'r achos. Mae casineb a bwlio yn fyw ac iach, ac mae rhai'n arddangos hyder newydd wrth leisio eu casineb. Ceir sôn am dwf mewn troseddau casineb sydd wedi eu hadrodd, ac rydym yn gwybod bod bwlio yn brofiad dyddiol i nifer o bobl LHDT.

Mae iaith homoffobaidd a bwlio hunaniaeth rhyw yn gyffredin yn ein hysgolion. Mae bron i naw ym mhob deg aelod staff ysgolion uwchradd a ofynnwyd yng Nghymru yn dweud bod plant yn eu hysgolion yn cael eu bwlio, eu haflonyddu neu fod eraill yn galw enwau arnyn nhw, neu fod pobl yn amau eu bod yn lesbiaidd, hoyw neu'n ddeurywiol. Dywed mwy na hanner disgyblion lesbiaidd a hoyw nad ydynt wedi cael unrhyw addysg ar bobl lesbiaidd a hoyw neu i unrhyw faterion lesbiaidd a hoyw gael eu trafod yn yr ystafell ddosbarth.

Fel tad, rwy'n disgwyl profiad fy mhlentyn o'r ysgol i fod yn hwyl, yn eangfrydig, yn heriol ac yn werth chweil. Rwyf hefyd yn disgwyl i'r ysgol i fod yn fan lle gall bob plentyn deimlo'n ddiogel, ac yn cael eu cynnwys a'u hannog i gyrraedd eu llawn botensial.
Rydym yn gwybod bod ein profiadau yn yr ysgol yn aros gyda ni drwy gydol ein hoes. Mae gan addysg y gallu i godi plant allan o dlodi, i gyfoethogi eu bywydau ac i'w helpu i weld y byd drwy lygaid pobl eraill. Gall profiad gwael gyfyngu datblygiad personol, difrodi hyder a chael effaith negyddol ar botensial hirdymor disgyblion.

Mae ein gwaith ymchwil Adroddiad yr Athrawon yn darparu tystiolaeth glir bod disgyblion yr ysgolion hynny sy'n cymryd camau syml i fynd i'r afael â bwlio yn llai tebygol o fod wedi cael eu bwlio a llawer mwy tebygol o deimlo'n hapus ac yn cael eu croesawu yn eu hysgolion. Mae'r astudiaeth yn dangos bod llawer mwy i'w wneud. Mae mwy na hanner o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol bobl ifanc ym Mhrydain yn dal i ddioddef bwlio homoffobaidd ac mae ei effaith niweidiol yr un mor amlwg. Mae dau o bob pump o ddisgyblion hoyw sy'n dioddef bwlio yn ceisio neu yn meddwl am gymryd eu bywydau eu hunain o ganlyniad uniongyrchol. Mae tri o bob pum person ifanc hoyw sy'n cael eu bwlio yn dweud eu bod yn cael effaith ar eu hastudiaethau ac mae saith o bob deg o'r holl ddisgyblion lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn cyfaddef eu bod wedi colli ysgol yn fwriadol ar ryw adeg. Dim ond un o bob pedwar o ddisgyblion hoyw sy'n dweud bod athro wedi siarad â nhw am y ffaith fod bwlio homoffobig yn anghywir.

Er gwaetha'r cynnydd mewn blynyddoedd diweddar, mae llawer ar ôl i'w wneud. Mae'n dorcalonnus bod mwy na dau o bob pump athro ysgol gynradd a bron i naw o bob deg o athrawon ysgol uwchradd yn yr arolwg wedi dweud bod disgyblion yn eu hysgolion yn cael eu bwlio oherwydd eu rhywioldeb. Mae iaith homoffobaidd yn gyffredin iawn hyd yn oed yn yr ysgol gynradd, ac yn anffodus, mae nifer yn clywed yr iaith gan aelodau eraill o staff.

Mae tu hwnt i ddirnadaeth bod y mwyafrif o staff ysgol a holwyd yn dweud nad yw eu hysgol yn eu caniatáu iddynt i addysgu am faterion lesbiaidd, hoyw a deurywiol neu nad ydynt yn gwybod a oes hawl ganddynt wneud, hyn oll fwy na degawd wedi diddymu deddfwriaeth Adran 28.

Mae'r mwyafrif helaeth yn yr arolwg yn credu bod ganddynt ddyletswydd i atal ac ymateb i fwlio homoffobig. Maent hefyd yn dweud y dylid cyfeirio at wahanol fathau o deuluoedd a phobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn yr ysgol. Mae'n galonogol iawn bod y rhai sy'n disgrifio sut y maent yn mynd i'r afael â bwlio yn adrodd am yr effaith gadarnhaol y mae hyn yn ei gael ac mae'r rhai sydd wedi mynd i'r afael â materion lesbiaidd, hoyw a deurwyiol yn y dosbarth yn dweud y byddent yn gwneud hynny eto. O ystyried hyn, mae'n hynod siomedig nad yw naw o bob deg staff ysgol gynradd a phedair o bob pum staff mewn ysgolion uwchradd a holwyd yn yr arolwg wedi cael unrhyw hyfforddiant penodol ar y materion hyn.

Mae ein hymchwil yn dangos bod ysgolion uwchradd sydd ag ymagwedd weithgar, positif er mwyn mynd i'r afael ag iaith homoffobaidd a bwlio yn cael y canlyniadau gorau. Dyma beth mae ein rhaglenni Hyrwyddwyr ac Ysgol Hyfforddi'r Hyfforddwyr yn eu cynnig i'ch ysgolion: partneriaeth gyda Stonewall Cymru.

Ers i Lywodraeth Cymru diddymu Adran 28 yn 2002 i bob pwrpas, rydym wedi bod yn gweithio i fynd i'r afael â bwlio homoffobiaidd, deuffobaidd, ac yn fwy diweddar bwlio trawsffobig yn ysgolion Cymru drwy ein rhaglen hyfforddi athrawon.

Gall fod yn heriol i fynd i'r afael â bwlio homoffobiaidd a stereoteipio ar sail rhyw mewn ysgol. Mae naw o bob deg o athrawon ysgolion uwchradd yn dweud nad ydynt wedi cael unrhyw hyfforddiant penodol ar sut i daclo bwlio homoffobig. Yn y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweithio gyda dros 200 o staff ysgolion ar draws Cymru drwy roi cyngor arbenigol a phwrpasol. Mae gan y gwaith gyrhaeddiad posibl o dros 175,000 o bobl ifanc.

Trwy weithio gyda Stonewall Cymru i liniaru'r niwed gwaethaf o fwlio homoffobaidd a hunaniaeth rhyw, mae ysgolion ledled Cymru yn grymuso eu staff i helpu i lywio myfyrwyr tuag at eu nodau academaidd.

Rydym wedi cyhoeddi canllaw cynhwysfawr yn ddiweddar i arfogi staff yr ysgol i ddathlu gwahaniaeth a herio homoffobia, deuffobia a thrawsffobia mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Os yw Cymru am fod yn wlad ffyniannus, gwydn, iachus ac yn fwy cyfartal, yna mae'n rhaid i'n hysgolion gael eu hymgysylltu'n llawn wrth fynd i'r afael â bwlio a rhagfarn, gydag offer i gyflawni hynny yn ogystal â chael eu monitro o ran eu cynnydd. Mae'r dystiolaeth yn dangos yr angen am fwy o weithredu, sy'n fwy cydlynol gan yr holl randdeiliaid allweddol yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Estyn, awdurdodau lleol, consortia addysg a darparwyr hyfforddiant athrawon. Mae'r Gymru a garem yn wlad lle y gall pob plentyn a pherson ifanc gyrraedd eu llawn botensial. Byddwn yn cyflawni hyn drwy fynd i'r afael â phob math o fwlio a rhagfarn. Roedd hyn yn rhan o'n gweledigaeth sylfaenol, ac mae'n parhau'n brif flaenoriaeth i ni heddiw.

Andrew White

Am fwy o wybodaeth, ewch i'n gwefan www.stonewallcymru.org.uk

Cwcis

Mae gwefan CGA yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori ein gwefan, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis. Am fwy o fanylion am gwcis a sut i’w rheoli, yna darllenwch ein polisi preifatrwydd.