Gweledigaeth llywodraeth Cymru

Ym mis Awst 2016, yn yr Eisteddfod Genedlaethol, lansiodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, y strategaeth uchelgeisiol – miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r ymateb i’r cynnig wedi bod yn un dadleuol, ond yr hyn sy’n amlwg yw bod her aruthrol o’n blaenau. A yw cynyddu niferoedd y siaradwyr Cymraeg cymaint â hynny o fewn cenhedlaeth wir yn bosibl? A beth yw ystyr hyn ar gyfer y sector addysg yng Nghymru?

Mae’r strategaeth newydd yn nodi 6 maes datblygu strategol:

  • Addysg
  • Normaleiddio
  • Cynllunio a pholisi
  • Cefnogi
  • Pobl
  • Hawliau

Bydd gan y sector addysg rôl hanfodol wrth yrru’r strategaeth hon yn ei blaen, ond er mwyn cynyddu’r potensial i gynyddu nifer y siaradwyr o fewn y gweithlu cymaint â phosibl, rhaid i sgiliau’r gweithlu addysg ar y cyfan gael eu hystyried, a bod ymarferwyr ac arweinwyr yn cael eu cynorthwyo mewn modd effeithiol.

Mewnwelediadau data o’r gofrestr ymarferwyr

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn meddu ar ddata cynhwysfawr ar y gweithlu addysg, gan gynnwys gallu iaith Gymraeg, ac mae’n defnyddio’r adnodd gwerthfawr hwn i helpu Llywodraeth Cymru wrth gynllunio’r gweithlu. Felly beth mae’r gofrestr ymarferwyr yn ei ddweud wrthym am y sefyllfa ar hyn o bryd, a beth yw’r ffactorau allweddol sydd angen eu hystyried wrth ddatblygu polisïau wrth symud ymlaen?

Er syndod mawr, mae nifer y siaradwyr Cymraeg o fewn y gweithlu addysgu wedi aros yn sefydlog iawn, heb ryw lawer o gynnydd ers 2007. Mae’r data presennol yn dangos bod 33.3% o athrawon ysgol yn gallu siarad Cymraeg (27.4% yn gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg), sy’n awgrymu nad yw’r polisïau a’r tactegau blaenorol a fabwysiadwyd er mwyn cynyddu sgiliau iaith wedi gwneud y camau ymlaen a ddymunwyd. O ran ANGau a phenaethiaid, mae 34.6% a 41.4% yn gallu siarad Cymraeg (a 27.8% a 36.1% yn gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg).

Mae tueddiadau daearyddol i’w gweld yn amlwg o ran cyfran yr athrawon sy’n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, â’r gyfran isaf yn rhanbarth de-ddwyrain Cymru (Blaenau Gwent 7%, Casnewydd 8%, Sir Fynwy 9%) o gymharu â’r uchaf yng ngogledd a gorllewin Cymru (Gwynedd 93%, Ynys Môn 90%, Ceredigion 80%). Mae gwahaniaeth mor fawr yn dangos yr her sydd o’n blaenau. Sut gellir cynyddu’r awydd i ddysgu Cymraeg, ac a ellir, neu a ddylid, mabwysiadu strategaeth i gyrraedd lefelau tebycach rhwng y rhanbarthau? Beth fydd dyfodol y Gymraeg ar ôl y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, a sut gallwn sicrhau bod yr iaith yn parhau i fod yn berthnasol mewn amgylchedd cyfnewidiol o ran gwleidyddiaeth a busnes?

Heriau

Beth am ddechrau gyda’r derminoleg – beth ydyn ni’n ei feddwl pan ddywedwn ‘siaradwr Cymraeg’?

Mae cynllunio gweithlu mewn modd effeithiol yn gofyn am fan cychwyn cadarn er mwyn mesur cynnydd yn ei erbyn, ac mae hyn yn golygu bod angen eglurhad o’r dechrau un ynghylch diffiniad ‘siaradwr Cymraeg’, gan nad yw hyn yn cael ei gymhwyso’n gyson bob tro yn yr arolygon amrywiol a gynhaliwyd yn y gorffennol. A ddylai pawb fabwysiadu Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd er mwyn1 cael dull mwy safonedig?

Dull holistig o fapio sgiliau’r gweithlu addysg

Er bod y gofrestr ymarferwyr yn rhoi mewnwelediad i ni o allu ieithyddol athrawon, y gellir ei fapio dros amser, ni wyddwn ryw lawer ynghylch proffil sgiliau iaith grwpiau cofrestredig newydd ar hyn o bryd, hynny yw, ymarferwyr Addysg Bellach a gweithwyr cymorth dysgu, a bydd datblygu tuedd ar gyfer y data yn cymryd amser. Fodd bynnag, mae mewnwelediadau dechreuol o’r Gofrestr yn dangos bod 31,500 o staff cymorth dysgu cofrestredig mewn ysgolion ar 1 Mawrth 2017. Mae hyn yn cynrychioli cyfran sylweddol o’r holl gofrestryddion, gan fod nifer y gweithwyr cymorth dysgu bron cymaint â nifer yr athrawon wrth eu gwaith (33,000). Yn yr un modd, ni wyddwn ryw lawer am allu’r grwpiau newydd a fydd yn gorfod cofrestru o fis Ebrill 2017 ymlaen (gweithwyr ieuenctid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith). Os ystyrir addysg i fod yn un o yrwyr creiddiol y polisi, sut gallwn gynllunio mewn modd effeithiol os nad oes gennym drosolwg cynhwysfawr o’r gweithlu? Caiff hyn ei ategu ymhellach gan y ffaith nad ydym yn gwybod rhyw lawer am y sector nas cynhelir a’r blynyddoedd cynnar, er bod darpariaeth blynyddoedd cynnar yn cael ei hystyried yn hanfodol bwysig, ac yn ffactor allweddol wrth ddatblygu sgiliau yn gynnar ym mywydau plant.

Sut gallwn ddatblygu sgiliau'r gweithlu presennol?

Mae’n cael ei gydnabod bod gan ymarferwyr addysg lwyth gwaith trwm yn barod, ac, ar y cyd ag anghenion cystadleuol am gyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus sy’n ymwneud yn benodol â’r swydd, bydd datblygu sgiliau iaith Gymraeg o fewn y gweithlu presennol yn gofyn llawer. Efallai bod awydd o fewn y sector i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg, ond mae gofynion yn bodoli eisoes ar ymarferwyr ac arweinwyr e.e. hyfforddiant gorfodol, y cwricwlwm newydd sydd ar y gweill, y fframwaith cymhwysedd digidol, ysgogiad i gynyddu gallu ymchwil o fewn y gweithlu, a llawer mwy, felly sut gallwn helpu i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg y rheiny sydd, ar hyn o bryd, heb lawer o brofiad, neu ddim profiad o gwbl, o’r iaith? Beth yw’r ffordd orau o gyflawni hyn, fel bod modd i ddysgwyr gael cysondeb?

Sut gallwn sicrhau mynediad a cyfleoedd cyfartal i bobl yn y gweithlu addysg sy’n dymuno dysgu Cymraeg neu wella eu sgiliau? Heb os, mae angen cysondeb ar draws yr holl sectorau a gofyn am lwybrau hyblyg, cost-effeithiol at ddysgu, mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol.

Newydd-ddyfodiaid i’r proffesiwn addysgu – creu cynaliadwyedd

Mae angen i ni sicrhau bod rhaglenni hyfforddi athrawon yn ymateb i’r galw. Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) wedi awgrymu bod mathemateg a Chymraeg yn y grŵp pynciau blaenoriaethol o ran targedau Addysg Athrawon cychwynnol ar gyfer 2017/18. Yn ogystal, er nad yw’r targedau derbyn yn cynnwys targedau ar wahân ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg, mae darparwyr yn cael eu hannog i ddatblygu a chynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg lle bo’n bosibl, er mwyn bodloni’r galw am athrawon cyfrwng Cymraeg cymwys mewn ysgolion, sydd wedi cael hyfforddiant o safon.

Felly, beth mae’r ystadegau HCA presennol yn ei ddweud wrthym? Mae data o (2015-2016) yn dangos bod nifer fach o bobl (wedi’u hyfforddi mewn addysg uwchradd) wedi’u hyfforddi yn y Gymraeg. Mewn addysg uwchradd, roedd 464 o fyfyrwyr i gyd, a basiodd o fewn y flwyddyn academaidd, ac roedd 22 ohonynt yn y Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau bwriadol yn y blynyddoedd diweddar i gyfyngu ar y lleoedd ar gyrsiau HCA o ganlyniad i orgyflenwad o athrawon o fewn y gweithlu cyfan, ac mae gofynion mynediad llym yn golygu ei fod yn anodd dechrau ar raglen hyfforddi. Fodd bynnag, mae’r data’n dangos nad oedd darparwyr hyfforddiant HCA wedi llwyddo i lenwi eu lleoedd ar gyfer athrawon dan hyfforddiant yn 2015/16 a 2016/17. Bydd cadw llygad barcud ar nifer y newydd-ddyfodiaid sy’n siarad Cymraeg, a’r rhai sy’n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, yn hollbwysig wrth sicrhau cynaliadwyedd yn y tymor hir. A ddylid ailystyried gofynion mynediad ar gyfer cyrsiau hyfforddi athrawon? A yw’r bar wedi ei osod ar y lefel gywir, neu a ydym o bosibl yn colli athrawon da nad ydynt yn bodloni’r meini prawf? A ddylid rhoi mwy o gymorth i’r rheiny sydd â’r awydd a’r gallu i fod yn athrawon i oresgyn y rhwystrau dechreuol? Yn ogystal, sut fydd unrhyw newid i ddatganoli tâl ac amodau yng Nghymru yn effeithio ymhellach ar recriwtio a hyfforddi athrawon yng Nghymru?

Y tu hwnt i’r dosbarth

Er y bydd gan addysgwyr rôl allweddol wrth ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg dysgwyr, er mwyn creu siaradwyr Cymraeg hyderus a galluog, rhaid i’r dysgu dreiddio i fywydau y tu hwnt i’r dosbarth. Mae dysgu y tu hwnt i’r dosbarth yn helpu i gryfhau sgiliau iaith a thyfu hyder wrth ddefnyddio’r iaith o ddydd i ddydd. Mae angen i’r dysgwyr gael cyfle i ymarfer, ond yn ogystal ag ymarferwyr addysg, mae gan rieni a gofalwyr rôl hanfodol. Sut gellir annog teuluoedd i gynorthwyo eu plant trwy wella eu sgiliau Cymraeg eu hunain, a beth fydd yn cael ei wneud i’w helpu? Mae angen cyfleoedd dysgu hygyrch i bawb. Bydd angen adolygu’r ddarpariaeth Gymraeg i oedolion, yn ogystal ag ystyried sut gall pobl eraill sy’n cynorthwyo plant gyfrannu at y strategaeth – beth am glybiau chwaraeon neu glybiau ieuenctid, er enghraifft?

Beth ydym ni’n ei wneud i’ch helpu chi?

Bellach, mae gennym gylch gwaith ehangach o ran cofrestru sectorau ychwanegol o fewn y gweithlu, felly byddwn mewn sefyllfa well i ddefnyddio’r set data unigryw ac amrywiol i ddylanwadu ymhellach ar bolisïau addysg yng Nghymru. Byddwn yn parhau i ymateb i ymgynghoriadau ac yn galw am dystiolaeth er budd ein cofrestryddion, i sicrhau bod y rhai sy’n creu polisïau yn deall natur amrywiol y gweithlu addysg yng Nghymru.

Yn ddiweddar, mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi darparu tystiolaeth ar lafar i Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymwneud â’r strategaeth hon. Gallwch weld y dystiolaeth honno ar archif Senedd TV.

Sut gallwch ein helpu ni i’ch helpu chi?

Mae ein gallu i gynorthwyo ymarferwyr addysg yn dibynnu’n fawr ar gywirdeb y data rydym yn ei dderbyn. Gallwch ein helpu ni trwy sicrhau bod eich cofnod mor ddiweddar â phosibl trwy fynd i www.ewc.wales a mewngofnodi trwy FyCGA.

1 Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd: Dysgu, Addysgu, Asesu (CEFR). http://www.coe.int/t/dg4/linguistic/Cadre1_en.asp 

 

Yn Awst 2016, fe gymhwysodd dros fil o athrawon dan hyfforddiant o brifysgolion Cymru, ond degawd yn ôl, roedd dwywaith y nifer hwn wedi cymhwyso.

Nifer yr athrawon ysgol dan hyfforddiant mewn sefydliadau hyfforddiant cychwynnol athrawon yn ôl blwyddyn (ar 1 Awst 2016)

  2002-2003 2011-2012 2012-2013 2013-2014 2014-2015 2015-2016
Nifer o fyfyrwyr (%) Nifer o fyfyrwyr (%) Nifer o fyfyrwyr (%) Nifer o fyfyrwyr (%) Nifer o fyfyrwyr (%) Nifer o fyfyrwyr (%)
Llwyddo 1910 90.3 1539 87.8 1398 88.9 1329 88.6 1177 85.0 1033 86.8
Methu 51 2.4 18 1 16 1 15 1 7 0.5 15 1.3
Wedi gadael 86 4.1 88 5 49 3.1 78 5.2 64 4.6 65 5.5
Gohiriwyd 69 3.3 107 6.1 110 7 78 5.2 137 9.9 77 6.5
Cyfanswm 2116 100 1752 100 1573 100 1500 100 1385 100 1190 100

 

professional insights trainee teachers cym

Felly pam mae'r niferoedd wedi gostwng mor sylweddol? Yn 2006, gofynnodd Llywodraeth Cymru i'r Athro John Furlong i gynnal adolygiad am hyfforddiant cychwynnol athrawon. Un o'i ganfyddiadau oedd ein bod yn hyfforddi mwy o athrawon ysgol nag yr ydym eu hangen yng Nghymru. Mae llawer o'r athrawon newydd hyn yn gallu sicrhau swyddi parhaol yng Nghymru neu wedi symud i Loegr, Iwerddon neu ymhellach i gael gwaith. Yn syml, roedd Cymru yn hyfforddi gormod o athrawon ar gyfer ei hanghenion, gyda'r gorgyflenwad hwn yn arbennig o amlwg yn y cyfnod cynradd. Felly, fe benderfynodd Llywodraeth Cymru i dorri niferoedd hyfforddi athrawon yng Nghymru, gyda gostyngiadau blynyddol i'w gweld yn y tabl a diagram uchod.

Fodd bynnag, nid dim ond y gostyngiad yn niferoedd hyfforddi athrawon ysgol sydd o ddiddordeb. Er enghraifft, mae'r data yn dangos bod:

  • Blwyddyn ar ôl blwyddyn, dim ond tua 1% o hyfforddeion sy'n methu â bodloni'r safonau SAC ar ddiwedd eu cwrs a dim ond 0.07% (o'r rhai na ennill SAC) sy'n mynd ymlaen i fethu eu rhaglen Sefydlu statudol
  • Mae gwahaniaethau yn y cyfraddau Methu / tynnu'n ôl / gohirio rhwng sefydliadau.
  • Mae cyfraddau llwyddo yn uwch ymhlith menywod na dynion.
  • Mae tua 35% o athrawon newydd sy'n cwblhau'r hyfforddiant cychwynnol athrawon mewn sefydliadau yng Nghymru yn 25 oed neu drosodd

Nifer yr athrawon ysgol dan hyfforddiant yn ôl sefydliad (ar 1 Awst 2016)


Llwyddo Methu Wedi gadael Gohiriwyd Cyfanswm (%)
Prifysgol Aberystwyth 47 4 10 0 61 5.0
Prifysgol Bangor 246 0 5 20 271 22.5
Prifysgol Metropolitan Caerdydd 300 0 27 22 349 28.9
Prifysgol De Cymru 83 11 2 3 99 8.2
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant 89 0 2 4 95 7.9
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (Abertawe) 284 0 19 28 331 27.4
Cyfanswm Sefydliadau 1049 15 65 77 1206 100
Canran 87% 1% 5% 6%

Nifer yr athrawon ysgol dan hyfforddiant yn ôl oedran (ar 1 Awst 2016)


Dan 25 25 i 29 30 i 34 35 i 39 40 i 44 45 i 49 50 i 54 55 i 64 Cyfanswm
Llwyddo 698 253 46 26 12 8 5 1 1049
Methu 11 1 2 0 0 1 0 0 15
Wedi gadael 35 13 7 6 2 2 0 0 65
Gohiriwyd 42 22 7 2 2 1 0 1
77
Cyfanswm 786 289 62 34 16 12 5 2
1206
Canran (%) 65.2 24.0 5.1 2.8 1.3 1.0 0.4 0.2 100

Mae'n anodd dadlau nad yw'r toriadau yn nifer yr athrawon ysgol dan hyfforddiant a ddisgrifir uchod oedd y peth iawn i'w wneud. Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu nad yw Cymru wedi cael ei heriau recriwtio yn y blynyddoedd diwethaf. Er enghraifft:

  • Yn draddodiadol, mae wedi bod yn anodd recriwtio ar gyfer rhai pynciau ysgol uwchradd fel STEM a Chymraeg. Yn yr un modd, mae nifer yr ymgeiswyr ar gyfer swyddi cyfrwng Cymraeg yn gyffredinol is.
  • Mae nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael trafferth i recriwtio penaethiaid, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Yn wahanol i Loegr, nid oes gofyniad o hyd yng Nghymru ar gyfer penaethiaid newydd feddu ar y CPCP

Yr hyn sy'n ddiddorol yw er gwaethaf gostyngiadau blynyddol arfaethedig Llywodraeth Cymru mewn niferoedd hyfforddi, bod 5 o'r 6 sefydliad hyfforddi athrawon yng Nghymru wedi methu â recriwtio i'w targedau yn 2015 ac er ein bod yn disgwyl y ffigurau ar gyfer mis Medi 2016, mae'n ymddangos nad yw hyn gwella eleni. Yn anecdotaidd, ymddengys fod nifer o resymau am hyn, megis:

  • Y gofyniad diweddar i hyfforddeion i feddu ar radd B mewn Mathemateg a Saesneg
  • Gwell cymhellion ariannol i hyfforddi fel athro ysgol yn Lloegr
  • Anawsterau wrth gael swyddi parhaol yng Nghymru. Noder, mae data CGA yn dangos bod dros 80% o athrawon newydd yng Nghymru wedi gorfod cymryd contractau cyfnod penodol neu waith cyflenwi
  • Cyhoeddusrwydd negyddol am ansawdd yr hyfforddiant yng Nghymru

Felly beth sy'n digwydd nesaf? Disgwylir cynnydd yn y gyfradd genedigaethau, sy'n golygu efallai y bydd angen mwy o athrawon ysgol. Mae'r penderfyniad ar gyfer tâl ac amodau athrawon yn cael eu datganoli i Gymru a allai gael effaith ar recriwtio a chadw staff yn y dyfodol. Mae dyhead y llywodraeth ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Hefyd, mae deinameg y gweithlu yn newid gyda chynnydd enfawr yn y defnydd o staff cymorth dysgu yn y blynyddoedd diwethaf (dros 32,000 mewn ysgolion a cholegau AB wedi ymuno â Chofrestr CGA ers mis Ebrill 2016). Mae'r rhain i gyd yn ffactorau i'w hystyried wrth gynllunio gweithlu yn y dyfodol yn ein hysgolion.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi diwygio. Yn dilyn adroddiad pellach gan yr Athro Furlong yn 2015, mae newidiadau i gynnwys rhaglenni hyfforddiant athrawon ysgol o 2019 yn cael eu cynllunio a llwybrau seiliedig ar gyflogaeth hefyd dan ystyriaeth, yn dilyn penderfyniad i derfynu Teach First Cymru.

Felly mae'n deg i ddweud bod recriwtio a chadw athrawon ysgol yng Nghymru yn ddarlun hynod ddiddorol a dweud y lleiaf! Gwyliwch allan am fwy o ddadansoddi a mewnwelediadau o CGA ar y pwnc hwn yn y misoedd nesaf.


Drwy'r Gofrestr ymarferwyr addysg rydym wedi bod yn casglu data ar athrawon yng Nghymru am 15 mlynedd. Yn yr amser hwnnw, rydym wedi gofyn i gofrestreion am ystod o ddata am eu hunain, megis oedran, rhyw ac anabledd. Mae casglu a dadansoddi'r math hwn o ddata wedi ein galluogi i gyhoeddi gwybodaeth ar bynciau megis; cymarebau rhwng athrawon gwrywaidd a benywaidd yn ôl sector; a'r rhaniad rhwng y rhywiau ymhlith penaethiaid. Mae peth o'r wybodaeth yma wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau gan sefydliadau uchel eu proffil eraill, e.e. 'Pwy Sy'n Rhedeg Cymru?' (2014) gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ers sefydlu'r Gofrestr, fodd bynnag, rydym wedi sylwi bod gwybodaeth ar anabledd wedi aros yn yr unfan ar hyd yr amser. Mae ein data yn dangos mai dim ond 0.2% o athrawon cofrestredig sy'n uniaethu â bod ag anabledd, ac nid yw'r canran hwn wedi newid.

Nifer o athrawon ysgol sydd wedi cofrestru â CGA sydd wedi gwneud datganiad ynglŷn â'u hanabledd.

  Mawrth
2011
(%) Mawrth
2012
(%) Mawrth
2013
(%) Mawrth
2014
(%) Mawrth
2015
(%) Mawrth
2016
(%)
Do 106 0.3 101 0.3 98 0.3 85 0.2 75 0.2 78 0.2
Naddo 38664 99.7 38189 99.7 37764 99.7 37588 99.8 37280 99.8 36873 99.8
Cyfanswm 38770 100 38290 100 37862 100 37673 100 37355 100 36951 100

 

Credwn nad yw'r ffigwr yma'n cael ei adrodd yn ddigonol. Yn ôl Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae tua 26% o boblogaeth Cymru'n fwyaf tebygol o fod â salwch neu anabledd hirdymor sy'n eu cyfyngu nhw.

Fel sefydliad, rydym wedi mabwysiadu'r 'model cymdeithasol' o anabledd Yn ymarferol, golyga hyn bod cofrestres sy'n ystyried eu hun o fod ag anabledd yn dewis rhannu'r wybodaeth bersonol hon gyda ni. Dylwn bwysleisio nad yw'r wybodaeth hon ar gael drwy chwiliadau cyhoeddus o'r Gofrestr.

Estynnwyd y Gofrestr yn 2015 i gynnwys athrawon addysg bellach (AB), ac yn 2016 i gynnwys gweithwyr cymorth dysgu ysgol ac AB, felly megis dechrau yw'r broses o gasglu data am y grwpiau hyn. Rydym yn annog pob cofrestrai i sicrhau bod eu cofnodion mor gyflawn â phosibl. Gallwch gyrchu'ch cofnod drwy FyCGA.

Ond beth ydym am ei wybod?

Rydym eisiau deal mwy am y gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda ni oherwydd mae gwybodaeth a dealltwriaeth gywir yn ein helpu i gydnabod materion sydd â'r potensial i effeithio gwahanol grwpiau, a gallwn gynnig arweiniad ar sut i'w goresgyn. Er enghraifft, fe wnaeth Cyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban (GTCS) gynnal ymchwil yn edrych ar brofiadau athrawon newydd gymhwyso ag anableddau, ac fe wnaeth Cyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr gynt (GTCE) gyhoeddi '‘Removing barriers, promoting opportunities’ (2011).

Beth yw'r rhwystrau wrth ddatgelu gwybodaeth bersonol?

Mae gan Anabledd Cymru hyn i'w ddweud am y rhwystrau rhag datgelu:

Mae rhwystrau o ran agwedd yn bodoli:- sut mae cyflogwr yn rhagdybio ar sail eich amhariad, h.y. allwch chi wneud y swydd?

Mae diffyg gwybodaeth am fynediad i waith felly mae rhwystrau o ran gwybodaeth yn bodoli:

Mae rhwystrau corfforol yn bodoli o ran cynllun a mynediad i adeiladau ysgol neu goleg a diffyg hyblygrwydd o ran ble gall athrawon anabl addysgu i ystyried gofynion mynediad h.y. a ydyw'n bosibl i addysgu dosbarth ar y llawr gwaelod os nad oes lifftiau i loriau eraill os nad oes modd i athro ddefnyddio'r grisiau?

Mae hefyd dryswch am addasiadau rhesymol, beth sy'n rhesymol i'r cyflogwr a beth sy'n rhesymol i'r cyflogai anabl yn amrywio'n aml. Mae'n faes annelwig sy'n gofyn am gyfaddawdu.

Ond rydym hefyd yn cydnabod mai ein dyletswydd ni yw gwneud achos argyhoeddiadol i gofrestreion o'r grym y gall data ei gael fel sail tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi ar raddfa genedlaethol.

Draw atoch chi

Os hoffech fynegi'ch barn ar y pwnc hwn neu sut y gallwn annog cofrestreion i gwblhau eu cofnod, byddwn yn hapus i glywed wrthych chi. Anfonwch e-bost at Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Am ragor o ystadegau a dadansoddiadau o'r gweithlu, cliciwch yma.

Am gymorth neu gefnogaeth, gallwch gysylltu â Education Support Partnership.

Cwcis

Mae gwefan CGA yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori ein gwefan, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis. Am fwy o fanylion am gwcis a sut i’w rheoli, yna darllenwch ein polisi preifatrwydd.