Digwyddiad Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg

Yn dilyn cyhoeddi Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg 2024, byddwn yn cynnal briffiad ar 15 Hydref am 11:00. Byddwn yn rhoi trosolwg o’r data, gyda ffocws penodol ar y tueddiadau allweddol. Mwy o wybodaeth a manylion cadw lle.

Astudiaethau achos PiY

Rydym wedi lansio'r cyntaf mewn cyfres o astudiaethau achos yn amlygu'r heriau a'r peryglon cyffredin sy'n gallu arwain at wrandawiad priodoldeb i ymarfer (PiY). Mae pob un yn seiliedig ar esiamplau go-iawn, a'r bwriad yw cynnig pwyntiau dysgu gwerthfawr.

Eich CGA: Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA

P'un a eich bod yn newydd i'r gweithlu addysg, neu wedi'ch cofrestru ers amser maith, bwriad y weminar yw rhoi trosolwg cynhwysfawr i chi o'n Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol. Mwy o wybodaeth a manylion cadw lle.

Newyddion

CGA yn cyhoeddi ei gyflawniadau o’r flwyddyn ddiwethaf

Heddiw (7 Awst 2024), mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth...

Llongyfarchiadau i'n holl athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn falch o longyfarch y rheiny sydd wedi cael Statws Athro Cymwys (SAC) heddiw. Mae'r garreg filltir bwysig yn...

Cyhoeddi ystadegau diweddaraf y gweithlu addysg yng Nghymru

Heddiw, (31 Gorffennaf 2024), mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi eu data diweddaraf ar y gweithlu addysg yng Nghymru. Ystadegau...

CGA yn croesawu dau aelod Cyngor newydd

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi croesawu dau aelod newydd i’w Gyngor. CGA yw rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol y gweithlu addysg yng...

Lansio cyfres newydd o fideos astudiaethau achos yn arddangos y PDP

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi creu cyfres o fideos astudiaethau achos yn dangos sut mae’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) yn helpu...

Papur ymchwil newydd yn arddangos buddion ymarfer myfyriol

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (NAEL) yn falch o gyhoeddi bod papur ymchwil a...

Newidiadau i gofrestru i weithlu addysg Cymru

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi cyhoeddi bod nifer o newidiadau wedi dod i rym heddiw (10 Mai 2024) ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn addysg ar...

Dewch i siarad gyda CGA yr haf yma

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn paratoi i fynd i nifer o ddigwyddiadau a gwyliau ledled Cymru yr haf yma, sy'n gyfle gwych i gofrestreion,...

Y gydnabyddiaeth fwyaf i Wasanaeth Ieuenctid Caerffili

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili wedi derbyn cydnabyddiaeth ffurfiol am ansawdd eu darpariaeth, gan dderbyn y Marc Ansawdd Aur ar gyfer Gwaith...

Cyflwyno cynlluniau CGA at y dyfodol

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei Gynllun Strategol 2024-27 a’i Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28. Mae’r ddwy ddogfen yn...

CGA i barhau i gyflwyno’r Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid

Mae Llywodraeth Cymru wedi ailgomisiynu Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), mewn partneriaeth ag ETS Cymru, i gyflwyno a datblygu’r Marc Ansawdd ar...

Datganiad CGA ar ffioedd 2024/25 - neges i gofrestreion

O dan ddeddfwriaeth, y ffi flynyddol i'r rheiny sydd angen cofrestru gyda CGA yw £46, waeth bynnag fo'r categori cofrestru. Mae hyn yn golygu mai...

Derbynwyr diweddaraf dyfarniad ieuenctid

Mae Gwasanaethau Ieuenctid Caerffili a Chastell-nedd Port Talbot wedi eu cyhoeddi fel derbynwyr diweddaraf Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid...

CGA yn cyhoeddi canllawiau wedi eu diweddaru i gofrestreion

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi diweddaru eu canllawiau arfer da, i adlewyrchu'r arferion gorau a'r tueddiadau diweddaraf o bob cwr o'r...

Newidiadau cofrestru i weithlu addysg Cymru

Bydd nifer o newidiadau’n dod i rym i’r rhai sy’n gweithio mewn addysg bellach (AB) a dysgu oedolion ar draws Cymru. Bydd y newid cyntaf yn gofyn...

CGA yn lansio ymgynghoriadau ar gynlluniau drafft

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi lansio dau ymgynghoriad heddiw (12 Chwefror 2024), yn ceisio barn ar eu Cynllun Strategol drafft 2024-27,...

Cydnabyddiaeth fawreddog i Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd

Cyhoeddwyd mai Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yw’r diweddaraf i dderbyn y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, gan dderbyn y dyfarniad...

Derbynwyr diweddaraf gwobr ieuenctid

Mae Urban Circle Casnewydd a MAD Abertawe wedi eu cyhoeddi fel derbynwyr diweddaraf Marc Ansawdd efydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) yng Nghymru....

Edrych yn ôl ar 2023

Ionawr Siarad yn Broffesiynol 2023 gyda'r Athro Michael Fullan, yn archwilio'r cysyniad fod plant a phobl ifanc yn gallu bod yn 'newidwyr i'r...

Defnyddia Dy Gymraeg

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi ymuno â sefydliadau eraill ledled Cymru i gymryd rhan yn ymgyrch Defnyddia Dy Gymraeg. Mae’r ymgyrch, sy’n...

CGA yn gwneud sylwadau ar newidiadau arfaethedig i bwyllgorau priodoldeb i ymarfer

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi croesawu cynigion gan Lywodraeth Cymru sydd am ddiwygio Rheoliadau sy'n llywodraethu aelodaeth pwyllgorau...

Cyhoeddi ymateb CGA i newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei ymateb i ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynnig newidiadau i reoleiddio addysg yng...

Derbynwyr diweddaraf gwobr ieuenctid

Mae ProMo Cymru, Youth Cymru a YMCA Abertawe wedi eu cyhoeddi fel derbynwyr diweddaraf Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) yng Nghymru....

Sgwrsio gyda CGA – Amrywio'r gweithlu addysg yng Nghymru

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi rhyddhau'r bennod ddiweddaraf o'i bodlediad, Sgwrsio gyda CGA . Yn y bennod arbennig hon i ddathlu Mis Pobl...

Safonau arweinyddiaeth newydd ar gyfer y gweithlu ôl-16

Mae set newydd o safonau arweinyddiaeth proffesiynol wedi eu cyhoeddi ar gyfer gweithlu ôl-16 Cymru. Mae'r safonau, oedd yn gynwysedig yn y...

Cydnabod rhagoriaeth sefydliadau ieuenctid

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Conwy a Vibe Youth wedi eu cyhoeddi fel derbynwyr diweddaraf Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) yng Nghymru....

CGA yn rhyddhau podlediad gyda chyngor ar ddelio gydag aflonyddu rhywiol gan gyfoedion mewn lleoliadau addysg

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi rhyddhau'r ail bennod o'i bodlediad, Sgwrsio gyda CGA . Yn y bennod hon, Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr...

Cyhoeddi’r ystadegau diweddaraf ar y gweithlu addysg yng Nghymru

Heddiw (5 Medi 2023), mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei ddata diweddaraf am y gweithlu addysg yng Nghymru. Mae Ystadegau Blynyddol...

CGA yn arwyddo addewid gwrth-hiliaeth

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cadarnhau ei safbwynt ar hiliaeth drwy arwyddo addewid Dim Hiliaeth Cymru . Drwy ymuno gyda dros 1,500 o...

CGA yn ymateb i ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer Bil Addysg y Gymraeg

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi rhoi adborth i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer Bil Addysg y Gymraeg. Rhoddodd yr...

Yn yr adran hon, gallwch ddarllen ein cynlluniau a’n hadroddiadau sy’n dangos sut rydym ni’n cyflawni ein prif nodau, sef:

  • cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu yng Nghymru
  • cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon a phobl sy’n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru
  • diogelu buddiannau dysgwyr, rhieni a’r cyhoedd, a chynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg

Cynllun Strategol CGA 2024-27

Mae ein Cynllun Strategol 2024-27 yn amlinellu ein gweledigaeth, sef bod yn rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol, dibynadwy sy’n gweithio er budd y cyhoedd i gynnal proffesiynoldeb a gwella safonau yn y gweithlu addysg yng Nghymru. Mae’n amlinellu’r blaenoriaethau a’r amcanion a fydd yn ein helpu i wireddu’r weledigaeth hon a’r gwerthoedd a fydd wrth wraidd ein hymagwedd dros y tair blynedd nesaf.

Darllenwch ein Cynllun Strategol 2024-27 (HTML).

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28

Rydym ni’n ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac am chwarae ein rhan i greu Cymru decach. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn amlinellu sut byddwn ni’n cofleidio ein rôl wrth hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, o fewn ein sefydliad ac (o fewn ein cylch gwaith) ar draws y gweithlu addysg ehangach yng Nghymru.

Darllenwch ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 (HTML).

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon

Mae ein Hadroddiad Blynyddol yn cynnig trosolwg cynhwysfawr o’n cynnydd a’n heffaith dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf ac mae’n amlygu rhai o’n cyflawniadau allweddol. Hefyd, mae’n esbonio ein llywodraethiant, ein hadnoddau ariannol a’n cynlluniau at y dyfodol.

Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2023-24

Adroddiad Priodoldeb i Ymarfer Blynyddol

Rydym ni’n cyhoeddi adroddiad priodoldeb i ymarfer blynyddol sy’n amlinellu:

  • sut rydym ni’n delio â materion sy’n cael eu cyfeirio atom ni
  • data am y mathau o achosion rydym ni’n delio â nhw, gan gynnwys tueddiadau o flwyddyn i flwyddyn
  • datblygiadau yn y dyfodol i wella’r ffordd rydym ni’n cyflawni’r gwaith hwn

Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer 2023-24.

Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb

Rydym ni’n cyhoeddi adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb sy’n amlygu’r cynnydd a wneir bob blwyddyn tuag at gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb.

Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2023-24.

Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau’r Gymraeg

Mae’r adroddiad hwn yn darparu gwybodaeth am sut rydym ni wedi cydymffurfio ac mae’n amlinellu sut rydym ni wedi gweithredu’r safonau.

Darllenwch ein Hadroddiad monitro blynyddol Safonau’r Gymraeg 2023-24.

Darllenwch fwy am sut rydym ni’n cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.