CGA / EWC

Induction banner
Canllawiau cyllid sefydlu
Canllawiau cyllid sefydlu

Cyflwyniad

Mae cyfnodau sefydlu statudol yn berthnasol i’r holl athrawon a gyflawnodd statws athro cymwysedig (SAC) ar 1 Ebrill 2003 neu ar ôl hynny. Rydym ni, ar ran Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol am nifer o weithgareddau gweinyddol sy’n gysylltiedig â’r rhaglen sefydlu, gan gynnwys:

  • casglu, coladu, a chynnal ffynhonnell ganolog o ddata ar gyfer athrawon sy’n ymgymryd â’r rhaglen sefydlu, gan gynnwys manylion cyflogaeth wrth iddynt symud trwy’r broses sefydlu, cofnod o’u mentor sefydlu (MS) a’u dilysydd sefydlu (DS), a chofnod o’r sesiynau sefydlu a gwblhawyd
  • rhannu’r wybodaeth hon â phartïon eraill sy’n gysylltiedig â’r rhaglen sefydlu, gan gynnwys yr athro newydd gymhwyso (ANG), yr MS, y DS, y cydlynydd sefydlu yn yr Awdurdod Lleol (ALl)/consortia rhanbarthol, a’r corff priodol (CP) ar gyfer sefydlu
  • gweinyddu cyllid sefydlu i ysgolion
  • gweinyddu cyllid ar gyfer y rôl DS i awdurdodau lleol/consortia addysg rhanbarthol
  • cynnal a darparu mynediad at y proffil sefydlu statudol ar-lein trwy’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)
  • rhoi tystysgrifau sefydlu yn seiliedig ar ganlyniadau sefydlu a ddarparwyd gan y CP
  • clywed apeliadau sefydlu, y mae canllawiau arnynt ar gael ar ein gwefan

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r camau y mae’n rhaid i’r holl bartïon perthnasol eu cymryd i sicrhau y gallwn gyflawni’r cyfrifoldebau hyn.

Mae’n bwysig nodi na allwn roi cyngor ac arweiniad ynglŷn â chyflwyno’r rhaglen sefydlu na’i chynnwys. Mae hyn ar gael trwy gysylltu â’r cydlynydd sefydlu yn eich awdurdod lleol.

Mae gwybodaeth am y trefniadau sefydlu yng Nghymru, gan gynnwys mynediad at y rheoliadau sefydlu, canllawiau Llywodraeth Cymru, a’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth, ar gael ar Hwb.

 


Prev Next »