Dewiswch eich iaith

Gwybodaeth preifatrwydd Cyngor y Gweithlu Addysg

Ffôn: 029 2046 0099 | E-bost: gwybodaeth@cga.cymru | Twitter: @ewc_cga

Rydym ni’n defnyddio’ch data personol i gyfathrebu ac ymgysylltu â chi, yn bennaf trwy:

  • tanysgrifiadau i e-gylchlythyrau a gwahoddiadau i ddigwyddiadau
  • mynd i ddigwyddiad, briffiad neu weithdy neu lenwi arolwg
  • ymholiadau gan y cyfryngau

Ble yr ydym yn cael eich gwybodaeth

Caiff eich gwybodaeth ei chasglu wrth ichi gofrestru i gael y cylchlythyr, cofrestru i fynd i ddigwyddiad neu gysylltu â ni gydag ymholiad gan y cyfryngau.  

Pa wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu

Ar gyfer y cylchlythyr, mae arnom angen eich enw a’ch cyfeiriad e-bost. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn defnyddio’ch swydd a’ch lle gwaith ar gyfer cyfathrebu targededig.

Os ydych chi eisiau mynd i un o'n digwyddiadau, byddwn yn gofyn ichi roi’ch gwybodaeth gyswllt gan gynnwys enw’ch sefydliad a gwybodaeth am unrhyw ofynion deietegol sydd gennych neu unrhyw ddarpariaethau o ran mynediad mae arnoch eu hangen.

Os ydych chi’n aelod o’r wasg neu’r cyfryngau, mae arnom angen gwybodaeth gyswllt gennych er mwyn inni allu ymateb ichi ynghylch yr ymholiad gan y cyfryngau. Byddwn yn cymryd eich enw a’ch rhif/cyfeiriad e-bost cyswllt a, lle bo’n berthnasol, enw’r sefydliad yr ydych yn ei gynrychioli.

Sut yr ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth

Rydym ni’n cyhoeddi ein cylchlythyron i randdeiliaid, Newyddion CGA a Newyddion FyCGA hyd at bedair gwaith y flwyddyn. Rydym hefyd yn anfon nodiadau atgoffa am ddigwyddiadau i'n cofrestreion a'n rhanddeiliaid. Rydym yn defnyddio Email Blaster i gyhoeddi e-gylchlythyrau a gwahoddiadau i ddigwyddiadau. I gael rhagor o wybodaeth, gweler hysbysiad preifatrwydd Email Blaster.

Pan rydych chi’n cofrestru i fynd i un o’n digwyddiadau, rydym yn defnyddio’r wybodaeth a roddir i hwyluso’r digwyddiad ac i roi gwasanaeth derbyniol ichi. Mae arnom angen y wybodaeth hon hefyd er mwyn inni allu ymateb i unrhyw ymholiadau. Nid ydym ni’n rhannu’r wybodaeth hon gyda’r lleoliad mewn unrhyw ffordd lle gellid eich adnabod, ac rydym ni’n ei dileu ar ôl y digwyddiad. Rydym yn rhoi opsiwn i ddewis derbyn, sy'n cydsynio i ni gadw eich manylion i'w defnyddio yn y dyfodol. Os hoffech optio allan ar unrhyw bwynt, cysylltwch â This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Mae'n bosibl y byddwn yn anfon negeseuon atgoffa trwy e-bost atoch chi cyn y digwyddiad. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn gofyn am adborth gennych ar ôl y digwyddiad. Bydd hyn trwy neges e-bost. Ni fyddwn yn mynnu cael unrhyw fanylion personol gennych chi yn yr achos hwn. Nid ydym yn cyhoeddi rhestrau o gynrychiolwyr ar gyfer digwyddiadau. Ar hyn o bryd rydym yn defnyddio Ticket Source i reoli ein system bwcio a Zoom i gynnal ein digwyddiadau ar-lein. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar hysbysiad preifatrwydd Zoom a hysbysiad preifatrwydd Ticket Source.

Rydym ni’n casglu gwybodaeth ar gyfer datganiadau i’r cyfryngau er mwyn ymateb i unrhyw ymholiadau a gawn. Mae angen inni gadw cofnod o bwy yr ydym wedi siarad â nhw a beth y gofynnwyd amdano/a ddarparwyd. Os na allwn ateb eich ymholiad/cais dros y ffôn, bydd arnom angen eich gwybodaeth gyswllt ar gyfer ein hymateb.


Pam mae ein defnydd o’ch data personol yn gyfreithlon

Ein diben wrth gasglu’r wybodaeth benodedig yw er mwyn inni allu hwyluso digwyddiadau a darparu gwasanaeth derbyniol ichi. Y sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw eich cydsyniad o dan Erthygl 6(1)(a) o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Pan fyddwn yn casglu unrhyw wybodaeth am ofynion deietegol neu ofynion o ran mynediad, mae arnom angen eich cydsyniad (o dan Erthygl 9(2)(a)) hefyd gan fod gwybodaeth o’r math hwn yn cael ei hystyried yn ddata categori arbennig. Bydd ffotograffiaeth/ffilmio mewn digwyddiadau hefyd yn cael ei reoli ar sail cydsyniad.

Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 (ac unrhyw ddiwygiadau dilynol) a rheoliadau neu ddeddfwriaeth cysylltiedig, yn nodi ein swyddogaethau a’r wybodaeth y cawn ei dal. Rydym yn casglu’r wybodaeth hon er mwyn inni allu darparu gwasanaeth ichi a rhoi gwybod ichi am ddigwyddiadau sydd ar y gweill.

Os ydych chi’n tanysgrifio i’n cylchlythyr i randdeiliaid, Newyddion CGA, rydym yn dibynnu ar eich cydsyniad o dan Erthygl 6(1)(a) o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data fel y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu’ch data personol. Mae'n bosibl y byddwn hefyd yn dibynnu ar fudd y cyhoedd fel y sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio’ch manylion cyswllt at ddibenion anfon cylchlythyrau neu roi gwybod ichi am ddigwyddiadau gan fod arnom ddyletswydd gyfreithiol i gefnogi dysgu a datblygiad personau cofrestredig.

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, nid ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol ond i ymateb i chi a byddwn yn cadw cofnod o’n cyfathrebiadau gyda chi, ar lafar ac mewn ysgrifen. Byddwn hefyd yn defnyddio’ch gwybodaeth gyswllt i anfon ein datganiadau i’r cyfryngau atoch chi. Y sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’ch data personol yw tasg gyhoeddus, o dan Erthygl 6(1)(e) o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.