Dewiswch eich iaith

Gwybodaeth preifatrwydd Cyngor y Gweithlu Addysg

Ffôn: 029 2046 0099 | E-bost: gwybodaeth@cga.cymru

Pan fyddwch yn ymweld â’n gwefannau, rydym yn defnyddio meddalwedd Google analytics i gasglu gwybodaeth safonol am gofnodion ar y rhyngrwyd, a manylion ymwelwyr a phatrymau ymddygiad. Caiff y wybodaeth hon ei phrosesu fel nad oes modd adnabod neb. Mae’r wybodaeth a gesglir trwy weinyddion ein gwefannau’n ein helpu ni i wella cynnwys, dyluniad a pherfformiad y safle perthnasol.

Os ydym eisiau casglu gwybodaeth bersonol y gellir adnabod unigolion ohoni trwy ein gwefan, byddwn yn datgan hynny’n glir. Byddwn yn ei gwneud yn glir pan fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol ac yn esbonio’r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud â hi. Mae’r Cyngor yn sicrhau bod y platfform sy’n lletya ei wefan yn cael ei ddiweddaru â’r feddalwedd a’r diweddariadau diogelwch diweddaraf. Mae mynediad HTTPS ar waith er mwyn sicrhau amgryptiad o ben i ben.

Ble yr ydym yn cael eich gwybodaeth

Mae’r data y gall CGA eu casglu pan fyddwch yn defnyddio ein gwefannau’n cynnwys:

  • cwestiynau, ymholiadau, adborth neu ymatebion i arolygon a ddarperir gan unigolion, gan gynnwys cyfeiriadau e-bost os caiff neges e-bost ei hanfon at gyfeiriad a restrir ar un neu fwy o’n gwefannau
  •  gwybodaeth a anfonir atom trwy e-bost
  • y wybodaeth a gofnodwyd wrth ddefnyddio’r cyfleusterau chwilio ar ein gwefannau
  • cyfeiriadau IP y mae unigolion yn cyrchu ein gwefannau ohonynt, a manylion y fersiwn o’r porwr we a’r system gweithredu a ddefnyddiwyd
  • amser a dyddiad yr ymweliadau â’r gwefannau
  • data “ffrwd clicio”, sef gwybodaeth am sut mae unigolion yn defnyddio’r gwefannau, gan ddefnyddio cwcis a thechnegau tagio tudalen
  • cyfeiriad y wefan sy’n cyfeirio unigolion at ein gwefannau ni
  • gwybodaeth a gaiff ei chyflwyno inni’n ddienw lle nad yw defnyddwyr ein gwefannau wedi’u mewngofnodi i’n gwefannau..

Cwcis

Rydym yn defnyddio offeryn cwcis ar ein gwefan er mwyn cael cydsyniad ar gyfer y cwcis dewisol a ddefnyddiwn.

Mae CGA yn defnyddio Google analytics, YouTube, a chwcis dewis iaith ar y safle.

Mae cwci yn ffeil fach sy’n cynnwys llinyn o nodau a anfonir at eich cyfrifiadur pan fyddwch yn ymweld â gwefan. Pan fyddwch yn ail-ymweld â’r safle, mae’r cwci yn caniatáu i’r safle hwnnw adnabod eich porwr. Gall cwcis storio dewisiadau’r defnyddiwr a gwybodaeth arall. Gallwch ffurfweddu eich porwr i wrthod pob cwci neu i ddangos pan fydd cwci yn cael ei anfon. Fodd bynnag, mae’n bosibl na fydd rhai nodweddion neu wasanaethau ar wefan yn gweithio’n iawn heb gwcis.

I gael gwybod mwy am ein defnydd o gwcis Google analytics a YouTube, defnyddiwch y ddolen isod:

https://policies.google.com/technologies/partner-sites?hl=en

Diogelwch a pherfformiad

Rydym yn defnyddio wal dân cymwysiadau ar y we o gwmni Watchguard i helpu i gynnal diogelwch a pherfformiad ein gwefan. Mae’r gwasanaeth yn gwirio bod y traffig i’r safle’n ymddwyn fel y disgwylir, a bydd y gwasanaeth yn rhwystro traffig nad yw’n defnyddio’r safle fel y disgwylir. Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, mae Watchguard yn prosesu cyfeiriadau IP y rhai sy’n ymweld â’r safle.

Rydym yn lletya ein gwefan yn fewnol ac yn cadw gwybodaeth draffig ddienw am 12 mis.

Reachdeck

Mae gwasanaeth Reachdeck yn caniatáu i ymwelwyr â’r safle wrando ar lais yn darllen cynnwys y safle yn uchel, symleiddio ac addasu’r safle, a chyfieithu’r cynnwys i ieithoedd gwahanol. Darperir y gwasanaeth gan gwmni Texthelp.

Pan ofynnir am i’r cynnwys gael ei ddarllen yn uchel, caiff ei amgryptio a’i anfon at Texthelp i’w drosi i ffeil sain. Caiff ei yrru’n ôl wedyn gan ddefnyddio’r un amgryptiad. Pan ofynnir am i’r cynnwys gael ei gyfieithu, caiff y cynnwys ei anfon yn yr un modd i ac o wasanaeth Google Translate.

Nid yw Reachdeck yn casglu nac yn storio unrhyw wybodaeth bersonol y gellir adnabod unigolion ohoni.

Sut yr ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth

Diben rhoi’r uchod ar waith yw cynnal a monitro perfformiad ein gwefan a cheisio gwella’n barhaus y safle a’r gwasanaethau mae’n eu cynnig i’n defnyddwyr.

Pam mae ein defnydd o’ch data personol yn gyfreithlon

Y sail gyfreithlon yr ydym yn dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw naill ai Erthygl 6(1)(a) o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, er enghraifft pan fydd arnom angen eich cydsyniad ar gyfer y cwcis dewisol a ddefnyddiwn, neu Erthygl 6(1)(f) sy’n caniatáu inni brosesu data personol pan fo angen gwneud hynny at ein buddiannau dilys. Er enghraifft, er mwyn cynnal cyfanrwydd ein systemau TG a pharhad ein busnes.

Dolenni at wefannau eraill

Lle rydym yn rhoi dolenni at wefannau sefydliadau eraill, nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i sut bydd y sefydliad hwnnw’n prosesu gwybodaeth bersonol. Rydym yn eich annog i ddarllen yr hysbysiadau preifatrwydd ar y gwefannau eraill yr ydych yn ymweld â hwy.