Dewiswch eich iaith

Gwybodaeth preifatrwydd Cyngor y Gweithlu Addysg

Ffôn: 029 2046 0099 | E-bost: gwybodaeth@cga.cymru

Mae'r tîm Cyllid yn adran fach o fewn CGA sy’n gyfrifol am ddarparu cymorth cyflogres a phensiynau a chymorth ariannol cyffredinol ar draws y sefydliad. Mae ei gyfrifoldebau’n cynnwys rheoli gwasanaethau cyflogres yn gyffredinol i’r holl gyflogeion ac aelodau cyflenwi allanol sy’n cael eu talu trwy’r gyflogres a hefyd y gwasanaethau pensiynau i’r holl staff sydd wedi’u cofrestru yng nghynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil, MyCSP.

Ble yr ydym yn cael eich gwybodaeth

Caiff data personél eu hanfon at y tîm Cyllid gan dîm Adnoddau Dynol CGA. Mae Adnoddau Dynol yn cael y wybodaeth trwy’r broses recriwtio.

Rydym ni hefyd yn cael gwybodaeth cyflogres yn uniongyrchol oddi wrthych chi trwy ffurflenni cyflogres cyllid CGA, h.y.

  • Ffurflen dechrau cyflogeion/aelodau newydd
  • Datganiad rhestr wirio cyflogai newydd CThEM
  • Holiadur pensiwn MyCSP
  • Ffurflen hanes gwasanaeth cyhoeddus.

Pa wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu

Mae data personol yn ofynnol at y diben hwn er mwyn talu cyflogeion ac aelodau am waith a gwblhawyd o dan y contract cyflogaeth. Er mwyn gwneud y taliadau perthnasol, mae angen manylion cyswllt, manylion banc a chyfeiriadau post.

Mae ffurflen treuliau/costau cyflenwi yn cael ei llenwi gan yr unigolyn. Fel arall, mae’r wybodaeth yn cael ei hanfon trwy e-bost at y tîm perthnasol yn CGA oddi wrth yr unigolyn.

- Enw llawn
- Cyfeiriad
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Codau Talu Wrth Ennill
- Cenedligrwydd
- Tarddiad ethnig
- Rhyw
- Statws priodasol
- Dyddiad geni
- Manylion banc
- Dyddiad cyflogaeth
- Cyflog a thaliadau hanesyddol

Sut yr ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth

Manylion cyflogres a phensiynau i gyflogeion ac aelodau CGA:-

Cyflogres a phensiynau: Data personol eraill: Manylion treth, rhif Yswiriant Gwladol
Taliadau credydwyr
Ffeiliau PDF (Taliadau)
Cofrestru: ffi ac ad-daliadau athrawon/cofrestreion
Taliadau aelodau o baneli Priodoldeb i Ymarfer
Taliadau tystion Priodoldeb i Ymarfer
Taliadau aelodau o’r Bwrdd AGA
Taliadau aelodau o gyngor CGA
Treuliau’r staff

Caiff gwybodaeth ei rhannu gyda Banc Barclays er mwyn prosesu taliadau.

Caiff manylion cyflogau eu rhannu gydag adran Adnoddau Dynol CGA a CThEM. Caiff gwybodaeth pensiynau ei rhannu gyda Swyddfa’r Cabinet a MyCSP

Pam mae ein defnydd o’ch data personol yn gyfreithlon

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu’r data personol hyn yw Erthygl 6 (1) (c) Rhwymedigaeth gyfreithiol ac Erthygl 6 (1) (e) Tasg gyhoeddus.