Dewiswch eich iaith

Gwybodaeth preifatrwydd Cyngor y Gweithlu Addysg

Ffôn: 029 2046 0099 | E-bost: gwybodaeth@cga.cymru

Ar ran Llywodraeth Cymru, mae CGA yn gyfrifol am weinyddu’r rhaglenni sefydlu, Datblygiad Proffesiynol Cynnar (DPC) a’r radd Meistr mewn Addysg).

Yng Nghymru, mae’n ofynnol i’r holl Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG) a gafodd Statws Athro Cymwysedig (SAC) o 1 Ebrill 2003 ymlaen gwblhau cyfnod sefydlu statudol.

Mae’r rhaglenni Datblygiad Proffesiynol Cynnar a’r radd Meistr mewn Addysg wedi dod i ben. Mae CGA yn dal i gadw cofnodion am yr arian a ryddhawyd mewn perthynas â’r rhaglen Datblygiad Proffesiynol Cynnar, ynghyd â manylion y rhai a gymerodd ran yn y rhaglen gradd Meistr a’r cymhwyster a ddyfarnwyd.


Ble yr ydym yn cael eich gwybodaeth

Caiff y wybodaeth yr ydym yn ei dal ei chasglu trwy ddulliau amrywiol gan gynnwys;

  • y Gofrestr Ymarferwyr Addysg
  • Gwaith papur sefydlu perthnasol gan gynnwys y Ffurflen Hysbysu Sefydlu, Ffurflen Hysbysu Athro Cyflenwi Byrdymor a’r Ffurflen Hawlio Cyllid Sefydlu
  • Gwybodaeth a ddarparwyd gan eich cyflogwr a all gynnwys eich ysgol, asiantaeth cyflenwi, Awdurdod Lleol neu gonsortia addysg rhanbarthol
  • Gwybodaeth a roesoch wrth gysylltu â CGA. Gall hyn fod yn gyfathrebu ysgrifenedig neu ar lafa
  • Nid ydym yn casglu unrhyw ddata ynghylch hil na chredau crefyddol.


Pa wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu

Er mwyn gweinyddu’r rhaglenni Sefydlu, gradd Meistr mewn Addysg a Datblygiad Proffesiynol Cynnar yng Nghymru, mae’n ofynnol inni ddal y wybodaeth ganlynol amdanoch;

  • Eich enw
  • Rhif Cyfeirnod Athro
  • Dyddiad geni
  • Manylion cyswllt gan gynnwys cyfeiriad cartref, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn
  • Manylion cyflogaeth, gan gynnwys data cyfredol a hanesyddol
  • Manylion cymwysterau
  • Manylion am eich statws cofrestru gyda CGA, gan gynnwys data cyfredol a hanesyddol
  • Manylion am eich dewis iaith ar gyfer cwblhau’r broses sefydlu. Caiff y data hyn eu casglu er mwyn sicrhau y caiff GA ei ddyrannu i chi sy’n gallu eich cefnogi trwy’r broses sefydlu yn eich dewis iaith.


Sut yr ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth

Mae CGA yn cyflawni nifer o weithgareddau gweinyddol mewn perthynas â’r rhaglenni sefydlu, Datblygiad Proffesiynol Cynnar a’r radd Meistr mewn Addysg, gan gynnwys:

  • cynnal ffynhonnell ganolog o ddata i athrawon sy’n cyflawni’r broses sefydlu, gan gynnwys cynnal cofnod o’u manylion cyflogaeth wrth iddynt gwblhau’r broses, cofnod o’r sesiynau a gwblhawyd, a manylion eu Mentor Sefydlu (MS) a’r Gwiriwr Allanol (GA) a ddyrannwyd iddynt;
  • rhannu’r wybodaeth hon gyda phartïon eraill sy’n ymwneud â’r broses o ddarparu’r rhaglen sefydlu. Mae’r rhain yn cynnwys yr ANG, MS, GA a’r cydgysylltydd sefydlu yn yr awdurdod lleol (ALl)/consortia addysg rhanbarthol fel y Corff Priodol ar gyfer sefydlu;
  • gweinyddu cyllid sefydlu i ysgolion a chyllid ar gyfer darparu rôl y Gwiriwr Allanol i’r consortia addysg rhanbarthol a chyflogwr y GA;
  • lletya a chynnig mynediad i’r Proffil Sefydlu statudol ar-lein trwy’r Pasbort Dysgu Proffesiynol. I gael gwybodaeth am sut caiff eich data eu defnyddio yn y pasbort, dylech gyfeirio at ein hysbysiad preifatrwydd sydd ar gael yma;
  • cyhoeddi tystysgrifau sefydlu ar sail y canlyniadau sefydlu a ddarperir gan y Corff Priodol;
  • tasgau gweinyddol eraill mewn perthynas â gweinyddu’r rhaglen sefydlu fel y gofynnir amdanynt gan Lywodraeth Cymru. Gellir rhannu data gyda’r unigolyn mae’n ofynnol iddo gwblhau’r broses sefydlu, ei gyflogwr a all gynnwys ysgol, asiantaeth cyflenwi neu Awdurdod Lleol, Llywodraeth Cymru a’r consortia addysg rhanbarthol;
  • cynnal manylion y rhai sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglenni Datblygiad Proffesiynol Cynnar a’r radd Meistr mewn Addysg. Mae’r wybodaeth a ddelir yn cynnwys manylion y cyllid Datblygiad Proffesiynol Cynnar a ryddhawyd, a’r modiwlau a gwblhawyd a’r cymwysterau a enillwyd gan y rhai a gymerodd ran yn y rhaglen gradd Meistr mewn Addysg.


Pam mae ein defnydd o’ch data personol yn gyfreithlon

Y brif sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni i brosesu data personol yw erthygl 6(1)(e) o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy’n caniatáu inni brosesu data personol pan fo angen hyn i gyflawni ein tasgau cyhoeddus fel rheoleiddiwr.

Caiff data ynghylch cyfranogiad unigolyn yn y rhaglenni Sefydlu, Datblygiad Proffesiynol Cynnar a’r radd Meistr mewn Addysg eu storio’n electronig ar Gofrestr Ymarferwyr Addysg CGA, a ddarperir gan MillerTech Ltd.

Er mwyn inni gyflawni ein tasg gyhoeddus mewn perthynas â sefydlu statudol yng Nghymru, rydym yn rhannu gwybodaeth gyda thrydydd partïon sydd hefyd yn chwarae rhan yn y rhaglen sefydlu. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Mentoriaid Sefydlu
  • Gwirwyr Allanol
  • Cydgysylltwyr Sefydlu yn yr Awdurdod Lleol/ consortia addysg rhanbarthol
  • Llywodraeth Cymru
  • Cyflogwyr, gall hyn gynnwys ysgolion, asiantaethau cyflenwi neu Awdurdodau Lleol

Caiff y wybodaeth hon ei rhannu’n electronig trwy gyfleuster gwasanaethau ar-lein CGA. Dim ond yn ystod y cyfnod sefydlu bydd gan y partïon hyn hawl i weld eich gwybodaeth. Cliciwch yma i ddarllen ein polisi rhannu data.

Os bydd angen inni gysylltu drwy e-bost â chi, eich MS, GA neu Gydgysylltydd Sefydlu ynghylch eich sefydlu, ac mae’r neges yn cynnwys gwybodaeth bersonol, caiff y neges ei hanfon drwy system Egress, sy’n feddalwedd i anfon negeseuon e-bost a throsglwyddo ffeiliau’n ddiogel.

Mae’n ofynnol inni ddarparu data ystadegol i Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill mewn perthynas â’r rhaglen sefydlu yng Nghymru. Wrth gynhyrchu’r data a’u rhannu, rydym yn sicrhau nad oes modd adnabod unigolion a chaiff unrhyw ddata eu rhannu’n ddiogel yn unol â’n Polisi Rhannu Data.

.