Michael Gumm - 7 Chwefror 2024
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 5, 6, a 7 Chwefror 2024, wedi canfod bod honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi eu profi yn erbyn yr ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, a'r gweithwir cymorth dysgu addysg bellach, Michael Gumm.
Fe wnaeth y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer ganfod bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra bod Mr Gumm wedi ei gyflogi fel Asesydd gan Tydfil Training Consortium (TTC) ac yn gweithio yn y Coleg Merthyr Tudful:
- wneud sylwadau o natur rywiol ac amhriodol ar nifer o achosion, ar neu o gwmpas Hydref 2022.
- ar neu o gwmpas 18 Hydref 2022, drafod gwybodaeth bersonol amhriodol gyda Dysgwr B a Dysgwr C.
- ar ddyddiad neu ddyddiadau rhwng 11 Hydref 2022 ac 18 Hydref 2022, wahodd un neu fwy o ddysgwyr i gysylltu ag ef ar Facebook.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mr Gumm oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, ac ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith. Penderfynnodd hefyd na fyddai Mr Gumm yn cael gwneud cais i'w adfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o 2 blynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mr Gumm wneud cais llwyddiannus i'w hadfer i'r Gofrestr ar ôl 7 Chwefror 2026, bydd wedi ei wahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mr Gumm yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.