Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi ymrwymo i wneud y wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r datganiad hygyrchedd yn berthnasol i wefan CGA www.cga.cymru.
Defnyddio'r wefan
Mae'r wefan yn cael ei rhedeg gan CGA. Ry'n ni am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefel contrast, a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y dudalen
- llywio rhan fwyaf y wefan gan ddefnyddio'r bysellfwrdd yn unig
- llywio rhan fwyaf y wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- defnyddio rhan fwyaf y wefan gan ddefnyddio teclyn darllen y sgrin
Rydym wedi ychwanegu bar offer ReachDeck i'r wefan, sy'n gallu cael eu hagor drwy ddefnyddio'r eicon person du ar gefndir glas ar frig y dudalen.
Bydd bar offer ReachDeck yn eich helpu i ddarllen a chyfieithu cynnwys y wefan. Mae'r swyddogaethau yn cynnwys:
- testun i llafar: dewiswch unrhyw destun i'w glywed yn cael ei ddarllen
- cyfieithu: cyfieithu cynnwys i dros 100 o ieithoedd
- chwyddo testun: gwneud testun yn fawr a'i glywed yn uchel
- Creu MP3: trosi testun yn ffeil sain MP3
- masg sgrin: lleihau llacharedd gyda masg â thint iddo
- symleiddio tudalen: tynnu'r pethau ychwanegol oddi ar y sgrin, dangos y prif destun yn unig
- geiriadur lluniau: dangos lluniau sy'n berthnasol i'r testun ar y dudalen
Os oes gyda chi anabledd mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei ddefnyddio.
Gwneud cais am fformat gwahanol
Os oes angen gwybodaeth ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol, fel tesun plaen, Iaith Arwyddion Prydain, print bras, hawdd ei ddarllen, neu recordiad sain, anfonwch e-bost at
Bydd angen i chi ddweud wrthym:
- cyfeiriad gwe (URL) y wybodaeth sydd ei hangen arnoch
- y fformat yr hoffech y wybodaeth ynddo
- pa dechnolegau cynorthwyol yr ydych yn eu defnyddio
Byddwn yn adolygu eich cais ac yn dod yn ôl atoch o fewn 15 diwrnod gwaith.
Statws cydymffurfiaeth
Mae'r wefan hon yn rhannol cydymffurfio gyda Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 safon AA, oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio isod.
Cynnwys anhygyrch
(a) anghydymffurfiaeth gyda'r rheoliadau hygyrchedd
Mae'r materion canlynol wedi eu datrys lle bo modd, fodd bynnag, mae effeithir ar nifer cyfyngedig o dudalennau o hyd. Rydym yn edrych am ddatrysiadau i'r materion hyn lle gallwn.
- Mae rhai aria sydd wedi labeli gan briodolyn, yn cyfeirio at elfen blanc. Mae hyn yn methu WCAG 2.2 A 4.1.2 Adran 508 (2017) A 4.1.2
- Mae rhai botymau radio gyda labeli generig iawn angen eu cadw mewn maes wedi ei osod gydag allwedd yn esbonio’r label. Mae hyn yn methu WCAG 2.2 AA 2.4.6 Adran 508 (2017) AA 2.4.6
- Does dim priodolyn teitl gan rhai elfennau iframe a ffrâm. Mae hyn yn methu WCAG 2.2 A 4.1.2 Adran 508 (2017) A 4.1.2
- Nid oes elfen allwedd ar gyfer pob elfen gosod mewn maes. Mae hyn yn methu WCAG 2.2 A H71 Adran 508 (2017) A H71
PDFs a dogfennau eraill
Nid yw pob un o'r PDFs ar ein gwefan yn hygyrch achos:
- does dim tagiau arnynt y gall darllenwyr sgrin gael gwybodaeth ohonynt
- does dim llyfrnodau arnynt i helpu darllenwyr sgrin lywio drwy'r wybodaeth
- mae'r diffiniad iaith ar goll i alluogi darllenwyr sgrin ddewis yr iaith gywir wrth ddarllen allan yn uchel
- does dim teitl gyda nhw i ganiatáu i ddarllenwyr sgrin adnabod topic y ddogfen
Rydym yn gweithio ar hyn o bryd i ddisodli'r PDFs gyda thudalennau HTML lle bo modd. Bydd unrhyw PDFs nad ydynt yn gallu eu troi yn dudalennau HTML yn cael eu diweddaru i fodloni safonau hygyrchedd. Fodd bynnag, nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn gofyn ein bod yn trwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018, os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.
Os oes angen i chi gael gwybodaeth sydd yn un o'r mathau hyn o ddogfennau, cysylltwch â ni a gofynnwch am fformat gwahanol.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd yma
Paratowyd y datganiad yma ar 27 Ebrill 2023. Fe'i diweddarwyd ar 30 Medi 2024.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 23 Medi 2024. Gwnaed y prawf yn fewnol.
Fe wnaethom ddefnyddio Sort Site i sganio ein tudalennau. Fe wnaeth y sgan gynnwys cyfuniad o dempledi craidd, templedi a ddefnyddir yn aml a thempledi cymhleth.
Fe wnaethom brofi ein platfform gwefan sydd yn https://www.cga.cymru.
Yn Hydref 2023, fe wnaeth Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU gynnal archwiliad o sampl cynrychioladol o'n tudalennau, lle nodwyd nifer o broblemau hygyrchedd cyffredin, a'u trwsio. Mae'r rheiny sydd heb eu trwsio eto wedi eu rhestri yn yr adran 'diffyg cydymffurfio' uchod.
Adborth a manylion cyswllt
Rydym o hyd yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestri ar y dudalen hon, neu os ydych yn credu nad ydynt yn bodloni rheoliadau hygyrchedd, e-bostiwch
Gweithdrefnau gorfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os ydych chi'n anhapus gyda'r ffordd y byddwn yn ymateb i'ch ymholiad, cysylltwch â Gwasanaeth Cynghori a Chefnogaeth Cydraddoldeb (EASS).