Pam mae CGA yn defnyddio Egress Protect?
Oherwydd ein gwaith rheoleiddiol, rydym yn aml yn ymdrin â chyfrolau mawr o ddata personol, ac ni fyddem am i'r data fynd i'r dwylo anghywir. Yn gynyddol rydym yn anfon gwybodaeth trwy e-bost, gan fod hwn yn ffordd gyflym a chyfleus o gyfathrebu.
Mae Egress Switch yn rhaglen e-bostio a throsglwyddo ffeiliau diogel sy'n caniatáu i'r Cyngor anfon negeseuon e-bost a dogfennau sensitif mewn modd diogel.
Mae negeseuon neu ddogfennau a anfonir trwy Egress yn cael eu diogelu gydag amgryptiad AES 256-bit.
Oes yna gost?
Na, mae'n rhad ac am ddim i gael negeseuon e-bost oddi wrth CGA, a gallwch hefyd ymateb yn ddiogel i'r negeseuon e-bost hynny. Codir tâl arnoch ddim ond os byddwch chi'n defnyddio Egress eich hun i'w hanfon at dderbynwyr heblaw am CGA.
Sut ydw i'n agor e-bost Egress Protect?
Os anfonwyd e-bost diogel atoch, fe gewch neges fel y dangosir i'r dde gyda'r geiriau:
Anfonwyd yr e-bost hwn atoch yn ddiogel trwy gyswllt yng Nghyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Os oes gennych unrhyw amheuon am yr e-bost hwn, cysylltwch â'r anfonwr yn uniongyrchol gan ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost a ddylai gorffen gyda ewc.wales neu cga.cymru
I gael mynediad at y neges ddiogel, gallwch greu cyfrif Switch e-bost am ddim ar eu gwefan trwy glicio ar y ddolen defnyddiwr newydd.
Neu, os oes gennych gyfrif eisoes, mae angen i chi fewngofnodi gyda'r ddolen defnyddiwr presennol.
Bydd cael cyfrif Egress am ddim hefyd yn caniatáu i chi anfon atebion diogel i Gyngor y Gweithlu Addysg.
Darllenwch fwy am e-bost diogel Egress Protect
Ewch i wefan Egress am gefnogaeth bellach
Ydw i'n gallu agor negeseuon Egress ar fy ffôn neu lechen?
Ydych. Mae gan Egress wefan ar gyfer ffonau symudol i helpu wrth agor y wefan ar ddyfais symudol a cheir apiau ar gyfer dyfeisiau Apple ac Android.
Beth os ydw i'n profi problemau technegol?
E-bostiwch dîm cefnogi Egress drwy