Sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fframwaith cyfreithiol i osod dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i gydymffurfio â safonau newydd y Gymraeg.
Mae’r safonau hyn yn gosod disgwyliadau clir arnom i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg i’n cofrestreion, ein rhanddeiliaid a’r cyhoedd, a hyrwyddo’r defnydd ar y Gymraeg trwy ein holl wasanaethau.
Mae’n ofynnol i ni gydymffurfio â 148 o safonau sy’n cwmpasu cyflenwi gwasanaethau, materion gweithredol, llunio polisïau a chadw cofnodion.
Darllenwch Safonau’r Gymraeg y mae’n ofynnol i ni gydymffurfio â nhw .
Sut rydym ni’n cydymffurfio â’r safonau
Safonau darparu gwasaneth
- Mae’r holl staff yn gwybod sut i ymateb i ohebiaeth (llythyr ac e-bost), ateb y ffôn, trefnu a chynnal cyfarfodydd, a chyfarch ymwelwyr
- Mae gennym system ffôn sy’n galluogi’r galwr i ddewis iaith
- Mae neges ein peiriant ateb yn ddwyieithog
- Mae holl aelodau’r staff yn ateb y ffôn gyda chyfarchiad dwyieithog cychwynnol ac, os deialwyd llinellau uniongyrchol, maent yn trosglwyddo’r alwad i gydweithiwr Cymraeg ei iaith os dyna sy’n well gan y galwr ac nid yw’n gallu darparu’r gwasanaeth hwn ei hun
- Mae’r holl ddogfennau cyhoeddus a luniwn, gan gynnwys cylchlythyron a negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ddwyieithog ac yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd
- Rydym yn darparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd fel y bo’n briodol ar gyfer cyfarfodydd rhwng staff a phartïon allanol
- Rydym yn darparu cyfieithu ar y pryd llawn ym mhob digwyddiad cyhoeddus a drefnwn, gan ganiatáu i gyflwynwyr ac aelodau’r gynulleidfa gymryd rhan yn y Gymraeg neu’r Saesneg
- Mae cofrestreion sy’n ymwneud â’n hachosion priodoldeb i ymarfer yn gallu gofyn am gynnal eu gwrandawiad yn Gymraeg
- Mae tystion sy’n rhoi tystiolaeth mewn gwrandawiadau priodoldeb i ymarfer yn gallu rhoi tystiolaeth yn Gymraeg
- Mae ein gwefan (gan gynnwys unrhyw ffurflenni ar-lein) yn ddwyieithog
- Mae’r holl arwyddion, hysbysiadau cyhoeddus a hysbysebion yn ddwyieithog
- Rydym yn cyhoeddi pob tendr am gontract yn ddwyieithog a chaiff ymatebwyr eu gwahodd i’w gyflwyno yn eu dewis iaith
- Rydym yn ymateb yn Gymraeg i’r holl dendrau sy’n dod i law yn Gymraeg a chynhelir cyfweliadau gyda chymorth cyfieithydd ar y pryd, lle y bo’n briodol
- Rydym wrthi’n datblygu cronfa ddata ganolog newydd a fydd yn cofnodi dewis iaith unigolyn (delir y wybodaeth hon gan bob tîm ar hyn o bryd)
Safonau llunio polisi
- Rydym yn ystyried effeithiau unrhyw bolisi newydd (neu ddigwyddiadau i bolisi) ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac rydym yn sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg fel rhan o asesiad effaith integredig
- Pan fyddwn yn cyhoeddi dogfen ymgynghori, rydym yn ceisio barn ar yr effeithiau y byddai’r polisi dan sylw yn eu cael ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg a sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg
- Os byddwn yn ymgymryd ag ymchwil neu’n comisiynu ymchwil gyda’r nod o gynorthwyo â llunio polisi, byddwn yn sicrhau bod yr ymchwil yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad polisi fel nad yw’n cael effaith negyddol ar y Gymraeg
Safonau gweithredu
- Mae gennym bolisi ar waith ar ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd ar yr iaith
- Gofynnwn i bob aelod staff a ydynt yn dymuno cael eu contract cyflogaeth yn Gymraeg ac a ydynt yn dymuno cael unrhyw ohebiaeth yn gysylltiedig â’u cyflogaeth unigol yn Gymraeg
- Rydym yn cyhoeddi pob polisi mewnol yn ddwyieithog
- Mae staff yn gallu cwyno yn Gymraeg ac mae hawl ganddynt ymateb yn Gymraeg i gŵyn a wnaed yn eu herbyn
- Rydym yn darparu meddalwedd cyfrifiadurol i staff wirio sillafu a gramadeg yn Gymraeg a darparwn arweiniad yn ein canllaw arddull ar ddefnyddio’r Gymraeg yn gywir, gan gynnwys enwau lleoedd, sillafu a geirfa gywir, ac ymadroddion i’w hosgoi
- Rydym yn asesu sgiliau Cymraeg yr holl staff yn flynyddol trwy hunanasesiad
- Rydym yn cynnig hyfforddiant yn Gymraeg i’r holl staff
- Rydym yn darparu gwybodaeth i’r staff fel rhan o’r broses sefydlu i godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg
- Rydym wedi darparu geiriad a logo priodol ar gyfer llofnod e-bost y staff i ddangos a ydynt yn siarad Cymraeg yn rhugl neu’n ddysgwyr
- Rydym yn cynnig bathodyn neu laniard Iaith Gwaith i’r holl staff Cymraeg eu hiaith/dysgwyr
- Rydym yn asesu sgiliau Cymraeg ar gyfer swyddi newydd neu swyddi gwag fesul achos
- Rydym yn cyhoeddi’r holl wybodaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio yn ddwyieithog ac yn datgan y sgiliau iaith sy’n ofynnol ar gyfer y swydd
- Mae pob hysbyseb yn datgan ein bod yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg
- Mae ffurflenni cais yn cynnwys lle i unigolion ddatgan a ydynt am ddefnyddio’r Gymraeg yn ystod cyfweliad ac y darperir cyfieithu ar y pryd, os yw hynny’n briodol
- Dangosir pob arwydd yn Gymraeg
Safonau cadw cofnodion
- Rydym yn cynnal cofnod o’r cwynion a gawn yn gysylltiedig â’n cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg
- Rydym yn cynnal cofnod o’r camau a gymerwyd i gydymffurfio â’r safonau llunio polisïau
- Rydym yn cynnal cofnod o sgiliau Cymraeg yr holl staff ac yn cadw’r hunanasesiadau
- Rydym yn cynnal cofnod o’r asesiadau rydym yn eu cyflawni ar gyfer sgiliau Cymraeg swyddi newydd neu swyddi gwag
- Rydym yn cynnal cofnod o’r ffordd y cafodd pob swydd newydd neu swydd wag ei chategoreiddio o ran yr angen am sgiliau Cymraeg
Sut rydym yn hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg
Rydym yn sefydliad cwbl ddwyieithog ac rydym yn annog ein cofrestreion a’n rhanddeiliaid eraill i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ymwneud â ni, naill ai ar lafar neu yn ysgrifenedig. Mae sawl ffordd rydym yn gwneud hyn:
- rydym yn cymryd rhan yn Niwrnod Hawliau’r Gymraeg Comisiynydd y Gymraeg bob blwyddyn, gan hyrwyddo’n gwasanaethau Cymraeg trwy’r cyfryngau cymdeithasol
- mae ein holl sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cael eu gweithredu’n ddwyieithog
- mae tudalen lanio’n gwefan yn rhoi dewis o ieithoedd i’r defnyddiwr bob tro y byddant yn mynd at ein gwefan
- mae ein gwefan ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ac mae botwm toglo Cymraeg / Saesneg yn y gornel dde ar frig holl dudalennau ein gwefan, sy’n caniatáu i’r defnyddiwr newid iaith yn hawdd
- mae pob swydd wag yn cael ei hysbysebu’n Gymraeg ac mae ymgeiswyr yn gallu gwneud cais yn Gymraeg
- mae ein gwasanaeth ateb awtomataidd yn darparu dewis iaith i bob galwr
- rydym yn arddangos posteri “Iaith Gwaith” yn ein derbynfa
- caiff pob aelod staff Cymraeg ei iaith fathodyn neu laniard “Iaith Gwaith” i’w wisgo
Rydym hefyd yn annog staff i ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol:
- rydym yn cyhoeddi e-gylchlythyr ‘Cymraeg ar waith’ chwarterol i’r holl staff i hyrwyddo’r defnydd ar y Gymraeg ar draws y sefydliad, ac i helpu sicrhau ein bod yn gweithredu Safonau’r Gymraeg yn gyson
- mae adran bwrpasol yng nghanllaw arddull CGA ar ddefnyddio’r Gymraeg yn gywir, gan gynnwys enwau lleoedd, sillafu a geirfa gywir, ac ymadroddion i’w hosgoi
- rydym wedi gosod pecyn meddalwedd Cysgliad ar gyfrifiaduron gweithwyr Cymraeg eu hiaith a rhaglen 'To Bach' ar bob cyfrifiadur
- mae holl bolisïau, gweithdrefnau ac arweiniad staff ar gael i staff yn Gymraeg yn llyfrgell y staff
- rydym yn llwyr gefnogi hyfforddiant Cymraeg perthnasol i bob gweithiwr
Adroddiad monitro blynyddol
Bob blwyddyn, rydym yn llunio adroddiad monitro blynyddol sy’n darparu gwybodaeth am ein cydymffurfiaeth â’r safonau, ac yn amlinellu sut y gwnaethom weithredu’r safonau.
Darllenwch ein hadroddiad monitro safonau’r Gymraeg ar gyfer 2022-23.
Gwneud cwyn
Rydym yn falch o fod yn sefydliad cwbl ddwyieithog sy’n hyrwyddo ac yn annog yr iaith Gymraeg, y tu hwnt i’n dyletswydd ddeddfwriaethol i gydymffurfio. Croesawn unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ynglŷn â’n darpariaeth ddwyieithog, a’n hymagwedd at yr iaith Gymraeg.
Os na fyddwn yn darparu gwasanaeth Cymraeg, neu os ydych yn anfodlon ar safon y gwasanaeth Cymraeg a ddarparwn, gallwch gwyno i’r Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol trwy anfon neges e-bost at
Fel yr amlinellir yn ein Polisi Safonau Gwasanaeth, ceisiwn gydnabod derbyn y gŵyn gychwynnol o fewn pum niwrnod gwaith a rhoi ymateb llawn o fewn 20 niwrnod gwaith. Fodd bynnag, os disgwylir y bydd yn cymryd mwy o amser i ddatrys y mater, byddwn yn anfon ymateb dros dro.
Bydd yr holl gwynion yn cael eu cofnodi at ddibenion monitro ac adrodd. Cyflwynir adroddiad cryno i’r Uwch Dîm Rheoli bob mis sy’n cynnwys unrhyw gwynion neu bryderon yn ymwneud â’r gwasanaeth Cymraeg a ddarparwn.
Byddwn yn adrodd ar nifer y cwynion a dderbynnir bob blwyddyn yn ein hadroddiad monitro safonau’r Gymraeg, sy’n cael ei gyhoeddi ar ein gwefan a’i fonitro gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Rydym yn sicrhau bod ein cyflogeion yn cael hyfforddiant priodol i’w helpu i drin cwynion yn effeithiol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu hyfforddiant penodol ar y Gymraeg er mwyn sicrhau bod unrhyw bryderon a godir mewn cwyn yn derbyn sylw ac nad ydynt yn cael eu hailadrodd.
Os oes gennych gŵyn, fe’ch anogwn i gysylltu â ni yn y lle cyntaf. Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd rydym wedi delio â’ch pryder, neu os credwch nad ydym wedi cymryd camau priodol i ddatrys y sefyllfa, dylech gysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg i wneud cwyn.