CGA / EWC

Accreditation banner
Rhaglenni AGA achrededig yng Nghymru
Rhaglenni AGA achrededig yng Nghymru

Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes addysgu yng Nghymru, bydd angen i chi gael statws athro cymwysedig (SAC) trwy astudio rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) sydd wedi’i hachredu gennym ni, trwy ein Bwrdd Achredu AGA.

Mae rhaglenni AGA yn darparu addysg a datblygiad proffesiynol athrawon dan hyfforddiant. Maent yn eu paratoi nhw i weithio mewn ysgolion yng Nghymru ac yn darparu’r sylfaen ar gyfer dysgu proffesiynol gydol gyrfa. Mae’r rhaglenni hyn yn seiliedig ar ddysgu sy’n drylwyr o ymarferol ac yn heriol yn ddeallusol, a cheisiant wneud yn siŵr bod athrawon yn ymrwymo i ragoriaeth, proffesiynoldeb ac addysgu o ansawdd uchel.

Rhaglenni sydd ar gael yn ôl darparwr

 

Monitro rhaglenni AGA

Mae holl raglenni AGA a gynigir gan bartneriaethau yng Nghymru yn cael eu hasesu, gwerthuso a monitro yn erbyn Meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer achredu rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yng Nghymru.

Mae’r canllawiau monitro yn amlinellu’r dull cyn, yn ystod ac ar ôl unrhyw weithgarwch monitro.

Bydd Estyn a CGA yn rhannu gwybodaeth a ddarperir gan y partneriaethau i’w harchwilio neu eu hachredu/monitro, i leihau baich diangen ar gyfer y partneriaethau, ac i hysbysu a galluogi gwelliannau o fewn y sector. Bydd cynrychiolwyr CGA ac Estyn yn ffurfio rhan o’r sesiynau adborth ar gyfer ymweliadau achredu, monitro ac archwilio. Bydd y ddau sefydliad yn cael gwybod canlyniadau’r sesiynau hyn yn unol â’n gweithdrefnau rhannu gwybodaeth. Rhennir gwybodaeth yn y modd yma i helpu gwella ansawdd darpariaeth Addysg Gychwynnol Athrawon, a lleihau baich diangen i bartneriaethau.