CGA / EWC

Accreditation banner
Canllaw ymarfer da: Lefel Efydd
Canllaw ymarfer da: Lefel Efydd

Er mwyn cyflawni’r canlyniadau gorau i bobl ifanc, mae’n bwysig i bob sefydliad ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl a bod mewn sefyllfa i ddangos canlyniadau cadarnhaol ei waith. Er y byddwch chi’n gwybod pa effaith rydych yn ei chael, dylech chi fod yn gallu dangos hynny i eraill sy’n llai cyfarwydd â’ch gwaith. Mae cynnal hunan-fyfyriad rheolaidd yn ganolog i helpu i roi dealltwriaeth well i bobl am yr hyn rydych yn ei wneud, ac o’ch gwerth – adolygu eich gwasanaethau, edrych ar yr hyn y gallwch ei wella neu newid er mwyn gwella ansawdd ac effaith eich cyflwyniad.

Yn ei hanfod, dyma ystyr ymarfer ac ansawdd da - gwybod yr hyn rydych yn ei wneud, dysgu wrtho a’i wneud yn well. Y rhain yw’r prif elfennau o ran eich helpu chi i ddatblygu llwybr at welliant parhaus a datblygu gwasanaeth sy’n diwallu anghenion y bobl ifanc yr ydych chi’n gweithio gyda nhw.

 Lawrlwythwch y canllaw.