Sefydliad: Gwasanaeth Ieuenctid Bro Morgannwg
Prosiect: Materion Gwastraff Plastig a materion amgylcheddol Grwpiau Gweithredu Ieuenctid.
Person cyswllt: Alex Thomas
Mae’r angen am y prosiect wedi codi yn sgil gwell ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc o’r problemau amgylcheddol rydym ni i gyd yn eu hwynebu. Daeth dau Grŵp Gweithredu Ieuenctid lleol, o Lanilltud Fawr a Phenarth, at ei gilydd i gydweithio ar y prosiect, gan eu bod yn teimlo’n gryf y dylent chwarae rhan weithredol i fynd i’r afael â phroblem gwastraff plastig yn eu cymunedau.
Sefydlodd y grŵp nifer o nodau i’r prosiect:
- Dysgu am broblemau amgylcheddol a achosir gan beidio ag ailgylchu plastig
- Dysgu am y gwahanol fathau o blastig, pa rai y gellir eu hailgylchu a pha rai na ellir eu hailgylchu
- Edrych ar gynyddu ailddefnyddio plastig, a hyrwyddo mwy o fannau gwyrdd
- Hyrwyddo gwaith adeiladu tîm a gweithio ar syniadau cydweithredol dan arweiniad pobl ifanc
Ym mis Ionawr 2019 daeth y ddau Grŵp Gweithredu Ieuenctid ynghyd i ymchwilio i thema gyffredin yn y problemau oedd o bwys iddynt, gan weithio ar ddarn cydweithredol o waith. Pleidleisiwyd ar faterion amgylcheddol yn dilyn ymlaen o ddarnau o waith a gyflawnwyd gan y ddau grŵp ar wahân yn eu hardaloedd lleol.
Trwy weithdy ymgynghori, penderfynwyd ar blastigau untro ac ailgylchu plastig. Gofynnodd y bobl ifanc am well dealltwriaeth o’r prosesau ailgylchu a gyflawnir yn eu hardal a darparwyd hyfforddiant achrededig ar y pwnc. Dechreuodd yr hyfforddiant ym mis Ebrill 2019 a chynhaliwyd digwyddiad preswyl ym mis Mehefin 2019. Ymwelodd y ddau grŵp â chanolfan ailgylchu Y Fro ym mis Mawrth 2020 i ddysgu mwy am y broses yn yr awdurdod lleol.
Wedi cwblhau’r ymweliad safle achredu, bwriad y ddau grŵp oedd llunio cynllun gweithredu i weithio ar y problemau yn y Fro. Yn anffodus, oherwydd Covid-19, gohiriwyd y gwaith hwn. Ers hynny, mae’r grwpiau wedi cyfrannu at ymgynghoriad Prosiect Sero’r Awdurdodau Lleol, gan edrych ar Reoli Gwastraff yn benodol
(Prosiect Sero – cynllun gweithredu Newid Hinsawdd Cyngor y Fro. Mae Prosiect Sero’n dwyn ynghyd yr amrywiaeth eang o waith a chyfleoedd sydd ar gael i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau allyriadau carbon y Cyngor i sero net erbyn 2030, ac annog eraill i wneud newidiadau cadarnhaol).
Cymerodd y grwpiau ran mewn nifer o weithgareddau ymgynghori, gan gynnwys:
- Carwselau syniadau
- Graddio diemwnt
- Sut, sut, sut?
Cafodd y gwaith hwn ei hwyluso mewn amgylchedd cynhwysol i bobl ifanc rannu eu syniadau a’u hawgrymiadau. Mae cynhwysiant yn fater allweddol i’r grwpiau. Mae gan grwpiau Gwasanaeth Ieuenctid y Fro god ymddygiad sy’n sicrhau y caiff eu holl aelodau eu trin â pharch a’u bod yn sicr o gael cynnig cyfleoedd cyfartal. Datblygwyd cynlluniau sesiwn o ganlyniad a’u rhannu â gweithwyr ieuenctid, gan roi manylion y gweithgareddau a gynlluniwyd.
Roedd rheoli amser yn broblem i’r bobl ifanc, ac roedd angen inni eu hannog nhw i gwblhau cynlluniau achredu, sydd wedi effeithio ar y darn o waith mae’r ddau grŵp yn cydweithio arno. Mae’r pandemig iechyd hefyd wedi effeithio ar y darn hwn o waith. Fodd bynnag, mae amynedd pawb sydd ynghlwm â’r prosiect wedi gwella’r sefyllfa, ac mae’r holl bobl ifanc wedi cyflawni achrediad am eu hymdrechion yn y prosiect.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i:
https://www.valeofglamorgan.gov.uk/en/living/youth_service/Youth-Service.aspx
01446 709308