Canllawiau a nodiadau
Mae'r ffurflen hon i gyflogwyr ac asiantau y mae’n ofynnol iddynt, trwy statud, wneud atgyfeiriad at CGA. Cyn gwneud hynny, darllenwch y canllawiau canlynol:
Mae cyflogwyr pobl gofrestredig (ysgolion (Corff Llywodraethu), awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach, unrhyw gorff perthnasol arail) ac asiantaethau yn gyfrifol am atgyfeirio achosion o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol ac euogfarn am drosedd berthnasol honedig i Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA).
Rhaid i gyflogwr neu asiant atgyfeirio achos yn unol â Deddf Addysg (Cymru) 2014, fel y’i diwygiwyd, a Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015, fel y’u diwygiwyd, pan:
- fo wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person cofrestredig yng Nghymru, neu y gallai fod wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person cofrestredig yng Nghymru, pe na bai ef neu hi wedi rhoi’r gorau i’w darparu (cyflogwr)
- fo wedi terfynu trefniadau gyda pherson cofrestredig, neu y gallai fod wedi terfynu trefniadau gyda pherson cofrestredig, pe na bai ef neu hi wedi eu terfynu neu’r tebyg (asiant)
Cyfrifoldeb ar gyflogwyr
Rhaid i gyflogwr hysbysu CGA am ffeithiau achos:
(a) pan fo cyflogwr wedi peidio â defnyddio gwasanaethau person cofrestredig yng Nghymru ar sail:
(i) camymddygiad;
(ii) anghymhwysedd proffesiynol; neu
(iii) euogfarn am drosedd berthnasol.
(b) pan allai fod wedi peidio â defnyddio gwasanaethau person cofrestredig ar sail o’r fath pe na bai’r person cofrestredig wedi peidio â darparu’r gwasanaethau hynny.
Cyfrifoldeb ar asiantau
Rhaid i asiant hysbysu CGA am ffeithiau achos:
(a) pan fo wedi terfynu trefniadau ar sail:
(i) camymddygiad;
(ii) anghymhwysedd proffesiynol; neu
(iii) euogfarn am drosedd berthnasol.
(b) pan allai fod wedi terfynu trefniadau ar sail o’r fath pe na bai’r person cofrestredig wedi eu terfynu; neu
(c) y gallai fod wedi ymatal rhag gwneud trefniadau newydd ar gyfer person cofrestredig ar sail o’r fath pe na bai’r person cofrestredig wedi peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio.
Nid yw’r canlynol yn tanseilio dyletswydd statudol cyflogwr neu asiantaeth i wneud atgyfeiriad:
- Diswyddiadau sy’n cael eu ‘hisraddio’ i sancsiynau disgyblu is (er enghraifft, Rhybudd Ysgrifenedig Terfynol) yn dilyn cynnig i ymddiswyddo, neu’r tebyg.
- Setliad neu gydgytundebau pan oedd unrhyw bosibilrwydd y gallai’r person fod wedi cael ei ddiswyddo pe nad ymrwymwyd i’r cytundeb.
- Diswyddo am ‘Ryw Reswm Sylweddol Arall’ pan oedd terfynu contract cyflogaeth yn ganlyniad i fater disgyblu (ymddygiad a/neu gymhwysedd).
- Pan na ddaeth y broses disgyblu i gasgliad oherwydd bod y person cofrestredig wedi ymddiswyddo.
Beth bynnag, dylech nodi y gall CGA ymchwilio i unrhyw achos a atgyfeirir ato os yw’n meddwl y gall yr honiadau fod yn gyfystyr â honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol neu euogfarn am drosedd berthnasol.
Papurau atgyfeirio – beth i’w ddarparu
Dylai cyflogwyr ac asiantau droi at Ran 2 o Atodlen 5 o Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015fel y’u diwygiwyd, i gael rhestr o’r gwaith papur perthnasol y dylid ei gynnwys gyda’r atgyfeiriad os yw ar gael.
TBydd hyn fel arfer yn golygu’r holl dystiolaeth o’r adeg y gwnaethpwyd yr honiad, i’r adeg y gadawodd y cofrestrai ei gyflogaeth (yn arbennig llythyr atal dros dro / llythyr ymddiswyddo / llythyr diswyddo at y cofrestrai, cofnodion Pwyllgor Disgyblu, llythyr canlyniad apêl at y cofrestrai, cofnodion Pwyllgor Apêl, Adroddiad Ymchwiliad, datganiadau tystion, ymatebion a roddwyd gan y cofrestrai i’r honiadau). Hynny yw, yr holl dystiolaeth a ystyriwyd gan Bwyllgor Disgyblu a/neu Bwyllgor Apeliadau. Mae Adran G yn cyfeirio at restr fwy cynhwysfawr. .
Wrth ddarparu dogfennau i gefnogi’ch atgyfeiriad, dylech gofio bod datganiadau a chofnodion wedi’u llofnodi a’u dyddio o fwy o werth cyfreithiol na dogfennau heb eu llofnodi. Os na chafodd eich dogfennau eu llofnodi ar adeg unrhyw broses ymchwilio fewnol, os oes modd dylech ofyn i’r partïon cysylltiedig lofnodi a dyddio datganiad sy’n tystio i wirionedd a chywirdeb y dogfennau.
Hefyd, byddai CGA yn croesawu llythyr eglurhaol sy’n cadarnhau:
- enw’r cofrestrai;
- ei swydd;
- ei reswm dros adael ei gyflogaeth (h.y. diswyddo/camymddygiad difrifol);
- y dyddiad y gadawodd ei gyflogaeth;
- cadarnhad o’r honiad(au) a berodd i’r cofrestrai adael ei gyflogaetht.
Atgyfeiriadau a’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Os yw’r honiad yn erbyn cofrestrai yn ymwneud mewn unrhyw ffordd â niwed gwirioneddol, neu berygl o niwed, i blentyn neu oedolyn agored i niwed, dylech wneud yr atgyfeiriad at y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Os yw’n ymwneud â chamymddygiad ac â niwed, neu os ydych yn ansicr o gwbl, dylid gwneud atgyfeiriad at y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac at CGA.
Nid yw o fewn cylch gwaith CGA i wrando neu ymchwilio i unrhyw fater sy’n honni niwed gwirioneddol neu berygl o niwed i blant neu oedolion agored i niwed.
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am atgyfeiriadau at y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar ei wefan: https://www.gov.uk/guidance/barring-referrals