Yma, cewch gyfoeth o adnoddau i’ch helpu i ddechrau ar ymchwil gysylltiedig ag ymarfer.
Os oes gennych awgrymiadau am unrhyw ddeunydd ychwanegol a fyddai’n ddefnyddiol i chi,
Cyflwyniad i ymchwil
Bydd Dr Andrew Davies o Brifysgol Aberystwyth, a Dr Jane Waters o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn eich helpu i ddechrau arni trwy gyflwyniad i ymchwil. Dysgwch am rai o’r pethau allweddol y bydd angen i chi eu hystyried wrth gynllunio’ch prosiect ymchwil, fel methodoleg ymchwil, cynnal adolygiad o lenyddiaeth, dod i gasgliadau a moeseg ymchwil.
Canllawiau Ymchwil
Rydym wedi cynhyrchu nifer o ganllawiau ‘sut i...’ defnyddiol i’ch helpu gydag ysgrifennu adroddiad ymchwil, a sefydlu clwb cyfnodolion.
Moeseg Ymchwil
Darllenwch ein hadnoddau moeseg a gynhyrchwyd gan Dr Jane Waters a’i thîm ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Cynhyrchwyd deunydd fideo atodol gyda chymorth Ysgol Olchfa.
Mynediad at adnoddau
Mae nifer o storfeydd a chronfeydd data ffynhonnell agored sy’n cynnig mynediad at erthyglau cyfnodolion, llyfrau a thraethodau hir. Mae gan ein tudalen mynediad at adnoddau restr o wefannau defnyddiol i’ch helpu.