Gallwch gwblhau sefydlu trwy waith addysgu cyflenwi byrdymor ad hoc. I ddechrau cyfnod sefydlu, mae'n rhaid i chi gael statws athro cymwys (SAC), a bod wedi eich cofrestru gyda ni yng nghategori athro ysgol. Ni all unrhyw gyfnod o gyflogaeth a gwblhawyd cyn cofrestru yn y categori cywir gyfrif tuag ac eich cyfnod sefydlu.
Cyflwyno gwaith papur
Os ydych chi’n athro newydd gymhwyso (ANG) sy’n gwneud gwaith cyflenwi o ddydd i ddydd, rhaid ichi gyflwyno’r ffurflen hysbysu sefydlu fel athro cyflenwi byrdymor i ni. Ar ôl i ni brosesu’ch ffurflen, byddwn yn e-bostio manylion atoch ynghylch sut i gofnodi’ch sesiynau cyflenwi gyda ni.
Os bydd eich amgylchiadau cyflogaeth yn newid ar unrhyw adeg yn ystod eich cyfnod sefydlu, e-bostiwch ni ar
Gofynion sefydlu a chyfnod ar gyfer cwblhau
Mae'r cyfnod sefydlu yn dri thymor ysgol, neu gyfatebol. Fodd bynnag, mae gan y corff priodol ddisgresiwn i leihau hyd y cyfnod sefydlu ar gyfer ANGau sy'n gallu arddangos bod eu harfer addysgu'n bodloni'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth mewn llai na tri thymor ysgol/380 sesiwn. Ni ellir cwblhau sefydlu mewn llai nag un tymor (110 sesiwn).
Gall ANGau sy'n gwneud sefydlu drwy waith cyflenwi byrdymor gronni sesiynau tuag at sefydlu. Diffinnir sesiwn fel bore neu brynhawn llawn o addysgu mewn ysgol. Dim ond cyfnodau o gyflogaeth lle cewch eich cyflogi fel athro cymwys sy'n cyfrif. Mae'n rhaid i bob cyfnod o gyflogaeth a wnewch fel athro cymwys mewn ysgol a gynhelir gan y wladwriaeth neu uned cyfeirio disgyblion yng Nghymru gyfrif tuag at eich sefydlu. Does dim hyblygrwydd, ac ni allwch ofyn bod rhan o'r cyfnod o gyflogaeth ddim yn cyfrif tuag at eich sefydlu. Ni all gwaith a wneir fel gweithiwr cymorth dysgu neu oruchwyliwr llanw gyfrif tuag at eich sefydlu.
Bydd gan ANGau sydd wedi cael SAC rhwng 1 Ebrill 2003 a 6 Tachwedd 2022, bum mlynedd o 7 Tachwedd 2022 i gwblhau sefydlu. Bydd gan ANGau sy'n cael SAC o 7 Tachwedd 2022 ymlaen, bum mlynedd o ddyddiad y rhoddwyd y SAC i gwblhau’r' sefydlu.
Os nad ydych yn gallu cwblhau sefydlu o fewn yr amserlen ofynnol, mae gan y corff priodol hawl i ddewis estyn y terfyn amser ar gyfer cwblhau sefydlu ar gyfer y rheiny sydd wedi, a'r rhai sydd heb ddechrau sefydlu, lle mae'n fodlon bod rheswm da dros wneud hynny, a'ch bod chi'n cytuno. Mae mwy o wybodaeth ar gael yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru sefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru Bydd methu â chwblhau sefydlu o fewn y terfyn amser yn golygu na allwch bellach gofrestru gyda CGA yng nghategori athro ysgol, ac felly na allwch gael eich cyflogi fel athro mewn ysgol a gynhelir, neu uned cyfeirio disgyblion yng Nghymru.
Cofnodi sesiynau cyflenwi byrdymor
Ni sy'n yn gyfrifol am gadw cofnod cywir canolog o sesiynau cyflenwi a gwblheir.
Yn ogystal â chofnodi sesiynau gyda ni mae'n rhaid i chi gwirio’ch sesiynau gan yr ysgolion yr ydych wedi gweithio ynddyn nhw. Mae'n rhaid i chi gofnodi'r rhain yn yr adran cofnod presenoldeb yn eich proffil sefydlu. Mae’r ffurflen cofnod presenoldeb yn cael ei chadw oddi ar lein ac yna ei lanlwytho i’ch proffil sefydlu yn unol â’r amserlenni a nodir yn eich proffil.
Dyrannu mentoriaid allanol
Dyrennir Mentor Sefydlu (MS) i bob ANG sy’n cwblhau sefydlu drwy waith cyflenwi o ddydd i ddydd yng Nghymru. Ar ôl i MS gael ei ddyrannu bydd eu henw i’w weld trwy eich cyfrif FyCGA. Bydd eich MS yn cysylltu â chi’n uniongyrchol trwy e-bost. Rhowch wybod i ni ar
Proffil sefydlu ar-lein
Fel ANG mae’n ofynnol i chi gwblhau a chynnal eich proffil sefydlu ar-lein trwy’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP). Chi sy’n gyfrifol am gynnal eich proffil sefydlu ac am ganfod a chofnodi tystiolaeth o sut yr ydych yn bodloni’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth trwy eich ymarfer proffesiynol. Byddwch yn gallu cael mynediad at eich proffil sefydlu ar ôli ni dderbyn a phrosesu eich ffurflen hysbysu sefydlu fel athro cyflewnwi, a'ch bod wedi cofnodi eich sesiwn gyntaf o waith cyflenwi gyda ni.