Mae gennym gyfrifoldeb statudol i:
- achredu rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA)
- monitro cydymffurfiaeth rhaglenni achrededig yn erbyn meini prawf Llywodraeth Cymru
- tynnu rhaglenni achrediad yn ôl
Mae holl raglenni AGA a gynigir gan bartneriaethau yng Nghymru yn cael eu hasesu, eu gwerthuso, a'u monitro yn erbyn Meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer achredu rhaglenni AGA yng Nghymru . Ein Bwrdd Achredu AGA sy’n cyflawni'r swyddogaeth hon.
Beth yw achredu?
Mae’r ffordd y caiff AGA ei achredu yn hanfodol i sicrhau bod perfformiad addysgol mewn ysgolion yn gwella’n barhaus. Rydym yn atebol am achredu rhaglenni AGA. Mae hyn yn galluogi ystyriaeth fwy penodol o sut y bydd rhaglenni’n gwella ansawdd y ddarpariaeth, ac yn denu ymgeiswyr â’r sgiliau, y cymwysterau a’r anian cywir i ddechrau gyrfa mewn addysgu.
Dysgwch fwy am gyflwyno rhaglen i'w hachredu.
Diddordeb mewn bod yn athro ysgol?
Mae gan Addysgwyr Cymru wybodaeth ar y cyrsiau hyfforddiant athrawon sydd ar gael yng Nghymru, yn ogystal ag unrhyw gyfleoedd hyfforddiant.