Sefydliad: YMCA Abertawe
Darpariaeth: Bwrdd Gofalwyr Ifanc
Person Cyswllt: Egija Cinovska
Mae’r Bwrdd Gofalwyr Ifanc yn grŵp o ofalwyr ifanc sy’n gweithio gyda’r YMCA ar bob lefel, arianwyr a gwneuthurwyr polisi, i helpu i siapio’r Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc yn Abertawe.
Mae Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc YMCA Abertawe yn cynnal ymgynghoriadau rheolaidd gyda phobl ifanc er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir wedi’u siapio ganddyn nhw a’u bod yn diwallu eu hanghenion mewn modd priodol.
Trwy’r adborth a gasglwyd, mae’r gofalwyr ifanc wedi dweud y byddai bod â phlatfform penodol i gyflawni’r tasgau hyn yn fuddiol.
Rhannodd YMCA Abertawe y syniad gyda’r gofalwyr ifanc a’u hannog i gynnig eu hunain os oedden nhw eisiau bod yn aelod o Fwrdd Gofalwyr Ifanc YMCA Abertawe.
Gwnaeth nifer fawr o bobl ifanc geisiadau am y cyfle. Os cawsant eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer y cam cyfweld, bu’n rhaid i’r bobl ifanc lunio cyflwyniadau ar eu syniadau oedd yn canolbwyntio ar nifer fawr o wahanol bynciau. Cymerasant ran mewn cyfweliadau hwyliog a chafodd y bobl ifanc eu sgorio ar eu brwdfrydedd a’u hymroddiad i gynrychioli eu cymuned.
Mae'r gofalwyr ifanc yn cwrdd bob mis i roi syniadau ynghyd ynghylch sut i siapio’r gwasanaeth, trafod anghenion gofalwyr ifanc a pha gymorth y dylid ei ychwanegu a/neu ei newid er mwyn eu cynorthwyo. Mae’r gofalwyr ifanc yn cymryd rhan mewn gweithdai cynllunio, teithiau a gweithgareddau i YMCA Abertawe yn ogystal â gweithio gyda sefydliadau allanol fel arianwyr ac ysgolion i gynorthwyo gofalwyr ifanc mewn gwahanol leoliadau.
Mae'r Bwrdd Gofalwyr Ifanc yn cwrdd unwaith y mis wyneb yn wyneb, yn ogystal ag ymgysylltu â’i gilydd yn rheolaidd trwy Grŵp Facebook penodol i’r Bwrdd Gofalwyr Ifanc.
Yn ymuno â’r grŵp bob mis mae gweithwyr proffesiynol a gwneuthurwyr polisi allweddol sy’n gweithio gyda’r grŵp i helpu i ysgrifennu Strategaeth Gofalwyr i Abertawe.
Mae'r Bwrdd Gofalwyr Ifanc wedi cyflawni nifer fawr o brosiectau dros y chwe mis diwethaf ac mae’r Grŵp Facebook yn profi’n eithaf defnyddiol iddyn nhw roi diweddariadau i’w gilydd ynghylch pa dasgau, rolau a chyfrifoldebau maen nhw wedi’u cyflawni. Mae hefyd yn galluogi cyfarfodydd wyneb yn wyneb i fod yn fwy cynhyrchiol wrth ganolbwyntio ar lunio cynlluniau a chamau gweithredu newydd.
Mae’r gwersi allweddol a ddysgwyd yn cynnwys hygyrchedd y sesiynau misol. I ddechrau roedd y grŵp wedi bwriadu cwrdd wyneb yn wyneb yn YMCA Abertawe i gymryd rhan yn y cyfarfodydd. Fodd bynnag, oherwydd y cyfyngiadau yn sgil y pandemig ac argaeledd gofalwyr ifanc, penderfynodd y grŵp ddarparu mynediad cyfunol i gymryd rhan yn y sesiynau. Gall gofalwyr ifanc gymryd rhan wyneb yn wyneb neu ar lein.
Gwers arall a ddysgwyd oedd ymestyn amser y cyfarfodydd misol. Yn wreiddiol roedd y gofalwyr ifanc wedi cytuno i gwrdd am awr, ond oherwydd y trafodaethau manwl yr oedd y bobl ifanc yn eu cael, cytunwyd bod angen ymestyn hyd y sesiynau.
Mae'r gofalwyr ifanc hefyd wedi awgrymu sesiwn breswyl neu ddiwrnodau cwrdd i ffwrdd blynyddol/chwe-misol gyda’r grwpiau i roi cyfleoedd iddynt feithrin gwell perthnasoedd rhwng aelodau’r grwpiau, gweithio ar sgiliau meithrin tîm a bod â mwy o amser i gynllunio’r gwasanaeth at y dyfodol.
Mae Bwrdd Gofalwyr Ifanc YMCA Abertawe yn rhoi cyfle i ofalwyr ifanc siapio’r gwasanaeth, bod â llais ar y gwasanaethau sydd o fudd uniongyrchol iddynt, a chynrychioli eu cymheiriaid, gan sicrhau y clywir lleisiau’r holl ofalwyr ifanc.
Mae'r gofalwyr ifanc yn cymryd rhan mewn siapio’r gwasanaeth a chynllunio gweithdai a gweithgareddau ar gyfer yr holl brosiectau yn y gwasanaeth gofalwyr ifanc. Mae'r gofalwyr ifanc hefyd yn cael y cyfle i gwrdd â’r arianwyr yn uniongyrchol er mwyn rhoi adborth ar yr hyn sydd wedi gweithio a pha gymorth a fyddai o fudd iddynt yn y dyfodol.
Mae'r gofalwyr ifanc wedi gweithio mewn partneriaeth â gwneuthurwyr polisi lleol allweddol er mwyn cymryd rhan yn y gwaith o siapio Strategaeth Gofalwyr Awdurdod Lleol Abertawe. Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i’r gofalwyr ifanc siapio’r gwasanaethau yn y dyfodol i’r holl ofalwyr ifanc yn Abertawe. Maen nhw hefyd wedi cymryd rhan mewn sgyrsiau gyda bwrdd Partneriaeth Gorllewin Morgannwg ac yn teimlo eu bod bellach yn cael y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu.
Mae'r gofalwyr ifanc wedi gallu cymryd rhan mewn gwahanol gyfleoedd hyfforddi er mwyn datblygu eu sgiliau tra buont yn aelodau o’r bwrdd. Mae hyn wedi cynnwys hyfforddiant achrededig gan Agored Cymru mewn Deall Ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc, Cymorth Cyntaf a Gwneud Ffilmiau.
Mae'r gofalwyr ifanc wedi dysgu sgiliau gan gynnwys cymryd rhan mewn gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc yn eu cymunedau, recordio podlediadau, ffilmio fideos, cymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwersi ABCh mewn ysgolion, a sefydlu clybiau amser cinio.
Mae YMCA Abertawe wedi cael llawer o fuddion o weithio gyda'r Bwrdd Gofalwyr Ifanc. Mae'n caniatáu inni gael y wybodaeth ddiweddaraf am anghenion y grŵp. Mae gweithio mewn partneriaeth gyda’r bobl ifanc wedi golygu bod ganddyn nhw berchnogaeth lwyr ar y ffordd y caiff eu gwasanaethau eu datblygu.
Mae'r bobl ifanc wedi gallu ein helpu i gynllunio a darparu gwasanaeth penwythnos pwrpasol, gwaith preswyl, podlediadau a digwyddiadau sy’n helpu i godi ymwybyddiaeth am ofalwyr ifanc.
Mae'r staff wedi teimlo bod ganddyn nhw fwy o ddealltwriaeth o’r ffordd mae’r gofalwyr ifanc yn teimlo am y gwasanaeth a beth yw eu dyheadau at y dyfodol. Pan mae’r staff yn mynd i gyfarfodydd i ddadlau ar ran gofalwyr ifanc, maen nhw’n teimlo y gallan nhw gynrychioli lleisiau’r bobl ifanc yn wirioneddol.
Mae aelodau Bwrdd Gofalwyr Ifanc YMCA Abertawe yn cynnal trafodaethau rheolaidd i sicrhau bod y gwasanaeth yn cynnig darpariaeth gynhwysol er mwyn i ofalwyr ifanc fanteisio ar y gwasanaeth.
Un o’r prif bynciau mae’r bobl ifanc yn ei godi yw problem trafnidiaeth er mwyn i ofalwyr ifanc fynd i weithgareddau wyneb yn wyneb. Gall trafnidiaeth fod yn rhwystr enfawr. Mae YMCA Abertawe yn darparu trafnidiaeth i’r holl ofalwyr ifanc er mwyn sicrhau eu bod nhw a’u teuluoedd yn gallu manteisio ar y gwasanaeth.
Mae aelodau’r Bwrdd Gofalwyr Ifanc yn cydnabod pwysigrwydd dathlu’r Gymraeg a diwylliant Cymru. O’r herwydd mae YMCA Abertawe wedi creu cynnwys i godi ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Ar hyn o bryd mae Bwrdd Gofalwyr Ifanc YMCA Abertawe yn ei flwyddyn gyntaf. Ar sail yr adborth a roddwyd gan ofalwyr ifanc, mae’r bwrdd wedi cael effaith gadarnhaol ar ofalwyr ifanc yn uniongyrchol ac wedi darparu gwasanaeth o ansawdd da i aelodau’r gwasanaeth.
Mae'r bwrdd wedi bod yn llwyddiannus ac wedi cael effaith wirioneddol ar y ffordd mae pethau’n cael eu datblygu i ofalwyr ifanc o’r cychwyn cyntaf. Mae Bwrdd Gofalwyr Ifanc YMCA Abertawe yn gobeithio parhau â’i waith a thyfu er mwyn sicrhau y bydd gofalwyr ifanc yn cael eu hadnabod a’u cydnabod ac yn cael y gwasanaeth maen nhw’n ei haeddu.