CGA / EWC

Accreditation banner
Digwyddiadau addysg gychwynnol athrawon
Digwyddiadau addysg gychwynnol athrawon

Cadw’r diwygio ar drac: gwireddu AGA yng Nghymru

Dydd Mercher 24 Mawrth 2021

Ar 24 Mawrth 2021, bu i ni gynnal gweithdy rhyngweithiol ar-lein i bartneriaethau AGA yng Nghymru oedd yn canolbwyntio ar gadw diwygio aga ar drac. 

Cafodd y digwyddiad ei gyflwyno gan yr Athro John Furlong a Dr Hazel Hagger, a roddodd gyfle i fynychwyr ystyried a pharatoi at flwyddyn academaidd 2021/22. Bu i'r Partneriaethau rannu eu profiadau o'r broses ddiwygio hyd yma, dathlu cyflawniadau, ystyried yr heriad a rhannu eu dysgu ar y cyd.

Lawrlwytho rhestr o gyfranogwyr

Y gweithdy

Bu i'r rheiny a wnaeth gyflwyno ar y dydd gynhyrchu cyfres o fideos byr cyn y digwyddiad i roi dealltwriaeth dda i fynychwyr o'r themâu a roddwyd sylw iddynt. Yna, cafwyd mewnwelediad manwl i'w gwaith yn ystod y digwyddiad.

I wylio neu ail-ymweld â'r chyflwyniadau o'r digwyddiad, gwelwch y rhestr chwarae YouTube isod.