CGA / EWC

Induction banner
Gwybodaeth i ysgolion
Gwybodaeth i ysgolion

Beth i’w wneud os ydych yn cyflogi athro newydd gymhwyso

Mae rhwymedigaeth statudol ar ysgolion i roi cymorth sefydlu i athrawon newydd gymhwyso (ANG). Os yw eich ysgol wedi cyflogi athro ysgol newydd, gwiriwch os yw wedi cwblhau cyfnod sefydlu. Os nad yw, rhaid i chi gyflwyno’r ffurflen hysbysu sefydlu i ni cyn pen 10 diwrnod gwaith ar ôl iddo ddechrau ei gyflogaeth yn yr ysgol. Rhaid i’r ysgol enwi Mentor Sefydlu (MS) a fydd yn rhoi’r cymorth sefydlu priodol i’r ANG o ddydd i ddydd.

Wrth lenwi’r ffurflen hysbysu sefydlu dylech sicrhau:

  • y caiff pob adran ei llenwi’n llawn
  • bod y ffurflen wedi cael ei llofnodi gan yr holl bartïon
  • bod pob person yn cael eu copïo i'r e-bost os ydych yn anfon dros e-bost

Gofynion sefydlu ac amserlenni cwblhau

Er mwyn cyflawni cyfnod sefydlu yng Nghymru rhaid i ANG fod â SAC a rhaid iddynt fod wedi’u cofrestru gyda ni yng nghategori athro ysgol. Nid yw unrhyw gyfnodau o gyflogaeth cyn cofrestru yn y categori cywir yn gallu cyfrif tuag at sefydlu.

Mae'r cyfnod sefydlu yn dri thymor ysgol, neu gyfatebol. Fodd bynnag, mae gan y corff priodol ddisgresiwn i leihau hyd y cyfnod sefydlu ar gyfer ANGau sy'n gallu arddangos bod eu harfer addysgu’n bodloni'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth mewn llai na tri thymor ysgol (380 sesiwn). Ni ellir cwblhau sefydlu mewn llai nag un tymor (110 sesiwn).

Gall ANGau nad ydynt wedi eu cyflogi'n llawn amser grynhoi sesiynau tuag at eu sefydlu. Diffinnir sesiwn fel bore neu brynhawn llawn o addysgu mewn ysgol. Dim ond cyfnodau o gyflogaeth lle mae'r ANGau wedi eu cyflogi fel athro cymwys sy'n cyfrif tuag at sefydlu

Bydd gan ANGau sydd wedi cael SAC rhwng 1 Ebrill 2003 a 6 Tachwedd 2022, bum mlynedd o 7 Tachwedd 2022 i gwblhau sefydlu. Bydd gan ANGau sy'n cael SAC o 7 Tachwedd 2022 ymlaen, bum mlynedd o ddyddiad y rhoddwyd y SAC i gwblhaur' sefydlu.

Os nad yw ANG yn gallu cwblhau sefydlu o fewn yr amserlen ofynnol, mae gan y corff priodol hawl i ddewis estyn y terfyn amser ar gyfer cwblhau sefydlu ar gyfer y rheiny sydd wedi, a'r rhai sydd heb ddechrau sefydlu, lle mae'n fodlon bod rheswm da dros wneud hynny, a bod yr ANG yn cytuno. Mae mwy o wybodaeth ar gael yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru sefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru. Bydd methu â chwblhau sefydlu o fewn y terfyn amser yn golygu na all yr ANG bellach gofrestru gyda CGA yng nghategori athro ysgol. Felly ni allant gael eu cyflogi fel athro mewn ysgol a gynhelir, neu uned cyfeirio disgyblion yng Nghymru.

Cyllid Sefydlu

Lefel y cyllid yw £3,900 fesul ANG fesul cyfnod sefydlu.  Darperir cyllid i ysgolion, gan Lywodraeth Cymru er mwyn:

  • cynorthwyo â’r gwaith o ddarparu hawl statudol yr ANG i 10% o leihad yn ei amserlen (yn ychwanegol at ei amser CPA).
  • rhyddhau MS i roi cymorth sefydlu priodol o ddydd i ddydd i ANG ac i gwblhau adrannau penodol o broffil sefydlu ar-lein yr ANG.

Caiff cyllid ei ryddhau ar ôl diwedd pob tymor academaidd (neu’n gynharach os bydd cyflogaeth yr athro’n dod i ben). Dim ond ar ôl i ni dderbyn a prosesu’r ffurflen hawlio cyllid sefydlu ddod yn unol â’r amserlenni isod y caiff y cyllid ei ryddhau.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn ein llawlyfr canllaw Sefydlu - trefniadau cyllido, tracio a chofnodi.

Amserlen

Isod cewch fanylion dyddiadau pwysig o ran cyflwyno gwaith papur i ni ar gyfer athrawon ysgol sy’n cyflawni cyfnod sefydlu.

Tymor yr hydref 2024

Cam gweithreduDyddiad cau
Cyflwyno ffurflen hysbysu sefydlu ar gyfer athrawon sy’n dechrau cyfnod sefydlu mewn ysgol newydd ar ddechrau tymor yr Hydref 13/09/24
Dyddiad cau cyflwyno ffurflenni hawlio cyllid sefydlu sydd heb eu cyflwyno ar gyfer athrawon a gwblhaodd gyfnod sefydlu yn ystod tymor yr Haf 13/09/24
Cyflwyno ffurflenni hawlio cyllid sefydlu ar gyfer athrawon a gwblhaodd gyfnod sefydlu yn ystod tymor yr Hydref 20/12/24