CGA / EWC

Professional development banner
Pasbort Dysgu Proffesiynol
Pasbort Dysgu Proffesiynol

Mae’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) yn e-bortffolio ar-lein hyblyg sydd ar gael i holl gofrestreion CGA.

Mae’n llawn nodweddion sydd â’r nod o’ch cynorthwyo i gofnodi eich dysgu, myfyrio arno, ei rannu a’i gynllunio. Y nod yn y pen draw – i helpu llywio eich datblygiad a’ch ymarfer proffesiynol parhaus, ni waeth ble’r ydych chi ar eich taith ddysgu broffesiynol.

Mae eich PDP yn eiddo i chi, felly mae’r hyn rydych chi’n ei greu ynddo, neu’n ei lwytho iddo, yn gwbl gyfrinachol. Nid yw eich PDP yn gysylltiedig â’ch cyflogaeth a, chyhyd â’ch bod wedi cofrestru gyda ni, byddwch yn gallu cael at y cynnwys a greoch chi.

Mae eich PDP ar gael trwy eich cyfrif FyCGA ar-lein. Rydym wedi creu canllaw bach defnyddiol i’ch helpu i ddechrau arni. Os bydd angen help arnoch i greu cyfrif neu ddefnyddio eich PDP, This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it., neu ffoniwch ni ar 029 2046 0099.

Hefyd, rydym wedi creu cyfres o fideos byr i ddangos i chi sut mae defnyddwyr eraill y PDP, a sefydliadau, yn defnyddio’r PDP i gynorthwyo â recordio datblygiad proffesiynol.

Cofnodi eich dysgu

Mae sawl ffurf ar ddysgu proffesiynol, o brofiadau dysgu dydd i ddydd fel trafodaethau â chydweithwyr, i gymwysterau ffurfiol. Mae eich PDP yn rhoi lle i chi gofnodi’r profiadau hyn yn gyflym ac yn hawdd.

Efallai eich bod eisoes wedi cadw llawer o wybodaeth mewn mannau gwahanol ac mewn fformatau gwahanol. Gallwch ychwanegu hyn oll yn gyflym ac yn hawdd at eich PDP naill ai gan ddefnyddio’r offeryn lanlwytho, neu ddefnyddio ap Pebblepocket. Mae ein canllaw byr yn dangos sut rydych chi’n cael at yr ap ac yn ei ddefnyddio.

Os ydych chi eisoes wedi cadw ffeiliau yn Google Drive neu Dropbox, gallwch gysylltu eich PDP â’r cyfrifon hynny.

Myfyrio ar eich dysgu

Mae myfyrio ar eich profiadau yn helpu i lywio eich dysgu, eich datblygiad a’ch ymarfer yn y dyfodol. Beth am ddefnyddio un o’n templedi strwythuredig i’ch harwain a’ch cynorthwyo wrth i chi gofnodi eich dysgu a myfyrio arno. Lanlwythwch eich meddyliau ar ffurf sain neu fideo, neu byddwch yn greadigol a defnyddio adeiladwr templed y PDP i greu dogfen sy’n addas i’ch anghenion.

Mae eich PDP yn caniatáu i chi rannu eich profiadau gydag eraill, gweithio ar y cyd a gall ategu’r broses adolygu perfformiad. Wrth rannu eich PDP gydag eraill, mae gennych reolaeth lawn dros y rhannau hynny o’r PDP y gallant eu gweld, ac am ba hyd.

Ymgysylltu â’ch safonau proffesiynol

Gall eich PDP eich cynorthwyo ag ymgysylltu â’ch safonau proffesiynol. Gallwch fynd ag unrhyw eitem rydych chi wedi’i chreu neu ei hychwanegu at eich PDP a’i mapio i’r safonau proffesiynol perthnasol.

Bydd unrhyw beth rydych chi’n ei fapio i’r safonau yn ymddangos ar ffurf crynodeb yn eich gweithlyfr safonau, sydd ar gael ar ddangosfwrdd eich PDP. Wrth fapio tystiolaeth yn erbyn y safonau, gallwch gwblhau hunanasesiad o’ch cynnydd, yn erbyn y safon honno, gan ddefnyddio opsiwn y bar llithro. Yna, bydd tudalen y trosolwg o safonau’n rhoi cynrychiolaeth weledol i chi o’ch cynnydd a gall eich cynorthwyo i amlygu eich cryfderau a’ch meysydd i’w datblygu.

Llunio’r dyfodol

Mae hyblygrwydd y PDP yn caniatáu i unigolion gofnodi eu taith ddysgu broffesiynol eu hunain, gan gefnogi’r broses ar lefel sefydliadol, hefyd.

Gallwn weithio gyda’ch sefydliad i ddatblygu templedi dwyieithog pwrpasol i’ch staff gofnodi eu dysgu a’u datblygiad proffesiynol. Gellir defnyddio’r rhain i gefnogi prosesau adolygu proffesiynol, prosiectau ysgol gyfan, neu weithgareddau traws clwstwr. Nid chodir tâl na ffioedd contract ac mae’r tîm ar gael i gynnig cymorth dwyieithog parhaus, yn rhad ac am ddim. Os byddai gweithio gyda ni o ddiddordeb i’ch sefydliad, This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Mae ein fideos byr yn dangos sut mae sefydliadau eisoes yn defnyddio’r PDP i gynorthwyo â chofnodi datblygiad proffesiynol.

Llyfrgell Ymchwil

Os yw ymarfer wedi’i lywio gan dystiolaeth o ddiddordeb i chi, mae eich PDP yn cynnig mynediad i chi i EBSCO, sef cronfa ddata ymchwil testun llawn fwyaf y byd i weithwyr addysg proffesiynol, yn cwmpasu pob lefel addysg ac arbenigedd. Gallwch hyd yn oed gofrestru i gael argymhellion misol ar gyfer EBSCO, trwy danysgrifio i Meddwl Mawr, ein clwb llyfrau a chyfnodolion misol.

Diddordeb? Trefnwch eich arddangosiad rhad ac am ddim

Byddem yn falch o ymweld â’ch sefydliad i arddangos y PDP i’ch staff a dangos sut mae ei ymarferoldeb a’i hyblygrwydd yn gallu bod o fudd i chi, eich cydweithwyr a’ch sefydliad. Os hoffech drefnu arddangosiad am ddim, llenwch ein ffurflen archebu neu anfonwch This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..