Mwy o wybodaeth am wrandawiadau i ddod, a chanlyniadau gwarandawiadau.
Trosolwg
Cynhelir gwrandawiad cyhoeddus pan fydd Pwyllgor Ymchwilio wedi dod i’r casgliad bod gan gofrestrai ‘achos i’w ateb’. Caiff y cofrestrai ei wahodd i fod yn bresennol a/neu gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad.
Mae’r rhan fwyaf o wrandawiadau Pwyllgorau Priodoldeb i Ymarfer yn cael eu cynnal yn rhithwir (ar-lein, gan ddefnyddio platfform fideo-gynadledda Zoom). Gall rhai gael eu cynnal wyneb yn wyneb, naill ai yn ein swyddfa yng Nghaerdydd neu mewn lleoliad yng ngogledd Cymru. Gallant bara rhwng ychydig oriau a sawl diwrnod. Weithiau, gellir gohirio gwrandawiadau i’w cwblhau rywbryd eto.
Beth sy'n digwydd mewn gwrandawiad
Mae pwyllgor priodoldeb i ymarfer yn cynnwys o leiaf dri aelod panel, gan gynnwys o leiaf un aelod sydd wedi cofrestru gyda CGA, ac un person lleyg. Mae cynghorydd cyfreithiol annibynnol yn cefnogi’r Pwyllgor. Ni fydd gan y Pwyllgor sy’n clywed gwrandawiad unrhyw wybodaeth flaenorol am yr achos.
Mae bargyfreithiwr yn cyflwyno achos CGA. Ei rôl yw profi ffeithiau’r achos trwy gyflwyno tystiolaeth ddogfennol a thystion.
Bydd y cofrestrai wedi cael cyfle hefyd i roi sylwadau ysgrifenedig i’r Pwyllgor cyn y gwrandawiad. Gall hefyd ddod â thystion i gefnogi ei achos a / neu ddewis rhoi tystiolaeth ar lafar i’r Pwyllgor.
Mae rhai cofrestreion yn dewis peidio mynd i’w gwrandawiad ond bydd eu hundeb llafur neu dîm cyfreithiol yn eu cynrychioli. Mae rhai cofrestreion yn dewis peidio â mynd i’r gwrandawiad na chael eu cynrychioli.
Rydym yn annog cofrestreion i fod yn bresennol a cheisio cyngor a chefnogaeth.
Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynir ar bapur ac a ddarperir gan dystion, cyn ystyried ffeithiau’r achos yn breifat.
Bydd ei benderfyniad wedi’i seilio ar ‘bwysau tebygolrwydd’, sef p’un a yw’n fwy tebygol na heb fod ffeithiau’r honiadau wedi’u profi, a ph’un a ydynt gyfystyr ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol a/neu euogfarn o drosedd berthnasol. Yna, bydd y Pwyllgor yn penderfynu p’un a ddylai un o’r gorchmynion disgyblu canlynol effeithio ar gofrestru:
- Cerydd: (dwy flynedd) nid yw’n effeithio ar gofrestru a gall cofrestrai barhau i ymarfer
- Gorchymyn Cofrestru Amodol: (unrhyw gyfnod) nid yw’n effeithio ar gofrestru, ar yr amod bod amodau a osodir gan y Pwyllgor yn cael eu cyflawni
- Gorchymyn Atal: (hyd at ddwy flynedd) caiff cofrestru ei atal. Ni all yr unigolyn ymarfer yng Nghymru am y cyfnod sy’n cael ei bennu gan y Pwyllgor (hyd at ddwy flynedd)
- Gorchymyn Gwahardd: mae’r cofrestriad yn cael ei ddileu ac ni fydd caniatâd gan yr unigolyn i ymarfer yng Nghymru mwyach. Mae’r Pwyllgor yn pennu cyfnod (nad yw’n llai na dwy flynedd) ac, ar ôl y cyfnod hwn, gall yr unigolyn wneud cais i’w ystyried eto yn addas i gofrestru. Os na wneir cais llwyddiannus o’r fath, mae’r Gorchymyn Gwahardd yn aros mewn grym
Mae mwy o wybodaeth am yr hyn i’w ddisgwyl mewn gwrandawiad ar gael ar ein tudalen gwybodaeth i gofrestreion: rhoi tystiolaeth mewn gwrandawiad.
Rydym yn gosod hysbysiadau am wrandawiadau ar ein gwefan 5 niwrnod cyn y gwrandawiad. Mae hyn yn cynnwys manylion am ddyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad, y cyflogwr adeg atgyfeirio a natur y mater sydd gerbron y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer.
Os bydd cofrestrai’n cael gorchymyn disgyblu, byddwn yn crynhoi’r penderfyniad ac yn ei gyhoeddi ar ein tudalen canlyniadau gwrandawiadau.
Ym mwyafrif yr achosion, gall aelodau’r cyhoedd neu’r wasg fod yn bresennol mewn gwrandawiadau.