Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg
Ystadegau Blynyddol CGA ar gyfer y Gweithlu Addysg yng Nghymru 2023
Canfyddiadau allweddol
Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi dadansoddiad manwl o’r gweithlu addysg yng Nghymru. Mae hyn yn cwmpasu ystod eang o ymarferwyr ar draws y grwpiau rydym yn eu cofrestru. Cyn mis Mai 2023, y rhain oedd:
- athrawon a staff cymorth dysgu mewn ysgolion a lleoliadau addysg bellach (AB)
- gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig
- ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith
Bu’n ofynnol i ymarferwyr yn y sector annibynnol gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ers mis Mai 2023. Felly, nid ydynt wedi’u cynnwys yn y cyhoeddiad hwn, ond byddant yn cael eu cynnwys mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol o 2024 ymlaen.
Mae’r ystadegau a gynhyrchwn yn dod o’n Cofrestr Ymarferwyr Addysg (y Gofrestr). Mae’r Gofrestr amser real yn darparu data manwl a chynhwysfawr am yr holl grwpiau cofrestredig.
Ar 1 Mawrth 2023, roedd 88,748 o unigolion wedi’u cofrestru gyda ni.
Darllenwch Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru 2023 .
Sut mae ein data ni’n wahanol?
Mae’r data a ddarparwn yn unigryw ac nid yw ar gael trwy unrhyw sefydliad neu gorff arall. Am y rheswm hwnnw, ni ddylid ei gymharu â ffynonellau eraill fel Cyfrifiad Blynyddol o’r Gweithlu Ysgolion (CBGY) Llywodraeth Cymru.
Mae ein hystadegau’n wahanol gan ein bod yn adrodd ar y gweithlu addysg cyfan yng Nghymru. O ran y sector ysgolion yn benodol, yn wahanol i CBGY, mae ein data’n fwy cynhwysfawr. Y rheswm am hyn yw oherwydd ei fod yn cynnwys yr holl athrawon cyflenwi, gweithwyr peripatetig, ac eraill sy’n darparu addysg neu hyfforddiant mewn ystod o leoliadau addysg. Rydym hefyd yn dal data hanesyddol sylweddol – yn achos athrawon, mae’n rhychwantu 20+ o flynyddoedd. Mae hyn yn ein galluogi i ddarparu gwybodaeth helaeth am dueddiadau.
Rydym yn cyfrifo’r canrannau a ddyfynnir ar ethnigrwydd, hunaniaeth genedlaethol a’r Gymraeg o gyfanswm nifer y cofrestreion. Mae hyn yn cynnwys y rhai hynny lle mae’r gwerth yn anhysbys. Caiff canran y gwerthoedd ‘anhysbys’ ei nodi ym mhob maes er mwyn cyflawnder.
Athrawon ysgol
Cynyddodd nifer yr athrawon ysgol cofrestredig 1.6% yn 2023 ers 2022 (35,837 yn 2023, 35,256 yn 2022). Dyma’r ail gynnydd o flwyddyn i flwyddyn ers 2021.
Mae mwyafrif yr athrawon ysgol yn fenywaidd (75.5%). Mae’r cydbwysedd rhywedd yn sefydlog ac nid yw’n newid llawer o flwyddyn i flwyddyn.
Mae proffil oedran athrawon ysgol yn gytbwys, gyda gwasgariad da o athrawon ar draws yr ystodau oedran.
O ran ethnigrwydd, datganodd 92.3% o athrawon ysgol eu bod yn wyn a datganodd 1.7% eu bod yn perthyn i grŵp ethnig du, Asiaidd neu leiafrifol (4.7% yn anhysbys). O ran hunaniaeth genedlaethol, mae 63.1% yn ystyried eu bod yn Gymry ac mae 23.9% yn ystyried eu bod yn Brydeinig (4.5% yn anhysbys).
Yn yr un modd â’r ystod oedran, ceir gwasgariad da o athrawon ym mhob grŵp blwyddyn ers ennill statws athro cymwysedig (SAC) o hyd. Mae’r nifer a enillodd SAC lai na chwe blynedd yn ôl wedi cynyddu unwaith eto (20.5% yn 2023, 19.2% yn 2021, 19.2% yn 2020).
Mae’r duedd o ran athrawon ysgol sy’n siarad Cymraeg (33.2%), neu’r rhai sy’n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg (26.5%), wedi aros yn eithaf sefydlog heb amrywio llawer o flwyddyn i flwyddyn. Mae gallu iaith Gymraeg athrawon ysgol yn anhysbys ar gyfer 2.6%.
Yng Nghymru, nid yw SAC yn benodol i ystod oedran na phwnc. O ran yr athrawon ysgol uwchradd a chanol sy’n addysgu Saesneg, Mathemateg neu Gymraeg, mae 75.2%, 78.0% a 71.2%, yn y drefn honno, wedi’u hyfforddi yn y pynciau maen nhw’n eu haddysgu. Yn y pynciau sylfaen, ac eithrio Technoleg Gwybodaeth (43.1%), mae’r ymarferwyr ysgol uwchradd a chanol sydd wedi’u hyfforddi yn y pwnc maen nhw’n ei addysgu yn amrywio o 73.3% i 88.8%. Nid yw’r data hwn yn amrywio llawer o flwyddyn i flwyddyn.
O ddata 2023, mae’r cyfraddau cadw yn y gweithlu yn ymddangos yn sefydlog, gan fod 75.5% o athrawon ysgol wedi’u cofrestru o hyd ar ôl 5 mlynedd a 57.1% ar ôl 10 mlynedd. O ran y rhai nad ydynt yn cynnal eu cofrestriad ar ôl 5 mlynedd, mae 61% yn 55 oed neu’n hŷn, ac ar ôl 10 mlynedd mae 48.4% yn 55 oed a hŷn. Oni bai y rhoddir buddion iechyd gwael, yr oedran pensiwn isaf ar gyfer athrawon ysgol yw 55 ar hyn o bryd, gan godi i 57 o 2028 ymlaen.
Gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion
Mae nifer y gweithwyr cymorth dysgu cofrestredig mewn ysgolion wedi cynyddu 47.7% ers 2017 (33,424) ac 16.0% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i 49,380 yn 2023.
Mae cyfran uwch (85.5%) yn fenywaidd o gymharu â’r grwpiau cofrestru eraill. Yr ail uchaf yw athrawon ysgol (75.5%).
Mae 18.1% o dan 25 oed, sy’n uwch na’r ffigur 16.2% yn 2022. Mae hyn yn sylweddol uwch nag athrawon ysgol, sef 4.2%.
O ran ethnigrwydd, datganodd 72.6% eu bod yn wyn a datganodd 6.0% eu bod yn perthyn i grŵp ethnig du, Asiaidd neu leiafrifol. O ran hunaniaeth genedlaethol, mae 42.9% o weithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion yn ystyried eu bod yn Gymry (20.4% ac 20.3% yn anhysbys, yn y drefn honno). Mae 19.9% yn gallu siarad Cymraeg ac mae 16.3% wedi datgan eu bod yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg (15.0% a 15.1% yn anhysbys, yn y drefn honno).
O ddata 2023, mae’n ymddangos bod y cyfraddau cadw yn y gweithlu yn sylweddol wahanol i athrawon ysgol, gan nad yw 39% yn cynnal eu cofrestriad ar ôl 5 mlynedd, ac mae 30.2% o’r rhai nad ydynt yn parhau yn iau na 30 oed.
Athrawon AB
Roedd nifer yr athrawon AB cofrestredig yn 2023 (6,785) 11.5% yn uwch nag yn 2017 (6,083).
Mae’r rhaniad rhywedd yn fwy cytbwys o gymharu â’r sector ysgolion, gyda 59.3% yn fenywaidd a 40.7% yn wrywaidd.
Mae’r gweithlu AB yn hŷn na’r gweithlu ysgolion. Mae 45.6% yn 50 oed a hŷn o gymharu â 25.9% o athrawon ysgol.
O ran ethnigrwydd, datganodd 76.2% o athrawon AB eu bod yn wyn a datganodd 4.2% eu bod yn perthyn i grŵp ethnig du, Asiaidd neu leiafrifol. O ran hunaniaeth genedlaethol, mae 45.0% yn ystyried eu bod yn Gymry ac mae 26.4% yn ystyried eu bod yn Brydeinig (17.1% yn anhysbys o ran ethnigrwydd a hunaniaeth genedlaethol).
Mae 17.1% yn siaradwyr Cymraeg rhugl neu eithaf rhugl ac mae 12.0% yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg (14.3% yn anhysbys o ran y ddau).
Mae 84.7% o gofnodion athrawon AB yn cynnwys gwybodaeth am gymwysterau (mae 15.3% yn anhysbys). O’r rheiny, mae 75.2% wedi cofnodi cymhwyster ar lefel 6 neu uwch.
O ddata 2023, roedd 60.9% o athrawon AB yn parhau i fod wedi’u cofrestru yn yr un categori ar ôl 5 mlynedd. O ran y 34.4% nad oeddent wedi cynnal eu cofrestriad gyda CGA, roedd 47% yn 55 oed a hŷn.
Gweithiwr cymorth dysgu AB
Mae’r niferoedd sydd wedi’u cofrestru yn y categori gweithwyr cymorth dysgu AB wedi cynyddu o 4,222 yn 2017 i 6,182 yn 2023, sydd wedi’i briodoli i raddau helaeth i’r nifer sydd bellach yn cofrestru mewn sawl categori cofrestru (3,948 o’r 6,182) er mwyn gallu gweithio ar draws sectorau.
Mae mwyafrif y gweithwyr cymorth dysgu AB yn fenywaidd (68.6%), sy’n wahanol i athrawon AB lle mae rhywedd yn fwy cytbwys (59.3% yn fenywaidd, 40.7% yn wrywaidd).
Mae gweithwyr cymorth dysgu AB yn weithlu iau nag athrawon AB gan fod 65.8% yn iau na 50 oed o gymharu â 54.4% o athrawon AB. Mae 21.3% o weithwyr cymorth dysgu AB yn iau na 30 oed.
O ran ethnigrwydd, datganodd 79.7% o weithwyr cymorth dysgu AB eu bod yn wyn a datganodd 7.2% eu bod yn perthyn i grŵp ethnig du, Asiaidd neu leiafrifol. O ran hunaniaeth genedlaethol, mae 43.4% yn ystyried eu bod yn Gymry ac mae 31.3% yn ystyried eu bod yn Brydeinig (10.6% yn anhysbys).
Mae 15.2% yn gallu siarad Cymraeg ac mae 10.2% wedi datgan eu bod yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg (mae 8.7% a 7.5% yn anhysbys, yn y drefn honno).
Nid yw 42.6% o weithwyr cymorth dysgu AB wedi cynnal eu cofrestriad ar ôl 5 mlynedd. O’r rheiny, roedd 23.9% yn iau na 30 oed.
Ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith
Mae’r niferoedd sydd wedi’u cofrestru yn y categori dysgu seiliedig ar waith wedi aros yn gyson â 2021 a 2022.
Mae 63.3% o ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yn fenywaidd ac mae 36.6% yn wrywaidd.
Yn yr un modd ag athrawon ysgol, mae ystod oedran ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yn gytbwys, gyda gwasgariad da o ymarferwyr ar draws yr ystodau oedran 30-60.
O ran ethnigrwydd, datganodd 81.5% o ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith eu bod yn wyn a datganodd 2.6% eu bod yn perthyn i grŵp ethnig du, Asiaidd neu leiafrifol. O ran hunaniaeth genedlaethol, mae 46.5% yn ystyried eu bod yn Gymry ac mae 29.0% yn ystyried eu bod yn Brydeinig (13.7% yn anhysbys).
Dywedodd 14.3% o ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a wnaeth ddatganiad eu bod yn gallu siarad Cymraeg ac mae 10.7% yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg (9.3% yn anhysbys yn y ddau)
Mae 77.5% o gofnodion ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yn cynnwys gwybodaeth am gymwysterau. O’r rheiny, mae gan 51.2% gymhwyster ar lefel 5 neu uwch.
Mae 45.6% o ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yn parhau i fod wedi’u cofrestru yn eu categori ar ôl 5 mlynedd.
Gweithwyr ieuenctid cymwysedig
Mae gweithwyr ieuenctid yn gymwys i gofrestru â CGA os oes ganddynt un o’r cymwysterau gorfodol a restrir yn y Rheoliadau. Gweler Gwneud cais i gofrestru. Nid yw’r niferoedd sydd wedi’u cofrestru yn y sector gwaith ieuenctid wedi newid llawer ers 2018.
Yn yr un modd â’r categorïau cofrestru eraill, mae’r sector gwaith ieuenctid yn fenywaidd yn bennaf (69.6%).
Mae proffil oedran gweithwyr ieuenctid yn gytbwys.
O ran ethnigrwydd, datganodd 73.2% o weithwyr ieuenctid eu bod yn wyn a datganodd 3.1% eu bod yn perthyn i grŵp ethnig du, Asiaidd neu leiafrifol (21.0% yn anhysbys).
O ran hunaniaeth genedlaethol, datganodd 49.7% eu bod yn ystyried eu bod yn Gymry, a datganodd 19.9% eu bod yn Brydeinig (21.0% yn anhysbys).
Mae 13.0% o weithwyr ieuenctid yn gallu siarad Cymraeg ac mae 8.1% wedi datgan eu bod yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg (14.5% a 14.8% yn anhysbys).
Mae 18.0% o weithwyr cymorth ieuenctid yn gallu siarad Cymraeg ac mae 13.5% wedi datgan eu bod yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg (16.9% yn anhysbys yn y ddau).
Mae 62.9% o weithwyr ieuenctid yn parhau i fod wedi’u cofrestru yn eu categorïau unigol ar ôl 5 mlynedd.
Gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig
Mae gweithwyr cymorth ieuenctid yn gymwys i gofrestru â CGA os oes ganddynt un o’r cymwysterau gorfodol a restrir yn y Rheoliadau. Gweler Gwneud cais i gofrestru.
Yn yr un modd â’r categorïau cofrestru eraill, mae’r sector gwaith cymorth ieuenctid yn fenywaidd yn bennaf (66.1%).
Mae proffil oedran gweithwyr cymorth ieuenctid yn gytbwys.
O ran ethnigrwydd, datganodd 74.4% o weithwyr cymorth ieuenctid eu bod yn wyn a datganodd 2.7% eu bod yn perthyn i grŵp ethnig du, Asiaidd neu leiafrifol (20.2% yn anhysbys).
O ran hunaniaeth genedlaethol, datganodd 42.5% eu bod yn ystyried eu bod yn Gymry, a datganodd 19.2% eu bod yn Brydeinig (20.4% yn anhysbys).
Mae 18.0% o weithwyr cymorth ieuenctid yn gallu siarad Cymraeg ac mae 13.5% wedi datgan eu bod yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg (16.9% yn anhysbys yn y ddau).
Mae 48.8% o weithwyr cymorth ieuenctid yn parhau i fod wedi’u cofrestru yn eu categorïau unigol ar ôl 5 mlynedd.