Yn yr adran hon, cewch amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo sefydliadau i baratoi ar gyfer a/neu wneud cais am y Marc Ansawdd mewn Gwaith Ieuenctid (y Marc Ansawdd) yng Nghymru. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, e-bostiwch ni
- Cyflwyniad a chanllaw i’r Marc Ansawdd
- Y Marc Ansawdd: lefel efydd
- Y Marc Ansawdd: lefel arian
- Y Marc Ansawdd: lefel aur
- Canllaw hunanasesu 2024
- Cyngor ar sefydlu Google Drive ar gyfer Asesiad y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid
- Arolwg Asesu’r Marc Ansawdd
Geirfa termau
Term |
Ystyr |
Tystiolaeth |
Y ddogfennaeth i gefnogi’r hyn rydych chi’n dweud eich bod yn ei wneud. Gallai hyn gynnwys polisïau, adroddiadau, posteri ac ati. |
Disgrifiadau gradd |
Mae’r rhain yn esbonio pa mor dda y mae sefydliad yn ei wneud yn erbyn pob dangosydd. Maent wedi’u rhannu’n arfer dda, angen rhywfaint o ddatblygiad ac angen datblygiad sylweddol. |
Llywodraethu |
Llywodraethu yw’r term ar gyfer y ffordd y mae grŵp o ymddiriedolwyr, bwrdd llywodraethwyr, neu gyngor, yn gwneud pethau. Mae llawer o grwpiau’n creu pwyllgor i benderfynu sut bydd pethau’n cael eu gwneud. Llywodraethu hefyd yw sut mae penderfyniadau’n effeithio ar bobl yn y sefydliad hwnnw. |
Effaith |
Dyma’r gwahaniaeth y mae gweithred neu weithgaredd yn ei wneud i fywyd pobl ifanc o ganlyniad i’r rhaglenni gwaith ieuenctid. |
Dangosyddion |
Dyma’r mesur y mae angen ei gyrraedd neu ei gynnal. |
Dysgu anffurfiol |
Dysgu sy’n arwain o weithgareddau dyddiol yn gysylltiedig â gwaith, teulu neu hamdden. Nid yw wedi’i drefnu. Gan amlaf, mae dysgu anffurfiol yn anfwriadol. Er enghraifft, dysgu o brofiad, meithrin sgil ar ôl hyfforddi chwaraeon. |
Dysgu nad yw’n ffurfiol |
Mae addysg nad yw’n ffurfiol yn cyfeirio at addysg sy’n digwydd y tu allan i’r system ysgol ffurfiol. Er enghraifft, mynd i grŵp y Sgowtiaid neu yn ystod gweithgaredd mewn clwb ieuenctid |
Rheoli perfformiad |
Dull rheolaidd, wedi’i gynllunio, ar gyfer helpu sefydliad i gyflawni ei nodau a’i amcanion trwy fonitro a gwella perfformiad unigolion, a’r sefydliad yn ei gyfanrwydd. |
Marc Ansawdd |
Dyfarniad cydnabyddiaeth ar gyfer cyflawni safon osodedig. |
Safonau ansawdd |
Bodloni meini prawf gosod yr hyn a ddisgwylir o sefydliad gwaith ieuenctid. Mae pedair safon ansawdd fesul lefel. |
Hunanasesu |
Dyma pryd y gall sefydliadau adolygu ble maen nhw arni a beth sydd ar waith ganddynt ar hyn o bryd, cyn yr asesiad. Gallant nodi cryfderau a gwendidau, a dathlu’r hyn sy’n mynd yn dda a pha mor dda yw’r ddarpariaeth gwaith ieuenctid. Hefyd, gallant ddangos beth yw barn pobl ifanc am y sefydliad. |