CGA / EWC

Accreditation banner
Cyflwyno rhaglen
Cyflwyno rhaglen

Cyn gwneud cais

Rhaid i bob rhaglen a gyflwynir i’w hachredu fodloni’r Meini prawf ar gyfer achredu rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yng Nghymru a bennir gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, cyn gwneud cais, mae’n ofynnol i bartneriaethau gyflwyno ffurflen ddatganiad o fwriad i’r Bwrdd Achredu AGA.

Rhaid i bob rhaglen dderbyn cymeradwyaeth prifysgol cyn iddynt gael eu cyflwyno.

Pryd i wneud cais

Fel rheol, dylai partneriaethau sicrhau bod pob rhaglen AGA newydd yn cael eu cyflwyno o leiaf 18 mis cyn dyddiad cychwyn disgwyliedig y rhaglen gan ddefnyddio’r profforma priodol. Er enghraifft, dylid cyflwyno rhaglenni sy’n dechrau ym mis Medi 2027 erbyn mis Mawrth 2026. 

Achredu

Mae’r canllawiau ar gyfer cyflwyno rhaglen o Addysg Gychwynnol Athrawon i CGA i’w hachredu yn amlinellu’r broses o wneud cais ac asesu rhaglenni ar gyfer achrediad. Dylid cwblhau’r ffurflen briodol yn unol â gofynion CGA.

Ailachredu

Caniateir i bartneriaethau AGA wneud cais am ailachrediad unwaith yn ystod cyfnod o achrediad rhaglen o Addysg Gychwynnol Athrawon. Mae’r canllawiau ar gyfer cyflwyno rhaglen o Addysg Gychwynnol i CGA ar gyfer ailachredu yn amlinellu’r broses o wneud cais ac asesu. Dylid cwblhau’r  ffurflen briodol yn unol â gofynion CGA.

Gwneud newidiadau i raglen

Os oes partneriaeth yn dymuno gwneud newidiadau sylweddol i raglenni achrededig, mae’n rhaid ein hysbysu’n ysgrifenedig. Dylid gwneud hyn drwy ddefnyddio’r ffurflen Hysbysiad o newid mawr i raglen AGA.

Tynnu statws achrededig yn ôl

Os na fydd rhaglen yn cyrraedd y safonau disgwyliedig o ddarpariaeth, neu lle bod partneriaeth yn dewis peidio â chynnig rhaglen mwyach, byddwn yn rhoi ein canllawiau ar gyfer tynnu statws achrededig rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yn ôl, ar waith.

Ffioedd achredu

Rhaid i bob partneriaeth sy’n cyflwyno rhaglen ar gyfer achredu, neu sydd â rhaglen achrededig sy’n gofyn am ymweliad adolygu neu fonitro dalu’r ffi briodol i ni.

Darllennwch ein polisi ffioedd achredu.