Swyddog Gweithredol, Priodoldeb i Ymarfer
£29,657 - £33,748 y flwyddyn gyda buddion ychwanegol
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru.
Gan weithio fel rhan o’r Adran Priodoldeb i Ymarfer, bydd y Swyddog Gweithredol yn darparu cefnogaeth weinyddol a gweithredol wrth arfer swyddogaethau rheoliadol CGA. Bydd hyn yn cynnwys ymgynnull a hwyluso cyfarfodydd a gwrandawiadau a gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cyfathrebiadau iaith Gymraeg i'r tîm. Bydd gofyn i'r Swyddog Gweithredol hefyd gynorthwyo cydweithwyr i wneud gwaith achos a chasglu gwybodaeth berthnasol.
Gyda phrofiad yn cyflawni rôl weinyddol mewn amgylchedd prysur, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd brofiad o drefnu cyfarfodydd a gwneud trefniadau cysylltiedig. Bydd ganddynt sgiliau trefnu ardderchog gyda llygad fanwl a'r gallu i weithio ar eu liwt eu hunain, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol o'r radd flaenaf. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae buddion i gyflogeion yn cynnwys mynediad i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, gweithio hybrid, oriau hyblyg a 31 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â 10 gŵyl banc a diwrnod braint).
E-bostiwch
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 02 Chwefror 2025.
- Ffurflen Gais (PDF) a Ffurflen Gais (DOC)
- Nodiadau cyfarwyddyd (PDF) a Nodiadau cyfarwyddyd (DOC)
- Disgrifiad swydd (PDF) a Disgrifiad swydd (DOC)
- Ffurflen monitro amrywiaeth (PDF) a Ffurflen monitro amrywiaeth (DOC)