CGA / EWC

Fitness to practise banner
Astudiaethau achos priodoldeb i ymarfer
Astudiaethau achos priodoldeb i ymarfer

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi mewnwelediadau clir ac ymarferol i'r disgwyliadau a'r safonau a ddisgwylir gennych yn eich arfer proffesiynol, a'ch bywyd personol.

Yn seiliedig ar esiamplau go-iawn maent yn dangos yr heriau cyffredin a'r peryglon all arwain at wrandawiad priodoldeb i ymarfer. Drwy amlygu'r sefyllfaoedd hyn, ein bwriad yw cynnig pwyntiau dysgu gwerthfawr i'ch helpu i gynnal y safonau uchaf yn eich proffesiwn, a diogelu eich cofrestriad.

Methu datganr

Yn yr astudiaeth achos hon, rydym yn edrych ar enghraifft o geryddu cofrestrai yn sgil profi achos o ymddygiad proffesiynol annerbyniol yn gysylltiedig â methu datgan euogfarn wrth wneud cais am gofrestru gyda CGA.

Crynodeb o’r achos

Roedd y cofrestrai, a oedd eisoes wedi cofrestru gyda CGA fel gweithiwr cymorth dysgu AB, wedi gwneud cais i ychwanegu athro AB at eu cofnod. Yn eu cais gwreiddiol, ticion nhw flwch i gadarnhau nad oedd ganddynt unrhyw euogfarnau heb eu hamddiffyn. Fodd bynnag, wrth gwblhau’r datganiad newydd ar gyfer y cofrestriad ychwanegol, datgelon nhw fod ganddynt euogfarn am fethu â darparu sbesimen i’w ddadansoddi (gyrru neu geisio gyrru).

Ar ôl clywed yr holl dystiolaeth, gofynnwyd i’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer benderfynu p’un a brofwyd yr honiadau canlynol ai peidio, sef bod y cofrestrai:

  • heb unplygrwydd ac wedi gweithredu’n anonest trwy beidio â datgan troseddau blaenorol wrth gyflwyno cais i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg

Hefyd, gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried p’un a oedd yr euogfarn ganlynol yn drosedd berthnasol:

  • methu darparu sbesimen i’w ddadansoddi (gyrru neu geisio gyrru)

Mynychodd y cofrestrai’r gwrandawiad, ond ni roddodd dystiolaeth i’r Pwyllgor.

Canfyddiadau’r Pwyllgor

Ystyriodd y Pwyllgor (gyda chefnogaeth cynghorydd cyfreithiol annibynnol drwyddi draw) y dystiolaeth a ddarparwyd iddo a ph’un a oedd yr honiadau, os cawsant eu profi, yn gyfystyr â chamymddwyn a/neu drosedd berthnasol.

Canfu’r Pwyllgor fod yr euogfarn yn drosedd berthnasol am ei bod yn drosedd ddifrifol ac, wrth gyflawni’r drosedd, bod potensial i weithredoedd y cofrestrai effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd.

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad, at ei gilydd, bod gweithredoedd y cofrestrai, trwy beidio â datgelu’r euogfarn gyda’r cais, fwy na thebyg yn fwriadol. Felly, eu barn nhw oedd bod ymddygiad y cofrestrai yn anonest ac yn dangos diffyg unplygrwydd.

Gosododd y Pwyllgor Gerydd ar gofrestriad yr unigolyn am ddwy flynedd. Roedd hyn yn golygu y byddent yn gallu parhau i weithio fel person cofrestredig am gyfnod y Cerydd, ond byddai’r Cerydd i’w weld gan unrhyw un a oedd yn chwilio’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg.

Y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol

Yn yr achos hwn, roedd yr unigolyn wedi torri egwyddorion canlynol y Cod.

Mae cofrestreion:

  • yn cydnabod eu cyfrifoldeb personol fel model rôl a ffigur cyhoeddus, i gynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiynau addysg, a hynny yn y gweithle a thu allan iddo

2.2 yn ymddwyn yn onest, a chydag unplygrwydd, yn arbennig mewn perthynas â’r canlynol:

  • cyfathrebu gyda CGA, gan ei hysbysu am unrhyw euogfarn droseddol neu rybuddiad cofnodadwy, neu gyfyngiad a osodir ar eu hymarfer gan unrhyw gorff arall

Gwersi a ddysgwyd

Mae bod yn agored ac yn onest yn rhinweddau hanfodol i bob cofrestrai. Gall hepgor gwybodaeth berthnasol, boed yn fwriadol neu’n ddamweiniol, godi cwestiynau am eich unplygrwydd ac effeithio’n andwyol ar ffydd y cyhoedd yn y proffesiwn.

Dyma ychydig o gyngor i’ch helpu wrth lenwi eich ffurflen:

  • darllenwch bob rhan o’r ffurflen gais a’r canllawiau yn ofalus a chymryd eich amser
  • holwch CGA os nad ydych chi’n glir am unrhyw agwedd ar y ffurflen neu’r datganiadau, a’r hyn y gofynnir i chi ei wneud
  • byddwch yn onest ym mhob rhan sy’n berthnasol i chi – cofiwch, a chithau’n gofrestrai, bod hyder y cyhoedd yn cael ei ymddiried ynddoch chi ac mae gonestrwydd ym mhob datganiad yn ganolog i gynnal hyn
  • dywedwch wrthym os bydd rhywbeth yn newid, dim ots er pryd rydych chi wedi cofrestru, mae angen i ni wybod am unrhyw newidiadau perthnasol

Deunydd darllen a chanllawiau pellach

Os nad ydych yn siŵr p’un a oes rhywbeth y mae angen i chi ei ddatgelu i ni, cysylltwch â’r This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..