Rydym yn cynnal sesiynau hyfforddi mewn sefydliadau hyfforddiant cychwynnol athrawon i sicrhau bod hyfforddeion ac ymarferwyr newydd gymhwyso yn gwybod beth mae angen iddynt ei wneud fel y gallant weithio yng Nghymru.
Mae’r rhain yn digwydd rhwng mis Medi a mis Mehefin, ac rydym yn argymell yn gryf eich bod chi’n mynd iddynt.
Mae’r sesiynau hyn:
- yn rhoi cyflwyniad i Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA) a’n rôl yn y sector addysg yng Nghymru
- yn esbonio pam mae cofrestru gyda CGA yn ofyniad cyfreithiol i ymarferwyr addysg sydd am weithio yng Nghymru
- yn archwilio priodoldeb i ymarfer, gan ganolbwyntio ar ymddygiadau disgwyliedig ymarferwr cofrestredig, fel y mae’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol yn eu disgrifio
Dylech gysylltu â thiwtor eich cwrs i gael gwybodaeth am pryd mae’r sesiwn hon yn cael ei chynnal yn eich sefydliad.
Rydym yn annog pob myfyriwr i ddod i’r sesiwn sy’n cael ei threfnu fel y gallwn ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych yn uniongyrchol. Os na allwch ddod i’r sesiwn, darllenwch y canllaw rhagarweiniol i gofrestru a baratowyd gennym, sy’n dweud wrthoch:
- pam mae angen i chi gofrestru
- sut i wneud cais i gofrestru
- am God Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA
Myfyrwyr sy’n dilyn rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) (i athrawon ysgol) yng Nghymru sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC)
Pan fyddwch yn cymhwyso fel athro yng Nghymru, byddwn yn anfon hysbysiad o ddyfarniad SAC atoch. Gwneir y trefniadau canlynol fel y gallwn ddosbarthu tystysgrif SAC i chi.
Pan fyddwn yn gwybod eich bod ar fin cwblhau eich cwrs hyfforddi athrawon, byddwn yn e-bostio cyfeirnod athro unigryw i’ch cyfeiriadau e-bost personol a phrifysgol. Byddwch yn cadw’r cyfeirnod hwn trwy gydol eich gyrfa.
Ar ôl i holl ganlyniadau cyrsiau gael eu gwirio gan y bwrdd arholi perthnasol, bydd pob darparwr AGA yng Nghymru yn anfon y canlyniadau atom, gan gadarnhau y dylai statws SAC gael ei ddyfarnu i fyfyrwyr llwyddiannus.
Byddwn yn dosbarthu tystysgrifau SAC i’r holl fyfyrwyr llwyddiannus ar 1 Awst bob blwyddyn.
I weithio fel athro ysgol yng Nghymru, mae’n rhaid eich bod wedi cofrestru gyda ni. Cyfeiriwch at y dudalen gofrestru am ragor o wybodaeth.
Athrawon dan hyfforddiant sy’n dilyn llwybrau cyflogedig neu ran-amser drwy’r Brifysgol Agored
Rydym yn gyfrifol am gadarnhau dyfarniad SAC i’r rhai sy’n dilyn llwybrau cyflogedig neu ran-amser drwy’r Brifysgol Agored. Os byddwch yn cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, bydd y corff argymell yn rhoi gwybod i ni fel y gallwn ddosbarthu cyfeirnod athro i chi a thystysgrif yn cadarnhau bod SAC wedi’i ddyfarnu.
I weithio fel athro ysgol yng Nghymru, mae’n rhaid eich bod wedi cofrestru gyda ni. Cyfeiriwch at y dudalen gofrestru am ragor o wybodaeth.
Myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau addysg a hyfforddiant ôl-orfodol (e.e. AHO; TAR (AB)) yng Nghymru
Mae’n bwysig bod myfyrwyr addysg a hyfforddiant ôl-orfodol mewn sefydliadau addysg bellach (AB) yng Nghymru yn cofrestru gyda ni cyn eu swydd addysgu gyntaf. Mae hyn yn cynnwys gwaith cyflenwi.
Cyfeiriwch at y dudalen gofrestru am ragor o wybodaeth.
Cyrsiau mewn gwaith ieuenctid (e.e. y Diploma Ôl-raddedig mewn addysg ieuenctid a chymunedol yng Nghymru)
Cyrsiau mewn gwaith ieuenctid (e.e. y Diploma Ôl-raddedig mewn addysg ieuenctid a chymunedol yng Nghymru)
Mae'n rhaid i'r rheiny sy'n gweithio yn y sector ieuenctid yng Nghymru ar gwrs gwaith ieuenctid gofrestru gyda ni tra eu bod yn cwblhau eu hyfforddiant. Nid oes angen i fyfyrwyr nad ydynt yn cael eu cyflogi fel gweithiwr ieuenctid gofrestru gyda ni wrth iddynt hyfforddi.
Cyfeiriwch at y dudalen gofrestru am ragor o wybodaeth.