CGA / EWC

About us banner
Cynlluniau ac adroddiadau corfforaethol
Cynlluniau ac adroddiadau corfforaethol

Yn yr adran hon, gallwch ddarllen ein cynlluniau a’n hadroddiadau sy’n dangos sut rydym ni’n cyflawni ein prif nodau, sef:

  • cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu yng Nghymru
  • cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon a phobl sy’n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru
  • diogelu buddiannau dysgwyr, rhieni a’r cyhoedd, a chynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg

Cynllun Strategol CGA 2024-27

Mae ein Cynllun Strategol 2024-27 yn amlinellu ein gweledigaeth, sef bod yn rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol, dibynadwy sy’n gweithio er budd y cyhoedd i gynnal proffesiynoldeb a gwella safonau yn y gweithlu addysg yng Nghymru. Mae’n amlinellu’r blaenoriaethau a’r amcanion a fydd yn ein helpu i wireddu’r weledigaeth hon a’r gwerthoedd a fydd wrth wraidd ein hymagwedd dros y tair blynedd nesaf.

Darllenwch ein Cynllun Strategol 2024-27 (HTML).

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28

Rydym ni’n ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac am chwarae ein rhan i greu Cymru decach. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn amlinellu sut byddwn ni’n cofleidio ein rôl wrth hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, o fewn ein sefydliad ac (o fewn ein cylch gwaith) ar draws y gweithlu addysg ehangach yng Nghymru.

Darllenwch ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 (HTML).

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon

Mae ein Hadroddiad Blynyddol yn cynnig trosolwg cynhwysfawr o’n cynnydd a’n heffaith dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf ac mae’n amlygu rhai o’n cyflawniadau allweddol. Hefyd, mae’n esbonio ein llywodraethiant, ein hadnoddau ariannol a’n cynlluniau at y dyfodol.

Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022-23 .

Darllenwch drosolwg o'n Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022-23

Adroddiad Priodoldeb i Ymarfer Blynyddol

Rydym ni’n cyhoeddi adroddiad priodoldeb i ymarfer blynyddol sy’n amlinellu:

  • sut rydym ni’n delio â materion sy’n cael eu cyfeirio atom ni
  • data am y mathau o achosion rydym ni’n delio â nhw, gan gynnwys tueddiadau o flwyddyn i flwyddyn
  • datblygiadau yn y dyfodol i wella’r ffordd rydym ni’n cyflawni’r gwaith hwn

Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer 2022-23

Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb

Rydym ni’n cyhoeddi adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb sy’n amlygu’r cynnydd a wneir bob blwyddyn tuag at gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb.

  Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2022-23 .

Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau’r Gymraeg

Mae’r adroddiad hwn yn darparu gwybodaeth am sut rydym ni wedi cydymffurfio ac mae’n amlinellu sut rydym ni wedi gweithredu’r safonau.

  Darllenwch ein Hadroddiad monitro blynyddol Safonau’r Gymraeg 2022-23 .

Darllenwch fwy am sut rydym ni’n cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.