Aelodau'r Bwrdd
Mae Bwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) (y Bwrdd) yn gyfrifol am achredu rhaglenni AGA.
Mae’r Bwrdd yn cynnwys 15 aelod, gan gynnwys y Cadeirydd a dau ddirprwy. Mae pob un ohonynt â chefndir mewn gwahanol feysydd addysg.
Dr Hazel Hagger (Caderiydd)
Gweithiodd Hazel Hagger mewn ysgolion uwchradd fel athrawes ac arweinydd am nifer o flynyddoedd cyn ymuno â Phrifysgol Rhydychen, gan gyfrannu at gynllunio a datblygu un o’r partneriaethau cyntaf ym maes AGA.
Mae gan Hazel brofiad helaeth yn y gwaith o ddatblygu cyrsiau a rhaglenni ym maes AGA a dysgu proffesiynol parhaus, fel Cyfarwyddwr Cyrsiau Proffesiynol yn yr Adran Addysg, Prifysgol Rhydychen, ac mewn rôl gynghori mewn llawer o brifysgolion yn y DU a thramor. Mae hi hefyd wedi cymryd rhan mewn adolygiadau cenedlaethol o’r ddarpariaeth AGA, ac mewn gwaith datblygu partneriaethau a mentoriaid mewn llawer o wledydd. Mae ganddi brofiad o ddatblygu gallu ymchwil mewn ymchwil addysgol fel dirprwy Gymrawd Ymchwil Uwch ym Mhrifysgol Auckland.
Diddordebau Hazel o ran ymchwil yw natur, caffaeliad a datblygiad arbenigedd athrawon, ac mewn mentora a phartneriaethau mewn addysg. Mae hi wedi ysgrifennu’n helaeth ar y meysydd hyn.
Dr Áine Lawlor (Dirprwy gadeirydd)
Cymhwysodd Áine Lawlor fel athrawes gynradd yn 1969, mae ganddi B.A., Diploma Uwch mewn Addysg, Diploma mewn Gweinyddu Addysg, M.A., Ph.D. a Diploma Ôl-radd mewn cyfieithu Gwyddeleg.
Mae gyrfa Áine wedi bod yn un arloesol. Yn 1975 cafodd swydd y Pennaeth mewn ysgol newydd yn Nulyn, gan ddechrau gyda dim ond 33 o ddisgyblion. Yn 1996, daeth yn Gydlynydd Cenedlaethol Cynorthwyol i’r Gwasanaeth Cymorth Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb (Relationships and Sexuality Education Support Service). Yna yn 1998 dechreuodd Áine yn swydd Cydlynydd Cenedlaethol Rhaglen Cefnogi’r Cwricwlwm Cynradd / Primary Curriculum Support Programme ac yn 2004 daeth Áine yn Brif Swyddog Gweithredol cyntaf y Cyngor Addysgu (Iwerddon).
Ar ôl ymddeol yn 2011, parhaodd Áine i ymwneud â maes AGA. Mae hi wedi bod yn Gynghorydd a Rapporteur i Adroddiad Sahlberg ar AGA yn Iwerddon, aelod o Grŵp Gorchwyl a Gorffen Meini Prawf AGA Llywodraeth Cymru. Mae hi hefyd wedi bod yn aelod o Fforwm Arbenigwyr AGA Llywodraeth Cymru, a Chadeirydd Pwyllgor Moeseg Ymchwil Coleg Mary Immaculate.
Yn ogystal â bod yn aelod o nifer o bwyllgorau ar lefel genedlaethol yn Iwerddon, mae Áine yn Ddirprwy Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr ac Awdurdod Llywodraethu Coleg Mary Immaculate yn Limerick. Hi hefyd yw Cadeirydd Pwyllgor Llywio Cenedlaethol y Ganolfan Arweinyddiaeth Ysgolion/ National Steering Committee for the Centre for School Leadership (Iwerddon).
Dr Christine Jones (Dirprwy gadeirydd)
Yn dilyn gradd yn y Gymraeg yn Aberystwyth, cwblhaodd Christine Jones ei PhD ar dafodiaith Gymraeg Sir Benfro yn Llanbedr Pont Steffan. Dechreuodd ar swydd ddarlithio yn y Gymraeg yno yn 1988, gan ddod yn Bennaeth Adran yn 2007. Yn 2010 fe'i penodwyd yn Bennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, cyn symud i rôl Deon Cynorthwyol Ansawdd yn 2015. Daeth yn Ddeon yr Athrofa Addysg a'r Dyniaethau ym MCYDDS yn 2020 ac ymddeolodd o gyflogaeth amser llawn yn 2022.
Mae Christine wedi cyhoeddi llyfrau ac erthyglau ar sosio-ieithyddiaeth ac ieithyddiaeth gymhwysol gan gynnwys nifer o lyfrau ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Bu’n adolygydd i Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y DU (ASA) rhwng 2018 a 2022 ac erbyn hyn mae'n gweithio'n rhan amser i’r ASA, fel Rheolwr Ansawdd. Mae'n gwneud rôl ansawdd debyg i Uned Gwasanaethau'r Gymraeg PCYDDS ar gytundeb rhan amser. Christine yw Dirprwy Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Bro Dinefwr a bu’n Gadeirydd y Llywodraethwyr mewn ysgol gynradd am flynyddoedd lawer.
Dr Anita Rees
Graddiodd Dr Anita Rees mewn Hanes o Brifysgol Cymru, Aberystwyth. Ei diddordeb ymchwil ar gyfer ei Ph.D. oedd gwleidyddiaeth y 18fed ganrif.
Bu Anita yn athrawes am 34 o flynyddoedd a threuliodd ei holl yrfa mewn addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg. Bu’n ymgymryd â nifer fawr o rolau arweinyddiaeth ganol ac uwch, yn magu profiad a diddordeb arbennig ym meysydd asesu, Anghenion Dysgu Ychwanegol, a datblygiad proffesiynol. Wedi cyfnod yn gweithio fel Pennaeth Dros Dro, ymddeolodd Dr Rees yn 2017.
Daeth Anita yn aelod o Fwrdd Achredu AGA yn 2017.
Catherine Evans
Mae Catherine Evans yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol yn Estyn ac yn arwain ar y gwaith o ddatblygu a gweithredu’r polisi arolygu ar draws y sefydliad. Hi sy’n gyfrifol am waith Estyn gydag ysgolion uwchradd ac ysgolion pob oed a phartneriaethau Addysg Gychwynnol Athrawon. Mae hi'n arwain ar agweddau ar gefnogaeth Estyn i raglen diwygio addysg Llywodraeth Cymru, gan gynnwys datblygu’r cwricwlwm, dysgu proffesiynol a’r gwaith o ddatblygu adnodd cenedlaethol ar gyfer gwella ysgolion.
Ymunodd Catherine ag Estyn yn 2009 a chymerodd ran mewn amrywiaeth fawr o waith arolygu a thematig mewn perthynas ag ysgolion uwchradd a chynradd ac addysg bellach. Cyn ei phenodi’n Gyfarwyddwr Cynorthwyol, hi oedd arolygydd arweiniol y sector ysgolion uwchradd. Aeth Catherine i Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Prifysgol Manceinion, ac Adran Addysg Prifysgol Rhydychen. Mae Catherine wedi gweithio mewn ysgolion yng ngorllewin Canolbarth Lloegr a de Cymru.
Richard Parsons
Bu Richard Parsons yn addysgu Ieithoedd Tramor Modern mewn amrywiaeth o ysgolion uwchradd Cymraeg a Saesneg ar draws de Cymru am 23 o flynyddoedd. Gadawodd Richard ei swydd fel Pennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni i fod yn rheolwr prosiect peilot ieithoedd tramor modern llwyddiannus ysgolion cynradd Cymru gyfan CILT-Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru.
Symudodd Richard i weithio fel Uwch Gynghorydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, cyn ei benodi’n Gyfarwyddwr Addysg Cynorthwyol. Yn 2012, symudodd Richard i Gonsortiwm y Gwasanaeth Cyflawni Addysg, gyda chyfrifoldeb dros Therapi Iaith a Lleferydd yn y sector Cymraeg. Sefydlodd Richard gwmni Erwlas Educational Consulting yn 2014, gan chwarae rôl ymgynghorydd i’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg a Chonsortiwm Canol De Cymru, gan weithio’n bennaf fel Cynghorydd Herio.
Mae Richard hefyd wedi gweithio ar nifer o ymgynghoriadau ac adolygiadau i Lywodraeth Cymru mewn amryw o feysydd, ond addysg yn bennaf. Cymerodd Richard ran mewn llawer o arolygiadau ysgol i Estyn ledled Cymru, fel Arolygydd ac fel Cynghorydd Herio.
Ers 2018, mae Richard hefyd wedi bod yn gweithio i CBAC fel Arolygydd Y Cydgyngor Cymwysterau, yn ogystal â bod yn aelod o’r Panel Apeliadau a Chamymddwyn.
Sarah Lewis
Sarah Lewis yw Arolygydd Arweiniol Estyn ym maes Addysg Gychwynnol Athrawon. Mae ganddi gefndir mewn celf a dylunio a’r celfyddydau perfformio. Addysgodd ym maes addysg bellach ac mewn ysgolion cynradd ac uwchradd cyn symud i rôl addysgu AGA. Roedd Sarah yn uwch ddarlithydd yn Ysgol Addysg Caerdydd yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (Prifysgol Metropolitan Caerdydd bellach) am 12 o flynyddoedd, lle roedd yn Arweinydd Rhaglen TAR Celf a Dylunio a Chyfarwyddwr Fframwaith Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Ymunodd Sarah ag Estyn fel Arolygydd Ei Mawrhydi yn 2009 o’i swydd fel Swyddog Gwella Ysgolion gydag awdurdod lleol yng ngogledd Cymru. Yn ogystal â’i rôl arweiniol ym maes AGA gydag Estyn, mae Sarah hefyd yn ymwneud ag amrywiaeth fawr o waith thematig ac archwilio ar draws sectorau amrywiol.
Penny Lewis
Astudiodd Penny Lewis ym Mhrifysgol Lerpwl cyn cwblhau AGA ym Mhrifysgol Nottingham. Dechreuodd ei swydd dysgu gyntaf yn 1975 yn The Harwich School, Essex. Symudodd Penny wedyn i Lundain lle roedd yn dysgu ac yn arwain ym maes ieithoedd mewn amrywiaeth o ysgolion a chyd-destunau ar draws de Llundain. Yn 1985, secondiwyd Penny i Goleg Homerton, Caergrawnt, fel rhan o raglen datblygu cwricwlwm Croydon ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol cyntaf.
O 1989 i 1992, bu’n gweithio fel cynghorydd ieithoedd i fwrdeistrefi Sutton a Bromley yn Llundain, gan weithio ochr yn ochr ag athrawon i ddatblygu ffyrdd newydd o addysgu ieithoedd i bob oed, o ddisgyblion cynradd i oedolion. Cyfrannodd y gwaith hwn at y broses o gwblhau ei gradd Meistr mewn addysg.
Yn 1993, symudodd Penny i’r Brifysgol Agored, yn helpu i ddatblygu’r rhaglen hyfforddi athrawon gyntaf trwy ddysgu o bell yn y DU. Daeth yn Ddirprwy Gyfarwyddwr y rhaglen gyda chyfrifoldeb arbennig dros y rhaglen yng Nghymru a Gogledd Iwerddon. Yn ystod ei hamser gyda’r Brifysgol Agored, datblygodd ddiddordebau ymchwil mewn hunaniaeth a datblygiad athrawon.
Yn 2001, daeth Penny nôl adref i Gymru i weithio fel Arolygydd Ei Mawrhydi gydag Estyn. Yn rhinwedd y swydd hon, mae Penny wedi gweithio ar dimau arolygu yn y rhan fwyaf o sectorau addysg yng Nghymru ac wedi cynrychioli Estyn ar lawer o grwpiau cynghori. Ymddeolodd Penny o gyflogaeth amser llawn gydag Estyn yn 2016.
Dr Beth Dickson
Mae Dr Beth Dickson yn Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Addysg Prifysgol Glasgow. Yn ystod ei hamser fel Deon Cyswllt Addysg Gychwynnol Athrawon a Dirprwy Bennaeth yr Ysgol, arweiniodd y tîm a ddatblygodd y PGDE yn gymhwyster lefel M, y llwybr lefel-Meistr i addysgu cyntaf yn yr Alban. Aeth ati wedyn i arwain y tîm a ddiwygiodd gwricwlwm y rhaglen addysg gychwynnol athrawon bedair-blynedd.
Mae Beth wedi bod yn rhan o symudiadau radical i wella ansawdd lleoliadau addysgu i athrawon dan hyfforddiant. Mae ei diddordebau ymchwil mewn datblygu’r cwricwlwm ym maes addysg gychwynnol athrawon. Mae Beth yn ymlacio drwy ddarllen nofelau ditectif a gwylio dramâu ar y teledu. Mae’n mwynhau ei hamser yng Nghymru a’i thrafodaethau ag athrawon a disgyblion mewn ysgolion.
T Anne Morris
Enillodd T Anne Morris ei gradd yn y Gymaeg yng Ngoleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, a chwblhaodd ei gradd Meistr yno hefyd.
Dechreuodd ei gyrfa fel athrawes yn Ysgol Gyfun Ystalyfera cyn cael y profiad unigryw o fod yn un o ddeg athro cyntaf Ysgol Gyfun Gŵyr pan sefydlwyd yr ysgol ym 1984. Yn arweinydd canol ac uwch profiadol, bu’n Ddirprwy’r ysgol am 12 mlynedd gan ddatblygu meysydd asesu, addysgeg mwy rhyngweithiol a datblygiad proffesiynol.
Bu Anne yn Bennaeth Ysgol Gyfun Llanhari am bum mlynedd cyn symud i fod yn Bennaeth campws Cymuned Ddysgu 3 – 19+ Garth Olwg, a Phennaeth Ysgol Gyfun Garth Olwg.
Mae Anne bellach yn ymghynghorydd addysg annibynnol sydd wedi gweithio gydag ysgolion unigol a rhanbarthau penodol ar faterion gwella ysgol a chodi safonau. Bu’n diwtor anrhydeddus Prifysgol Caerdydd a chyfrannodd yn sylweddol at ddatblygiad rôl Mentor o fewn raglen arloesol y radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol a gyflwynwyd yn 2013.
Mae’n parhau ei hymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol athrawon drwy fod yn Fentor ac yn Wiriwr Allanol sy’n cefnogi cyfnod Sefydlu athrawon newydd gymhwyso. Wedi hyfforddi fel Arolygydd Cymheiriaid, mae’n parhau yn Arolygydd Tîm Estyn.
Gemma Long
Gemma Long yw Pennaeth Ansawdd a Pholisi Addysg ym Mhrifysgol Caergrawnt, cyd-gymrawd Coleg St Edmund, Caergrawnt, a Llywodraethwr yng Ngholeg Chweched Dosbarth Long Road. Yn 2022, fe wnaeth gwblhau secondiad i Lywodraeth Cymru i ddatblygu elfennau sicrhau a gwella ansawdd ei ddiwygiadau addysg drydyddol, a sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.
Treuliodd saith mlynedd yn Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y DU mewn sawl rôl gan gynnwys Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer ei gynllun Pryderon, a'r Swyddog Arweiniol ar gyfer Cymru. Ers 2019 mae hi wedi bod yn adolygwr ar gyfer QAA a Quality and Qualifications Ireland.
Mae gan Gemma raddau gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerfaddon, gan gynnwys Gradd Meistr mewn Addysg, yn arbenigo mewn addysg uwch.
Mae ei diddordebau proffesiynol yn canolbwyntio ar brofiad y myfyriwr, ansawdd addysg, a'i sicrhau, ei fwyhau, a llywodraethu.
Emma Cavender-Morris
Graddiodd Emma Cavender-Morris o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a chwblhaodd ei gradd BA mewn Addysg yn UWIC. Gan gydnabod bod ganddi ddiddordeb dwfn mewn arweinyddiaeth addysgol, estynnodd Emma ei hastudiaethau gyda chymhwyster ILM mewn arweinyddiaeth a rheolaeth addysgol o Brifysgol De Cymru. Mae ei symbyliad a’i hangerdd wedi arwain at yrfa lwyddiannus, a’i rôl fel pennaeth cynorthwyol yn gyfrifol am addysgu a dysgu yn Nhredegar.
Dechreuodd gyrfa addysgu Emma yn Cathays, lle bu’n addysgu Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Perfformio, gan ymgymryd ag amrywiaeth o rolau, yn cynnwys Pennaeth Blwyddyn ac Uwch Fentor ar gyfer AGA.
Mae Emma yn fentor rhagorol ar gyfer AGA, ANG ac mae’n Anogwr Proffesiynol eithriadol o fewn yr ysgol. Yn ei rôl fel pennaeth cynorthwyol, chwaraeodd ran allweddol yn gweithredu gweledigaeth addysgu a dysgu ragorol, gan drefnu a hwyluso rhaglenni dysgu proffesiynol i’r holl arweinwyr dysgu, a meithrin diwylliant o berfformiad uchel, dysgu parhaus a chydweithredu ymhlith y staff.
Mae angerdd Emma tuag at ddysgu i’w weld o hyd yn sgil cael ei chyflwyno’n ddiweddar i gymrodoriaeth OLEVI.
Sharon Macleod
Astudiodd Sharon Macleod Ieithyddiaeth Gymdeithasegol ym Mhrifysgol Surrey, ac wedyn cwblhaodd hi gymhwyster Addysg Gychwynnol Athrawon ym Mhrifysgol Abertawe. Addysgodd Sharon am gyfnod byr yn Llundain cyn dychwelyd i Gaerdydd lle y mae wedi mwynhau ei gyrfa fel athrawes, a ddechreuodd gyda swydd yn Ysgol Uwchradd Gatholig Coprus Christi.
Mae Sharon yn meddu ar ehangder o brofiad addysgol mewn ysgolion, o ymwneud â lles dysgwyr fel Pennaeth Cyfnod Allweddol i arwain adran Saesneg lwyddiannus am ugain mlynedd. Ar hyn o bryd, mae’n arwain Addysgu a Dysgu, yn cefnogi athrawon newydd gymhwyso (ANG) a datblygiad proffesiynol parhaus ysgol gyfan.
Mae Sharon wedi ymwneud ag AGA ers ei hail flwyddyn fel athrawes. Yn wreiddiol, bu’n gweithio fel mentor pwnc Saesneg yn yr ysgol ond ac wedyn symudodd i Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn, gan ddod yn Uwch Fentor ac Arweinydd AGA mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Cymerodd Sharon ran mewn datblygu model partneriaeth AGA o’r dechrau’n deg.
Nick Dyer
Mae Nick Dyer wedi bod yn bennaeth ers 2005. Fel pennaeth gweithredol, arweiniodd Nick Ysgol Gymunedol Hakin ac Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Hubberston trwy’r broses uno ac, yn 2017, agor Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Gelliswick yr Eglwys yng Nghymru yn Aberdaugleddau, Sir Benfro, lle mae’n bennaeth ar hyn o bryd.
Dechreuodd Nick ei yrfa fel athro ym 1994 ar ôl gwneud TAR ym Mhrifysgol Caerhirfryn, yn sgil graddio gydag MA mewn Hanes ac Astudiaethau Americanaidd o Brifysgol Dundee. Cyn dod yn bennaeth, gweithiodd Nick mewn ysgolion yn Hampshire, gan gynnwys Ysgol Iau Prubrook, lle’r oedd yn ddirprwy bennaeth.
Yn ogystal â rhaglenni AGA o ansawdd uchel, mae diddordebau proffesiynol nodedig Nick yn cynnwys ymrwymiad i gefnogi dysgwyr sy’n byw mewn cymunedau prin eu hadnoddau, a datblygu’r ffyrdd y mae ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaethau a rhwydweithiau.
Tracy Jones
Mae Tracy Jones wedi gweithio fel ymgynghorydd gwella ysgolion i Gwe ers Ebrill 2022. Ynghyd â chefnogi ysgolion yn Wrecsam, hi yw’r arweinydd addysgeg, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru ar amrywiol brosiectau, ac mae’n cynrychioli Gwe ar brosiect Camau, sy’n canolbwyntio ar ddylunio’r cwricwlwm, dilyniant ac asesu, gyda chwricwlwm sy’n canolbwyntio ar ddibenion ac sydd â gogwydd at broses.
Mae gan Tracy ddiddordeb brwd mewn ymchwil addysgol a sut mae’n troi’n ymarfer yn yr ystafell ddosbarth. Pan oedd hi’n bennaeth, enillodd ei hysgol wobr ryngwladol am godi safonau trwy arferion wedi’u llywio gan ymchwil.
Dechreuodd Tracy ei gyrfa fel athrawes yn Lerpwl ar ôl graddio o Brifysgol Hope ym 1998. Yn fwy diweddar, roedd hi’n bennaeth ysgol gynradd yn Sir y Fflint am 12 mlynedd. Mae hi wedi bod yn Arolygydd Cymheiriaid i Estyn a bu’n rhan o’r grŵp ffocws penaethiaid a weithiodd gydag Estyn ar ddatblygu’r fframwaith arolygu newydd.
Mae Tracy wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dwy flynedd gyda Phrifysgol Bangor.
Mae Tracy hefyd yn aelod o’r pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer.