CGA / EWC

Accreditation banner
Partneriaeth Torfaen Hwb
Partneriaeth Torfaen Hwb

Quality Mark Logo All 3 Levels

Sefydliad: Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen

Darpariaeth: Partneriaeth Torfaen Hwb Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen

Person Cyswllt: David Williams

 

 

 

 

Nod: Cydweithredu gyda’r gorau yn y sector statudol a’r trydydd sector i ddarparu cyfleoedd gwaith ieuenctid i bobl ifanc mewn ardal ynysig sy’n wynebu amddifadedd economaidd yn Nhorfaen.

Ein rhanddeiliaid: Mae'r bobl ifanc yn ganolog i’r gwaith o gynllunio a datblygu’r prosiect ac mae gan bob agwedd ar y prosiect grwpiau o bobl ifanc yn gwirfoddoli ac yn llywio a chynllunio’r ddarpariaeth. Mae hyn yn cynnwys:

Clwb ieuenctid mynediad agored – mae’r bobl ifanc yn cynllunio’r rhaglen gyflenwi, yn cynllunio meini prawf y sesiynau ac yn gosod paramedrau fel noson iau a noson hŷn. Mae'r bobl ifanc yn cynllunio rhaglenni haf a gwyliau. Mae'r bobl ifanc yn cyfrannu at anghenion y gymuned.

Maen nhw hefyd yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu prosiectau a darpariaeth, fel:

Prosiectau

  • Mae aelodau hŷn a phobl ifanc sy’n brentisiaid yn helpu i siapio cynigion a rhaglenni gwaith sydd wedi arwain at ddarparwyr hyfforddiant yn cynnig rhaglenni pwrpasol i bobl ifanc.
  • Grwpiau ieuenctid penodol i bobl ifanc sy’n profi gofal.
  • Rhaglen llysgenhadon ieuenctid i annog gwirfoddolwyr i ddathlu’r safle treftadaeth y byd lle maen nhw’n byw.
  • Mae'r bobl ifanc wedi cynllunio a chyflwyno cais am gyllid ar gyfer prosiect iechyd meddwl ffotograffiaeth greadigol.
  • Mae'r bobl ifanc wedi arwain a chynllunio rhaglen (mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan) i gynorthwyo’r bobl ifanc â diabetes i bontio o’r gwasanaeth plant i’r gwasanaeth oedolion.
  • Mae'r bobl ifanc wedi dechrau ac arwain (mewn partneriaeth â Greggs) raglen rhannu bwyd sy’n cynorthwyo teuluoedd sy’n wynebu caledi ariannol.

Mae gan Dorfaen un o’r poblogaethau mwyaf o bobl ifanc sydd wedi profi gofal yng Nghymru. Mewn ymateb i hyn sefydlwyd grŵp plant sy’n derbyn gofal (Care Busters) mewn ymgynghoriad â phobl ifanc, ac mae’n darparu amrywiaeth o gymorth a gweithgareddau.

Cyfranogol a Grymusol – aeth nifer o bobl ifanc a ddechreuodd trwy fynychu’r ddarpariaeth ieuenctid ymlaen i fod yn aelodau hŷn, wedyn yn brentisiaid a nawr maen nhw’n cael eu cyflogi llawn amser gan y gwasanaeth ieuenctid a’r Hwb. Maen nhw i gyd yn gweithio tuag at gael gradd mewn gwaith ieuenctid. Mae llawer o'r bobl ifanc hyn bellach yn arwain y ddarpariaeth yn yr ardal a thrwy’r prosiect. Mae'r grŵp Llysgenhadon Ieuenctid yn dylanwadu ar sector cenedlaethol treftadaeth y byd fel enghraifft flaenllaw o sut i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn safleoedd treftadaeth y byd.

Mynegiannol a Chynhwysol – mae’r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael yn darparu ar gyfer amrywiaeth fawr o anghenion cymunedol; cymorth â chyflogaeth ôl-16, prosiect rhieni ifanc, darpariaeth mynediad agored, chwaraeon iechyd meddwl a rhaglenni llesiant a chymorth i bobl ifanc ag anableddau ac ati. Mae'r cwbl yn bosibl oherwydd yr hyblygrwydd wrth ymateb i anghenion o ganlyniad i’r bartneriaeth rhwng y sector statudol a’r trydydd sector.

Addysgiadol – mae’r bartneriaeth yn cynnig amrywiaeth o brofiadau addysgiadol trwy brosiect cyfnewidiadau â safleoedd treftadaeth byd eraill, meithrin sgiliau cymdeithasol ac annibyniaeth trwy waith ôl-16, clwb ieuenctid, cyfleoedd gwirfoddoli. Mae'r ddarpariaeth hefyd yn cynnal gwaith mewn ysgolion i bobl ifanc feithrin amrywiaeth o sgiliau emosiynol a chymdeithasol mewn lleoliadau gwaith ieuenctid gyda gweithwyr ieuenctid cymwysedig.

Daeth y prosiect i fod oherwydd angen a nodwyd gan bobl ifanc o ganlyniad i fyw mewn cymuned ynysig. O’r herwydd partnerodd Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen gyda Hwb Torfaen i wneud y mwyaf o’r adnoddau ffisegol oedd gan y gwasanaeth ieuenctid (adeiladau, cerbydau ac ati) a gallu hyblyg yr Hwb i fanteisio ar adnoddau eraill (cynigion, prosiectau cenedlaethol ac ati). O ganlyniad cafodd gweithgareddau ieuenctid eu cyfuno mewn rhai achosion ac mewn achosion eraill eu cydgysylltu ac yn hytrach na bod angen i’r bobl ifanc oresgyn rhwystrau cysylltiedig ag ynysigrwydd, daethpwyd â’r ddarpariaeth a’r adnoddau atyn nhw.

Trwy werthuso a chyfranogiad parhaus, sy’n ganolog i’r holl weithgarwch, mae’r bobl ifanc wedi adnabod a chynllunio yn barhaus raglenni sydd wedi achosi i werth £500,000 o adnoddau fynd i mewn i weithgareddau ac adnoddau gwaith ieuenctid yn y pum mlynedd ddiwethaf.

Trwy gyfnod y pandemig COVID mae’r bobl ifanc sy’n cael trafferth gydag ynysigrwydd a diffyg cyfleusterau clwb ieuenctid wedi cydgynllunio rhaglen i feithrin eu sgiliau ffotograffiaeth trwy fynd allan i’r awyr agored a darlunio’r natur a’r harddwch o’u cwmpas. Trwy hyn gallai gweithwyr ieuenctid gynorthwyo â’u problemau iechyd emosiynol ac iechyd meddwl.

Yn ddiweddar nododd y bobl ifanc bod yr angen am fan diogel, derbyngar ac ag adnoddau da yn flaenoriaeth iddynt. O’r herwydd mae gwerth £200,000 o gyllid wedi cael ei sicrhau i adnewyddu’r ganolfan ieuenctid. Dim ond oherwydd natur unigryw’r bartneriaeth yr oedd hyn yn bosibl.

Mae'r bobl ifanc wedi elwa ar y bartneriaeth hon mewn nifer o ffyrdd.

Yn bersonol – mae pobl ifanc 11-25 oed wedi cael mwy o fynediad at weithwyr ieuenctid proffesiynol i’w cynorthwyo gydag amrywiaeth o faterion personol. Mae'r bobl ifanc wedi cael man diogel mynediad agored i wneud ffrindiau, cwrdd â phobl ifanc newydd a meithrin eu golwg ar y byd a safbwynt moesol/moesegol ar amrywiaeth o ffactorau. Mae'r bobl ifanc wedi gallu cael cymorth penodol mewn cysylltiad â’u hamgylchiadau personol fel cymorth gyda hyfforddiant a chyflogaeth, gwirfoddoli a datblygiad gyrfa, a chymorth i oresgyn rhwystrau ariannol.

Yn gymdeithasol – mae’r bobl ifanc wedi cyfrannu at fentrau ar draws y gymuned i hybu gwaith pontio’r cenedlaethau, mynd i’r afael â stereoteipiau negyddol o bobl ifanc a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n hybu eu hamgylchedd. Mae'r bobl ifanc wedi cael profiadau preswyl, wedi rhoi cynnig ar weithgareddau grŵp newydd ac wedi meithrin eu sgiliau cymdeithasol.

Yn addysgol – mae’r bobl ifanc sy’n manteisio ar y ddarpariaeth yn gallu meithrin amrywiaeth o sgiliau, o sgiliau byw sylfaenol mewn lleoliad clwb ieuenctid fel coginio pryd o fwyd i leoliad lefel gradd a chymorth goruchwyliaeth a DPP parhaus fel aelodau cyflogedig o’r staff.

Y gymuned – mae’r bobl ifanc wedi hyrwyddo statws safle treftadaeth y byd y gymuned trwy ddod yn llysgenhadon ieuenctid hyfforddedig. Mae'r bobl ifanc yn cyfrannu ar gynghorau cymuned a gweithgorau cymunedol, yn eistedd arnyn nhw ac yn rhoi cyflwyniadau iddyn nhw. Mae'r bobl ifanc yn cynllunio ac yn arwain gweithgareddau bob blwyddyn mewn digwyddiadau fel Diwrnod Treftadaeth y Byd ac wedi meithrin cysylltiadau gyda chartrefi gofal lleol er mwyn hybu gwaith pontio’r cenedlaethau.

Staff - mae cyfleoedd cyflogaeth i’r staff wedi cael eu cynnig trwy’r prosiect. Mae'r staff wedi gallu gweithio ar brosiectau partneriaethol amlasiantaethol trwy’r ddarpariaeth. Mae'r staff wedi gallu meithrin sgiliau llunio cynigion, sgiliau arweinyddiaeth a sgiliau rheoli prosiect trwy’r prosiect.

Gwirfoddolwyr – mewn modd tebyg i’r staff a chan gynnwys cyfleoedd i ddatblygu eu gwybodaeth o waith ieuenctid, amrywiaeth a gwahaniaeth yn y sector a’r cryfderau mae pob un yn dod â nhw. Y cyfle i gymryd rhan yn y ddarpariaeth leol trwy Hwb a hefyd darpariaeth ledled Torfaen trwy’r gwasanaeth ieuenctid a’i bartneriaid.

Ceisir cael gwybod beth yw anghenion, rhwystrau a disgwyliadau unigol pobl ifanc trwy waith parhaus i feithrin perthnasoedd, ymgynghori a meithrin cysylltiadau cymunedol. Trwy hynny gellir canfod anghenion a rhwystrau a chynnig rhaglenni cymorth i gynorthwyo â chymryd rhan mewn gweithgareddau ieuenctid. Lle bo’n berthnasol mae cymorth pwrpasol wedi cael ei ddatblygu i bobl ifanc, mae cymorth pontio a darpariaeth gynhwysol wedi cael eu datblygu, yn ogystal â chymorth i fanteisio ar wasanaethau mynediad agored.

Aethpwyd i’r afael â rhwystrau ariannol trwy sicrhau cyllid a defnyddio adnoddau a rennir yn dda. Caiff y defnydd o’r Gymraeg ei hybu wrth i weithwyr ieuenctid sy’n siarad Cymraeg gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau.

Mae rhwystrau cymdeithasol ac economaidd wedi cael eu lleihau trwy ddarparu trafnidiaeth a gweithio mewn partneriaeth â darparwyr hyfforddiant i ddod â’r gwasanaeth at y bobl ifanc yn yr ardal ac mae cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau newydd wedi cynyddu.

Erbyn hyn mae’r bartneriaeth yn agwedd ar y Gwasanaeth Ieuenctid a’r Hwb sy’n cael ei hariannu’n ganolog a thrwy grant. Mae rhaglenni hyfforddiant, dyletswyddau iechyd a diogelwch a rheoli llinell a goruchwyliaeth staff i gyd yn cael eu rhannu ar draws y ddarpariaeth. Gwnaeth yr Hwb gais llwyddiannus i reoli canolfan gymunedol fwy yn rhan ddeheuol Torfaen ac o’r herwydd mae cronfa ehangach o adnoddau ac arbenigedd i sicrhau parhad gwasanaethau i’r bobl ifanc yn yr ardal.

Tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol FB/Insta/Twitter

@torfaenyouth https://twitter.com/torfaenyouth
@HwbTorfaen https://twitter.com/hwbtorfaen