CGA / EWC

Professional development banner
Meddwl Mawr
Meddwl Mawr

Gall ymddiddori mewn ymchwil chwarae rhan bwysig wrth eich helpu i ddatblygu eich syniadau a’ch ymarfer eich hun fel gweithiwr addysg proffesiynol. Dyna pam rydym ni wedi dechrau ‘Meddwl Mawr’, sef clwb llyfrau a chyfnodolion sydd â’r nod o’ch cefnogi chi ar eich taith ddysgu broffesiynol.

Byddwn yn cyhoeddi argymhellion rheolaidd ar y dudalen hon, yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau diddorol, gan eich cyfeirio at rywfaint o’r cynnwys gwych sydd ar gael yn eich llyfrgell ar-lein rhad ac am ddim.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn tanysgrifio i’r rhestr bostio i gael yr argymhellion pan fyddant yn cael eu cyhoeddi.

Rydym yn awyddus i glywed am unrhyw lyfrau neu erthyglau mewn cyfnodolion ar EBSCO a oedd yn ddiddorol, yn cynnig mwynhad neu’n ddefnyddiol yn eich barn chi. Os hoffech rannu argymhelliad This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Eich argymhellion

Gorffennaf 2025

Educating Outside: Curriculum-linked outdoor learning ideas for primary teachers gan Helen Porter

Book cover, Educating Outside

Nod y llyfr hwn yw helpu athrawon i gofleidio cysyniad dysgu yn yr awyr agored, gan ddadlau bod y math hwn o ddysgu yn fwy perthnasol a chofiadwy, gyda’r potensial i arwain at brofiadau dysgu dwysach. Er bod dysgu yn yr awyr agored yn cael ei gydnabod yn helaeth am ei fuddion, mae’r defnydd ohono’n aml yn dirywio wrth i addysg dysgwyr a phobl ifanc symud fynd yn ei blaen. Un rheswm dros hyn yw bod rolau ymarferwyr addysgol yn aml yn ehangu, gyda llwythi gwaith yn tyfu a phwysau atebolrwydd yn cynyddu. Mae’r gofyn am weithredu amrywiaeth gynyddol o fentrau newydd, tra’n gwreiddio’r Cwricwlwm i Gymru ar yr un pryd, yn aml yn gadael bach iawn o amser ar gyfer meddwl a chynllunio strategol. Nod Educating Outside yw cynnig ateb ymarferol i hyn trwy amlygu amrywiaeth o syniadau dysgu awyr agored, y syniadau wrth eu gwraidd a’r deilliannau a ddymunir i wella a chyfoethogi profiad nodweddiadol yr ystafell ddosbarth ar draws y cwricwlwm cyfan.

Mae’r llyfr yn cynnig cynlluniau gwersi strwythuredig, clir yn gysylltiedig â nodau penodol y cwricwlwm, gan ganiatáu am eu gweithredu’n hawdd. Mae pob un ohonynt yn cynnwys rhestr o adnoddau gofynnol, gan gynnwys y logisteg y mae angen ei hystyried, y deilliannau dysgu a ddymunir, gan gynnwys datblygiad sgiliau meddalach, ynghyd â ffotograffau i lywio’r broses. Cynlluniwyd yr holl weithgareddau i’w cyflawni ar dir yr ysgol, gan ddileu’r angen am asesiadau risg helaeth, defnyddio amser yn ddiangen a chostau ychwanegol. Trwy integreiddio’r amgylchedd naturiol i amrywiol feysydd dysgu a mabwysiadu dull sy’n cael ei arwain gan y dysgwr, mae’r awdur yn dadlau bod hyn yn annog chwilfrydedd, annibyniaeth ac ymgysylltiad ymhellach. Nod yr arddull ddysgu hon yw cynorthwyo dysgwyr i ddyfnhau eu dealltwriaeth o bynciau craidd y tu hwnt i gyfyngiadau’r ystafell ddosbarth trwy arferion holistig sy’n meithrin hunanymwybyddiaeth, cynaliadwyedd a dealltwriaeth o’r amgylchedd maen nhw’n byw ynddo.

I athrawon sy’n awyddus i drwytho’u technegau ystafell ddosbarth â mwy o gyfleoedd dysgu awyr agored, mae’r llyfr hwn yn adnodd gwych sydd nid yn unig yn darparu syniadau gwersi blaengar, ond hefyd yn cefnogi gweledigaeth Cwricwlwm i Gymru ar gyfer dysgu yn yr awyr agored fel dull addysgegol allweddol.

Argraffiadau blaenorol

Beth oedd eich barn chi am argymhellion y mis hwn? Sut gwnaethant helpu i ddatblygu’ch ymarfer? Trydarwch eich ymateb gan ddefnyddio #MeddwlMawr

Beth am ddefnyddio’r offerynnau sydd o fewn y PDP i fyfyrio ar y syniadau a amlygwyd gan argymhellion y mis hwn, a sut gallwch eu cymhwyso i’ch ymarfer eich hun?

A yw ein hargymhellion wedi’ch ysbrydoli ac rydych felly am rannu’r hyn a ddysgoch gyda’ch cydweithwyr?  Beth am ddarllen ein canllaw ar sefydlu clwb cyfnodolion.