CGA / EWC

Accreditation banner
Llysgenhadon Newid Hinsawdd Ieuenctid
Llysgenhadon Newid Hinsawdd Ieuenctid

Quality Mark Logo All 3 LevelsSefydliad: Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Maint Cymru

Teitl y prosiect: Llysgenhadon Newid Hinsawdd Ieuenctid

Arweinydd: Amber Demetrius


Mae Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru yn grŵp o bobl ifanc o bob rhan o Gymru sy’n Ymgyrchwyr Hinsawdd angerddol yn ymladd dros Gyfiawnder Hinsawdd.

Cefndir

Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Maint Cymru wedi bod yn cynnal Mock COP (modiwl cynadleddau hinsawdd y Cenhedloedd Unedig) ar y cyd ers nifer o flynyddoedd. Mae’r rhain yn ffordd wych i bobl ifanc feithrin dealltwriaeth o newid hinsawdd, datblygu eu safbwyntiau eu hunain, dangos empathi at farn pobl eraill a chyd-drafod atebion.

Ond roeddem eisiau cynnig mwy i’r bobl ifanc a gymerodd ran. Gydag arian o Sefydliad Pŵer yr Alban, bu modd inni gynnig y cyfle i bob person ifanc a gymerodd ran mewn Mock COP wneud cais i fod yn un o Lysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid cyntaf Cymru. Ar ôl ei ffurfio, rhan greiddiol o’r rhaglen oedd bod Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Maint Cymru yn chwarae rôl galluogi, ond yn rhoi i’r llysgenhadon ryddid i bennu eu hagenda eu hunain, recriwtio aelodau newydd a rhedeg y grŵp. Mae’r grŵp yn rhedeg ers 2 flynedd bellach, ac mae’r llysgenhadon yn ymgysylltu’n wleidyddol, yn helpu i redeg Mock COP newydd ac yn cefnogi gweithredu dros yr hinsawdd yn eu cymunedau eu hunain.

Mae’r grŵp wedi cyfarfod â Llysgennad UDA ac wedi rhoi cyflwyniad i’r Cenhedloedd Unedig fel rhan o’u gwaith. Eleni, mae’r llysgenhadon wedi bod yn weithgar iawn yn ymgyrch Hinsawdd Cymru a byddant yn mynd i COP26 i gynrychioli pobl ifanc yng Nghymru.

Wrth sefydlu’r prosiect yn wreiddiol, cawsom ein hysgogi gan bobl ifanc ac athrawon yn dweud wrthym bod pobl ifanc yn malio am newid hinsawdd ac eisiau gwybod mwy. Ers inni bennu’r llysgenhadon cyntaf, maen nhw wedi cymryd yr awenau’n llwyr. Rydym wedi eu cysylltu nhw ag arbenigwyr, gwleidyddion a rhwydweithiau ac wedi darparu’r seilwaith iddynt gyfarfod, cynnal digwyddiadau a chynnal cyfathrebiadau cyhoeddus. Gan fod llawer ohonynt dan 18 oed, rydym hefyd wedi darparu mesurau diogelu priodol.

Mae cyfranogi, cynhwysiant a grymuso yn greiddiol i’n holl waith, ac nid oedd y prosiect hwn yn eithriad. Rydym yn defnyddio platfformau gwahanol i sicrhau y gall yr holl bobl ifanc sy’n cymryd rhan rannu eu barn a defnyddio’u sgiliau. Y Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid sydd wrth y llyw a’n rôl ni yw dileu rhwystrau a’u cysylltu nhw â chyfleoedd.

Yr her fwyaf oedd bodloni’r gofynion diogelu ac ar yr un pryd caniatáu i’r bobl ifanc arwain cyfarfodydd, y cyfryngau cymdeithasol a mentrau eraill. Fodd bynnag, hyderwn ein bod wedi datrys yr her hon.

Mae’r rhain yn amrywio’n enfawr o unigolyn i unigolyn, ond y manteision yn fras yw:

Gwybodaeth – am newid hinsawdd a materion cysylltiedig cyfiawnder cymdeithasol

Sgiliau – siarad cyhoeddus, cyd-drafod, datrys problemau, arweinyddiaeth, defnyddio mentergarwch a chynhwysiant yw rhai o’r sgiliau mae pobl ifanc wedi eu meithrin trwy’r rhaglen

Hunanhyder – meithrin eu barn a’i rhannu

Empathi – deall safbwyntiau eraill a’u hystyried wrth gynnig atebion

Rhwydweithiau – perthnasoedd â gwneuthurwyr polisi, cymunedau, ymgyrchwyr hinsawdd eraill, cyrff anllywodraethol a busnesau

I’n staff, ond hefyd i’r partneriaid rydym wedi’u cysylltu â’r llysgenhadon, mae safbwyntiau’r bobl ifanc hyn wedi bod yn werthfawr tu hwnt, yn ogystal â’r symbyliad a roesant i ymgyrchu dros yr hinsawdd yng Nghymru. Mae’n argyfwng hinsawdd arnom sy’n effeithio ar bawb ac mae’r bobl ifanc hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bolisïau ac ymarfer yng Nghymru, gan ysbrydoli gweithredu ymhellach i ffwrdd.

Eir i’r afael â hyn yn nhermau cynnwys pobl o bob rhan o Gymru ac o gefndiroedd gwahanol fel llysgenhadon hinsawdd, ond hefyd trwy gydnabyddiaeth y llysgennad o’r cysylltiadau rhwng newid hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol..

Mae’r prosiect yn dal i ffynnu ac yn gobeithio parhau i’r dyfodol, gyda’r llysgenhadon yn dal i recriwtio mwy o aelodau a defnyddio’u lleisiau i ysgogi newid.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

wcia transparent    sizeLogo