CGA / EWC

Accreditation banner
Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon
Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon

Mae gennym gyfrifoldeb statudol i:

  • achredu rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA)
  • monitro cydymffurfiaeth rhaglenni achrededig yn erbyn meini prawf Llywodraeth Cymru
  • tynnu rhaglenni achrediad yn ôl

Mae holl raglenni AGA a gynigir gan bartneriaethau yng Nghymru yn cael eu hasesu, eu gwerthuso, a'u monitro yn erbyn Meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer achredu rhaglenni AGA yng Nghymru. Ein Bwrdd Achredu AGA sy’n cyflawni'r swyddogaeth hon.

Beth yw achredu?

Mae’r ffordd y caiff AGA ei achredu yn hanfodol i sicrhau bod perfformiad addysgol mewn ysgolion yn gwella’n barhaus. Rydym yn atebol am achredu rhaglenni AGA. Mae hyn yn galluogi ystyriaeth fwy penodol o sut y bydd rhaglenni’n gwella ansawdd y ddarpariaeth, ac yn denu ymgeiswyr â’r sgiliau, y cymwysterau a’r anian cywir i ddechrau gyrfa mewn addysgu.

Dysgwch fwy am gyflwyno rhaglen i'w hachredu.

Diddordeb mewn bod yn athro ysgol?

Mae gan Addysgwyr Cymru wybodaeth ar y cyrsiau hyfforddiant athrawon sydd ar gael yng Nghymru, yn ogystal ag unrhyw gyfleoedd hyfforddiant.