CGA / EWC

Registration banner
Gwneud cais i gofrestru
Gwneud cais i gofrestru

Pwy sydd angen cofrestru?

Mae’n rhaid eich bod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) i weithio fel ymarferwr addysg yng Nghymru. Mae 13 categori cofrestru. Gall fod angen i chi gofrestru mewn mwy nag un categori, yn dibynnu ar y gwaith rydych chi’n ei wneud, neu’n bwriadu ei wneud. Dim ond un ffi fyddwch chi’n ei thalu, hyd yn oed os ydych wedi cofrestru mewn mwy nag un categori. Byddwch chi’n talu ffi uchaf y categorïau rydych chi wedi cofrestru ynddynt.

Categorïau cofrestru

Categorïau y mae disgwyl iddynt dalu ffi cofrestru o £45:

  • athro ysgol (mae’n rhaid bod gennych statws athro cymwysedig)
  • athro ysgol annibynnol
  • athro addysg bellach (cymwysterau gorfodol**)
  • pennaeth neu uwch arweinydd yn gweithio mewn sefydliadau addysg bellach
  • athro sefydliad annibynnol arbennig ôl-16
  • ymarferydd addysg oedolion (cymwysterau gorfodol**)
  • ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith
  • Ggeithiwr ieuenctid (cymwysterau gorfodol*)

Categorïau y mae disgwyl iddynt dalu ffi cofrestru o £15:

  • gweithiwr cymorth dysgu ysgol
  • gweithiwr cymorth ysgol annibynnol
  • gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach
  • gweithiwr cymorth sefydliad annibynnol arbennig ôl-16
  • gweithiwr cymorth ieuenctid (cymwysterau gorfodol*)

*Os ydych yn gweithio tuag at un o'r cymwysterau gorfodol, byddwch wedi eich cofrestru gyda ni dros dro tra'ch bod yn hyfforddi.

**Rydych yn gymwys i gofrestri heb gymhwyster cydnabyddedig, ond mae'n rhaid i chi geisio cael un o fewn y cyfnodau amser gofynnol.

Gwneud cais ar-lein

Pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys yr holl wybodaeth a dogfennau perthnasol fel na fydd oedi wrth brosesu eich cais. Bydd angen i chi dalu ffi ymgeisio wrth wneud cais i gofrestru.

Ar ôl i ni gael eich cais

Byddwn yn asesu’r wybodaeth, yn dibynnu ar eich atebion, gallem gynnal asesiad addasrwydd. Gallem ofyn am ragor o wybodaeth hefyd.

Byddwn yn cadarnhau trwy’r e-bost p’un a allwch gael eich cofrestru. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar eich ffolder negeseuon sbam neu sothach.

Ein nod yw prosesu ceisiadau o fewn pum niwrnod gwaith. Gall hyn gymryd mwy o amser ar adegau penodol o’r flwyddyn pan fyddwn yn cael llawer o geisiadau.

Adnewyddu eich cofrestriad yn flynyddol

Mae’n rhaid adnewyddu eich cofrestriad gyda CGA ar 1 Ebrill bob blwyddyn.

Os oes gennych gontract gyda chyflogwr yng Nghymru, mae dyletswydd gyfreithiol arnynt i dynnu’r ffi adnewyddu flynyddol o’ch cyflog a’i hanfon at CGA.

Os nad oes gennych gontract cyflogaeth, ni fydd eich ffi’n cael ei thynnu o’ch cyflog. Bydd angen i chi ein talu ni’n uniongyrchol. Gallwch wneud hyn ar-lein rhwng dechrau Chwefror a diwedd Mawrth bob blwyddyn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru, This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Rhyddhad treth

Mae eich ffi gofrestru yn gymwys am ryddhad treth ac nid yw’n effeithio ar eich gallu i hawlio rhyddhad treth ar danysgrifiadau presennol â chymdeithas neu undeb athrawon. Mae rhagor o wybodaeth am hawlio rhyddhad treth ar gael ar y dudalen hawlio rhyddhad treth ar dreuliau eich swydd ar gov.uk.