CGA / EWC

Registration banner
Gwybodaeth am gofrestru i gyflogwyr: sefydliadau AB
Gwybodaeth am gofrestru i gyflogwyr: sefydliadau AB

Mae pedwar categori cofrestru sy’n berthnasol i ymarferwyr sy’n gweithio yn y sector addysg bellach (AB) yng Nghymru:

  • penaethiaid ac uwch arweinwyr mewn addysg bellach
  • athro addysg bellach
  • gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach
  • ymarferwr dysgu seiliedig ar waith

Penaethiaid ac uwch arweinwyr AB

Dylai sefydliadau AB sicrhau bod unigolyn sy’n rheoli addysgu neu ddysgu mewn, neu ar gyfer, sefydliad AB, yng Nghymru wedi’i gofrestru.

Diffinnir addysg bellach fel addysg (heblaw addysg uwch) sy’n addas i ofynion pobl sydd dros oed ysgol gorfodol (dros 16 oed).

Diffinnir pennaeth ac uwch arweinydd addysg bellach fel unigolyn sy’n rheoli addysgu a dysgu mewn, neu ar gyfer, sefydliad AB yng Nghymru, nad yw ar gontract darlithydd.

Byddai angen i’r rhai sy’n dod o fewn y diffiniad uchod, ond sydd hefyd yn darlithio, gofrestru yng nghategori’r athro AB, a phennaeth ac uwch arweinydd AB, i ymgymryd â’u gwaith. 

Sylwch, nid oes cymhwyster gofynnol ar gyfer cofrestru fel pennaeth neu uwch arweinydd AB.

Athrawon AB

Mae athrawon AB yn cynnwys:

  • unrhyw unigolyn sy’n cael ei gyflogi gan sefydliad AB ar gontract darlithwyr, boed hynny ar sail amser llawn, rhan-amser, dros dro, tymor sefydlog neu ar gyfradd fesul awr
  • unigolyn sy’n cael ei gyflogi ar raddfa rheolwr, ond sy’n ymgymryd â darlithio neu addysgu wedi’i drefnu mewn, neu ar gyfer, sefydliad AB, ni waeth faint o oriau sydd ynghlwm na pha mor fyr y gall y tymor darlithio neu addysgu fod
  • unigolyn sydd â chontract rhan-amser fel darlithydd AB, a chontract rhan-amser arall fel gweithiwr cymorth dysgu AB
  • staff asiantaeth sy’n ymgymryd â dyletswyddau darlithio/addysgu, heb gontract dros dro neu barhaol gyda sefydliad AB

Mae rheoliadau’n datgan fod rhaid i unrhyw ymarferwyr sydd wedi cofrestru fel athro addysg bellach ddal o leiaf  un o’r cymwysterau sydd wedi’u rhestru yn yr atodlen.

Gall ymarferwyr nad oes ganddynt un o'r cymwysterau a restrir yn yr atodlen gofrestru, ond mae'n rhaid iddynt geisio cal cymhwyster priodol, o fewn y terfynau amser canlynol:

  • tair blynedd o’r dyddiad pan ddechreuont weithio tuag at y cymhwyster, pan fo’r ymarferydd yn cael ei gyflogi ar sail amser llawn
  • pum mlynedd o’r dyddiad pan ddechreuont weithio tuag at y cymhwyster, pan fo’r ymarferydd yn cael ei gyflogi ar sail rhan-amser

Os nad yw’r ymarferydd yn cyflawni’r cymhwyster gofynnol o fewn y cyfnod hwn, ni fydd yn gymwys mwyach i gofrestru gyda CGA fel athro AB.

Gweithwyr cymorth dysgu AB

Gall gweithiwr cymorth dysgu AB fod yn unigolyn a gyflogir gan sefydliad AB (nad yw ar gontract darlithwyr) i ddarparu unrhyw rai o’r gwasanaethau cymorth a amlinellir yn y Ddeddf, lle mae’r unigolyn yn ymwneud yn uniongyrchol â darparu dysgu, boed hyn ar sail amser llawn, rhan-amser, dros dro, tymor sefydlog neu ar gyfradd fesul awr. Gallai hyn gynnwys cynorthwyydd cymorth dysgu, hyfforddwr, arddangoswr, technegydd, anogwr dysgu neu lyfrgellydd a all gynorthwyo myfyrwyr ag unrhyw ddysgu.

Gallai hwn hefyd fod yn unigolyn nad yw ar gontract darlithwyr ac sy’n ymgymryd ag ychydig o ddarlithio yn ogystal â’i rôl bresennol nad yw’n ddarlithiwr er mwyn cyflenwi yn absenoldeb athro AB dan gontract. Byddai hyn yn cynnwys pob gweithiwr (gan gynnwys staff cymorth busnes) a allai dderbyn ychwanegiad neu debyg i ymgymryd â dyletswyddau o’r fath. Fodd bynnag, os bydd unigolyn yn cael ei roi ar gontract darlithwyr yn nes ymlaen, byddai angen iddo/iddi fod wedi cofrestru yng nghategori’r athro AB yn lle hynny. 

Hefyd, maent yn cynnwys staff asiantaeth sy’n darparu gwasanaethau cymorth gweithiwr cymorth dysgu AB heb gontract dros dro neu barhaol gyda sefydliad AB.

Hefyd, unrhyw un sydd eisoes wedi cofrestru mewn categori arall gyda CGA, ond sy’n darparu gwasanaethau cymorth gweithiwr cymorth dysgu AB. Mae angen i’r holl staff fod wedi cofrestru yn y categori neu’r categorïau cofrestru ar gyfer y gwaith a wnânt.