CGA / EWC

Accreditation banner
Dyraniadau derbyn addysg gychwynnol athrawon
Dyraniadau derbyn addysg gychwynnol athrawon

Llywodraeth Cymru sy’n gosod nifer cenedlaethol y derbyniadau a ddymunir wrth recriwtio myfyrwyr i raglenni addysg gychwynnol athrawon (AGA) cynradd ac uwchradd yng Nghymru. Mae hyn yn ystyried y galw amcan am athrawon newydd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru’n disgwyl bod partneriaethau AGA yn gweithio tuag at sicrhau bod 30% o fyfyrwyr a dderbynnir yn paratoi i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, a 5% o fyfyrwyr o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig.

Gan ddefnyddio’r nifer cenedlaethol cyfan o dderbyniadau a ddymunir ar gyfer rhaglenni AGA cynradd ac uwchradd, mae CGA yn darparu’r dyraniadau i bob Partneriaeth AGA.

Yn ogystal â gwahaniaethu rhwng y dyraniadau ar gyfer rhaglenni AGA cynradd ac uwchradd, mae dyraniadau’n cael eu rhannu ymhellach yn niferoedd israddedig a TAR. O fewn dyraniadau uwchradd, mae dyraniadau penodol ar gyfer pob pwnc.

Rydym yn ystyried y canlynol:

  • y tebygolrwydd y bydd y rhaglen yn gallu denu digon o fyfyrwyr o ansawdd uchel i gyflawni’r nifer a ddyrannir iddi
  • cynaliadwyedd y rhaglen
  • polisi a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru
  • nifer cenedlaethol y derbyniadau a ddymunir a dadansoddiad o alw rhanbarthol
  • ystyried data recriwtio ar gyfer partneriaethau
  • maint y garfan i sicrhau bod y rhaglen yn hyfyw ac i ddiogelu profiad y myfyriwr

Dyraniadau ar gyfer 2025-26

Dyraniadau Derbyn Cynradd 2025-26
  Partneriaeth Caerdydd ar gyfer AGAPDPAPartneriaeth Ysgolion Prifysgol AbertaweCaBan BangorPartneriaeth AGA Prifysgol De CymruCyfanswm
Israddedig 88 54 - 49 45 236
Ôl-raddedig 119 124 19 76 19 357
Cyfanswm 207 178 19 125 64 593

 

Blaenoriaeth - Dyraniadau Derbyn Uwchradd 2025-26 
  Partneriaeth Caerdydd ar gyfer AGA PDPAPartneriaeth Ysgolion Prifysgol AbertaweCaBan Bangor Cyfanswm
Mathemateg  44  38 21 33  136
Bioleg 19  18 21 15  73 
Cemeg 18 18 20 17 73 
Ffiseg 23  14 18 17  72
Ieithoedd tramor  19  15 21 15  70
Cymraeg 23 23 20 21 87
Technoleg gwybodaeth / cyfrifiadura 15 14 18 11 58
Dylunio a thechnoleg 18 12 11 12 53
Cyfanswm blaenoriaeth 179 152 150 141 622

 

Arall - Dyraniadau Derbyn Uwchradd 2025-26  
  Partneriaeth Caerdydd ar gyfer AGA PDPAPartneriaeth Ysgolion Prifysgol AbertaweCaBan Bangor Cyfanswm
Celf 11 11 - 10 32
Astudiaethau busnes - 11 - - 11
Drama 11 11 - - 22
Saesneg 37 27 16 25 105
Daearyddiaeth 16 10 10 11  47 
Hanes 20 18 10 11  59 
Cerddoriaeth 11 11 - 11  33 
Addysg gorfforol 40 - 19  59 
Addysg grefyddol 14 11 11  36 
Addysg awyr agored - - 11  11 
Cyfanswm arall 160 110 36  109  415
Cyfanswm 339 262 186 250 1,037