CGA / EWC

Accreditation banner
Clwb Hwyl
Clwb Hwyl

Quality Mark Logo All 3 LevelsSefydliad: Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gâr

Darpariaeth: Clwb Hwyl

Person cyswllt: Sarann West

 

 

 

Sefydlwyd y ddarpariaeth er mwyn cynnig cymorth i bobl ifanc ag ADY ac anableddau sy’n ei chael yn anodd achub ar gyfleoedd cymdeithasol ar ôl oriau ysgol heb oruchwyliaeth gan rieni, i ddarparu amgylchedd diogel lle gall pobl ifanc ddatblygu sgiliau bywyd ac achub ar gyfleoedd na fyddent efallai yn gallu achub arnyn nhw fel arall.

Caiff pobl ifanc eu hadnabod yn gyntaf trwy sgyrsiau ag athrawon a rhieni. Nid yw’r bobl ifanc yn agored i wasanaethau statudol. Roedd datblygiad y ddarpariaeth yn cynnwys pobl ifanc yn cymryd rhan mewn ymgynghoriad i ddatblygu cynnwys rhaglenni a chynllunio gweithgareddau a’r hyn oedd yn gweithio iddyn nhw wrth ddilyn arferion gwerthuso ar ddiwedd cylch o ddarpariaeth.

Ymgynghori â phobl ifanc, grymuso pobl ifanc i ddatblygu cysylltiadau yn eu cymunedau lleol, galluogi pobl ifanc i fagu hunanhyder a hunan-dyb. Hwyluso cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu sgiliau bywyd ac annibyniaeth. Rhoi cyfle cyfartal i bobl ifanc â nodweddion gwarchodedig sydd o dan anfantais oherwydd eu hamgylchiadau.

Defnyddio egwyddorion ac arferion gwaith ieuenctid mewn lleoliad ysgol ffurfiol. Caniateir i bobl ifanc fynegi safbwyntiau a barn, cymryd rhan yn y gwaith o greu gweithgareddau sy’n diwallu eu hanghenion, mae’r ddarpariaeth yn rymusol ac yn addysgiadol gan ei fod yn gwella lles personol y rhai sy’n cymryd rhan.

Mae’r prosiect yn dod â llawer o fuddion i bobl ifanc:

  • Mae pobl ifanc yn cael cymorth gan gyfoedion a ddarperir gan brosiect Clwb Hwyl.
  • Mae’r prosiect wedi ehangu i gynnwys pobl ifanc sy’n cael cymorth gan wasanaethau statudol. Nododd y prosiect cychwynnol fod yr angen am y math hwn o ddarpariaeth yn ehangach na’r cwmpas /diben gwreiddiol.
  • Mae’r prosiect yn hyblyg ac wedi’i deilwra i anghenion pobl ifanc e.e. grwpiau un rhyw/grwpiau cymysg/niferoedd grŵp/anghenion ymddygiadol/anghenion meddygol ac ati.
  • Magodd pobl ifanc hyder trwy ddysgu i gymdeithasu â’u cyfoedion mewn amgylcheddau y tu allan i’r ysgol gyda chymorth gweithwyr ieuenctid.
  • Mae pobl ifanc wedi gallu magu hyder gan eu galluogi i gyfarfod a rhyngweithio â phobl newydd yn eu cymunedau lleol ac ymhellach i ffwrdd.
  • Mae’r prosiect wedi darparu cyfleoedd a phrofiadau newydd i bobl ifanc allu achub arnynt gyda’u cyfoedion a ffrindiau.
  • Mae’r prosiect wedi helpu i chwalu rhwystrau a wynebwyd ynghynt wrth gael mynediad i ddarpariaeth ieuenctid brif-ffrwd.
  • Mae’r dysgu drwy brofiad wedi trosglwyddo i agweddau eraill o’u bywydau gan gynnwys addysg bersonol a chymdeithasol.

Mae’r prosiect yn chwalu rhwystrau i aelodau o’r staff a chamdybiaethau yn nhermau cynorthwyo a galluogi grŵp o bobl ifanc ag ADY ac anableddau. Mae’r prosiect wedi codi proffil yr angen am ymyrraeth gwaith ieuenctid i’r holl bobl ifanc a’r buddion a ddaw yn sgil hyn. Mae wedi codi proffil gwaith y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid.

Mae wedi darparu cyfle cyfartal a mynediad i’r ddarpariaeth i bobl ifanc ag ADY ac anableddau na fyddai ar gael iddyn nhw fel arfer. Mae wedi darparu lle / man diogel i’r bobl ifanc hyn ryngweithio â’u cyfoedion ac oedolion yr ymddiriedir ynddyn nhw / maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw. Bu’n rhaid addasu’r dull gwaith ieuenctid er mwyn galluogi pobl ifanc ag anawsterau iaith/lleferydd i gael eu deall a chael budd o’r ymyrraeth, agwedd gadarnhaol arall ar y rhyngweithio â gweithwyr ieuenctid.

Mae’r prosiect wedi parhau ac wedi h addasu yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud i sicrhau y gallai pobl ifanc barhau i gael cymorth hanfodol gan weithwyr ieuenctid a’u cyfoedion, rhywbeth mae pobl ifanc a rhieni yn ei groesawu.

Mae’r ddarpariaeth yn dal i gael ei chynorthwyo / chefnogi gan y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid a’r ysgol ond mae cyllid parhaus yn dal i fod yn broblem.

I gael mwy o wybodaeth ewch i:

https://www.facebook.com/CarmsYSS/ or

https://www.instagram.com/carmsyss/?hl=en-gb

https://twitter.com/carmsyss?lang=en