Os bydd pwyllgor priodoldeb i ymarfer yn gosod gorchymyn disgyblu ar gofrestriad ymarferwr addysg, bydd hysbysiad yn ymddangos yma. Bydd yr hysbysiad yn parhau am gyfnod o 6 mis o’i ddiwrnod cyhoeddi.
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg, fel y’i cyfansoddir o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, fel y’i diwygiwyd, trwy hyn yn hysbysu fod gorchymyn disgyblu wedi’i osod ar gofrestriad y canlynol, yn unol â Rheol 31 ei Weithdrefnau a Rheolau Disgyblu Gorffennaf 2024 .
Ar gyfer ymholiadau'r wasg,
Rhys Hitchmough – 21 Ionawr 2025
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 19-21 Rhagfyr 2024, a 21 Ionawr 2025, wedi canfod bod honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi eu profi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Rhys Hitchmough.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra wedi ei gyflogi fel cynorthwy-ydd addysgu yn Ygsol Bodhyfryd, bod Mr Hitchmough ar neu o gwmpas 12 Mai 2022 wedi cusanu disgybl A, disgybl gwrywaidd, ar neu o gwmpas ei ên.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mr Hitchmough fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o 2 flynedd (rhwng 21 Ionawr 2025 a 21 Ionawr 2027). O'r herwydd bydd Mr Hitchmough yn gallu gweithio fel person cofrestredig (gweithiwr cymorth dysgu ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mr Hitchmough yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Rhian Williams – 15 Ionawr 2025
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ionawr 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 14 ac 15 Ionawr 2025, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athrawes ysgol, Mrs Rhian Williams.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei bod wedi ei chyflogi fel athrawes cemeg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, bod Mrs Williams ar 9 Mai 2023, wedi mynychu'r ysgol, yfed alcohol, a chychwyn dysgu dosbarth tra ei bod o dan ddylanwad alcohol.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mrs Williams oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori athro ysgol. Penderfynodd hefyd na fyddai Mrs Williams yn cael gwneud cais i'w hadfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o 2 flynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mrs Williams wneud cais llwyddiannus i'w hadfer i'r Gofrestr ar ôl 15 Ionawr 2027, bydd wedi ei gwahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mrs Williams yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Victoria Price - 9 Ionawr 2025
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ionawr 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 7-9 Ionawr 2025, wedi canfod bod honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi eu profi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Victoria Price.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei bod yn gweithio fel cynorthwyydd addysgu lefel uwch yn Ysgol Gynradd Gymraeg Gilfach Fargoed, bod Mrs Price:
- rhwng 11 ac 12 Ionawr 2021:
- wedi poeri at Berson A
- wedi mynd ati i gnoi Person A
- wedi tynnu gwallt Person A
- wedi cicio a/neu stampio ar Berson A
- wedi cicio a/neu grafu car Person A
- heb ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru o ran COVID-19, gam iddi beidio â dilyn canllawiau pellhau cymdeithasol a/neu wedi teithio tu allan i'w hardal leol heb reswm digonol
O ganlyniad i'r ymddygiad ym mhwyntiau b a d uchod, achosodd Mrs Price anafiadau i Berson A.
- wedi cytuno i Ddatrysiad Cymunedol yr Heddlu o ran ei hymddygiad ar 11 Ionawr 2021, sy'n drosedd a gofnodwyd fel 'Ymosod/Difrod Troseddol'
- o ganlyniad ni wnaeth roi gwybod i'r pennaeth am y canlynol:
- y digwyddiad ar 11 Ionawr 2021, hyd nes i'r Pennaeth sôn amdano
- ei bod wedi cael anafiadau i'w wyneb, mewn amgylchiadau lle'r oedd hi ar fin logio mewn i wneud gwers rithiol
- ei bod hi wedi achosi niwed corfforol i Berson A, a/neu achosi niwed i Berson Aei bod yn destun ymchwiliad yr Heddlu
Canfu'r pwyllgor bod y ffeithiau yn honiadau 3a-d yn dangos diffyg hygrededd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mrs Price oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu ysgol. Penderfynodd hefyd na fyddai Mrs Price yn cael gwneud cais i'w hadfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o ddwy flynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mrs Price wneud cais llwyddiannus i'w hadfer i'r Gofrestr ar ôl 9 Ionawr 2027, bydd wedi ei gwahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mrs Price yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Nicholas Maguire – 10 Rhagfyr 2024
Dyddiad cyhoeddi: 20 Rhagfyr 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 9 a 10 Rhagfyr 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, Nicholas Maguire.
Canfu'r pwyllgor bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel Ymarferydd Dysgu'n Seiliedig ar Waith gyda Inspire Training, fe wnaeth Mr Maguire ar neu o gwmpas Awst 2022,wedi ymddwyn mewn modd amhriodol a/neu amhroffesiynol tuag at gydweithwyr, gan ei fod wedi dweud/eu galw yn:
- “f****t”, neu eiriau gyda'r un effaith
- “psycho b***h”, neu eiriau gyda'r un effaith
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mr Maguire fel ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, gweithir cymorth dysgu addysg bellach, a gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 10 Rhagfyr 2024 a 10 Rhagfyr 2026).
O'r herwydd bydd Mr Maguire yn gallu gweithio fel:
- ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, sy'n darparu gwasanaethau ar ran corff dysgu'n seiliedig ar waith heblaw fel gwirfoddolwr
- gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, mewn sefydliadau AB yng Nghymru
- gweithiwr cymorth dysgu ysgol mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru.
Mae gan Mr Maguire yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Anthony Morris - 19 Rhagfyr 2024
Dyddiad cyhoeddi: 20 Rhagfyr 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 17-19 Rhagfyr 2024, wedi canfod bod honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol a throsedd berthnasol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, Anthony Morris.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi eu profi yn erbyn Mr Morris:
- ar neu o gwmpas Tachwedd 2022, wedi cael cyswllt corfforol amhriodol gyda Chydweithiwr A gan iddo dapio eu pen ôl
- rhwng Awst 2022 a Mai 2023, dangos diffyg gallu i gadw amser, ar fwy nag un achlysur fe wnaeth:
- gyrraedd y Coleg yn hwyrach na'r amser ar ei gontract
- adael y coleg yn gynt na'r amser ar ei gontract
- rhwng Awst 2022 a Mai 2023, dangos diffyg gallu cynnal a chadw'r gweithdy, ar fwy nag un achlysur fe wnaeth adael peiriannau'n anniben
- ar 3 Mehefin 2022, cyflwynodd gais i gofrestru gyda CGA yn y categori gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, a nododd yn y datganiad nad oedd ganddo unrhyw euogfarnau, pan nad oedd hyn yn gywir
- ar 2 Hydref 2023, cyflwynodd gais i gofrestru gyda CGA fel ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, a nododd nad oedd ganddi unrhyw euogfarnau yn yr adran datganiadau, pan nad oedd hyn yn gywir
- ar 21 Ebrill 2017, fe'i cafwyd yn euog yn Llys yr Ynadon Conwy o ddinistrio neu ddifrodi eiddo, yn erbyn adrannau 1(1) a 4 Deddf Niwed Troseddol 1971. O ganlyniad i'r drosedd, ar 28 Ebrill 2017, cafodd ddedfryd o Orchymyn Cymunedol a'r gofyn i wneud 250 awr o waith di dâl erbyn 27 Hydref 2018. Fe'i gorchmynnwyd hefyd i dalu £281.75 mewn iawndal
- ar 21 Ebrill 2017, fe'i cafwyd yn euog yn Llys yr Ynadon Conwy o ddinistrio neu ddifrodi eiddo, yn erbyn adrannau 1(1) a 4 Deddf Niwed Troseddol 1971. O ganlyniad i'r drosedd, ar 28 Ebrill 2017, cafodd ddedfryd o Orchymyn Cymunedol a'r gofyn i wneud 250 awr o waith di dâl erbyn 27 Hydref 2018
- ar 21 Ebrill 2017, fe'i cafwyd yn euog yn Llys yr Ynadon Conwy o ddinistrio neu ddifrodi eiddo, yn erbyn adrannau 1(1) a 4 Deddf Niwed Troseddol 1971. O ganlyniad i'r drosedd, ar 28 Ebrill 2017, cafodd ddedfryd o Orchymyn Cymunedol a'r gofyn i wneud 250 awr o waith di dâl erbyn 27 Hydref 2018. Fe'i gorchmynnwyd hefyd i dalu £458 mewn iawndal
- ar 21 Ebrill 2017, fe'i cafwyd yn euog yn Llys yr Ynadon Conwy o ddinistrio neu ddifrodi eiddo, yn erbyn adrannau 1(1) a 4 Deddf Niwed Troseddol 1971. O ganlyniad i'r drosedd, ar 28 Ebrill 2017, cafodd ddedfryd o Orchymyn Cymunedol a'r gofyn i wneud 250 awr o waith di dâl erbyn 27 Hydref 2018
- ar 22 Rhagfyr 2017, fe'i cafwyd yn euog yn Llys yr Ynadon gogledd Cymru am fethu â chydymffurfio gyda gofynion Gorchymyn Cymunedol a wnaed ar 28 Ebrill 2017 drwy fethu â mynd i apwyntiad ar 27 Tachwedd 2017, yn erbyn Rhan 2 Atodlen 8 Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003. O ganlyniad i'r drosedd, ar 22 Rhagfyr 2017, roedd y gofyniad i wneud gwaith di dâl i barhau, ac roedd Mr Morris yn destun gofyniad cyrffyw electronig o ddwy wythnos drwy fonitro electronig.
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor bod ymddygiad Mr Morris ym mharagraff 4 a 5 uchod yn anonest, ac yn arddangos diffyg hygrededd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mr Morris oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, ac ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith.
Penderfynnodd hefyd na fyddai Mr Morris yn cael gwneud cais i'w adfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o ddwy flynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mr Morris wneud cais llwyddiannus ar gyfer cymhwyster i'w adfer i'r Gofrestr ar ôl 19 Rhagfyr 2026, bydd wedi ei wahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mr Morris yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Chloe Munn - 29 Tachwedd 2024
Dyddiad cyhoeddi: 12 Rhagfyr 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 5-8, a 29 Tachwedd 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Chloe Munn.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi tra ei bod wedi ei chyflogi fel cynorthwyydd cymorth dysgu ysgol yn Ysgol Gynradd Llandough, bod Miss Munn, yn ystod trip ysgol ar neu o gwmpas 18 Ebrill 2023, wedi gadael tri o ddisgyblion tu allan i dŷ bach, a/neu heb rhoi gwybod i staff eraill y byddai hi'n mynd mewn i dai bach y dynion. Trwy wneud hyn, methodd Miss Munn â diogelu disgyblion.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Miss Munn fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o 2 flynedd (rhwng 29 Tachwedd 2024 a 29 Tachwedd 2026). O'r herwydd bydd Miss Munn yn gallu gweithio fel person cofrestredig (gweithiwr cymorth dysgu ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Miss Munn yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Melanie Morgan - 28 Tachwedd 2024
Dyddiad cyhoeddi: 11 Rhagfyr 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 23, 27, a 28 Tachwedd 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Melanie Morgan.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei bod wedi ei chyflogi fel cynorthwyydd addysgu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Ysgol Gynradd Pantside, fe wnaeth Miss Morgan:
- Ar neu o gwmpas mis Mawrth 2022, wedi ymddwyn mewn modd amhriodol a/neu amhroffesiynol:
- o flaen a/neu i ddisgyblion wedi dweud “f****** hell” a/neu “f*** this” a/neu “little s****”, neu eiriau gyda'r un effaith
- dywedodd “which one of you has s***? Let me check a***”, neu eiriau gyda'r un effaith
- ar ôl checio dillad isaf Disgybl A a/neu Disgybl B dywedodd “f****** hell it stinks”, neu eiriau gyda'r un effaith
- mewn ymateb i ddisgybl yn llefain, dywedodd “he’s doing my f****** head in, all he’s done is cry”, neu eiriau gyda'r un effaith
- drwy ymateb i rywun yn gofyn p'un a byddai Disgybl D eisiau ffon fara, dywedodd “does a bear s*** in the woods?”, neu eiriau gyda'r un effaith
- mewn ymateb i ddysgwr yn llefain, fe wnaeth ddynwared llefain drwy dynnu wyneb trist a/neu wedi rhwbio'i llygaid gyda'i dwylo
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Miss Morgan oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu ysgol. Penderfynodd hefyd na fyddai Miss Morgan yn cael gwneud cais i'w adfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o ddwy flynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Miss Morgan wneud cais llwyddiannus ar gyfer cymhwyster i'w adfer i'r Gofrestr ar ôl 28 Tachwedd 2026, bydd wedi ei gwahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Miss Morgan yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Richard Stratton-Thomas – 4 Rhagfyr 2024
Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 2, 3 a 4 Rhagfyr 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, Mr Richard Stratton-Thomas.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel tiwtor llawrydd gyda INSPIRE Training (GE) Ltd, fe wnaeth Mr Stratton-Thomas, ar 25 Gorffennaf 2023, ganiatáu i Ddysgwr A aros dros nos yn ei dŷ, ac ni wnaeth adrodd pryderon am Ddysgwr A i Inspire Training nac i Wasanaethau Cymdeithasol.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mr Stratton-Thomas fel ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 4 Rhagfyr 2024 a 4 Rhagfyr 2026). O'r herwydd bydd Mr Stratton-Thomas yn gallu gweithio fel ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, sy'n darparu gwasanaethau ar ran corff dysgu'n seiliedig ar waith (heblaw fel gwirfoddolwr) yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mr Stratton-Thomas yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Phillip Lewis – 20 Tachwedd 2024
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 19 a 20 Tachwedd 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, Phillip Lewis.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi ei brofi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel tiwtor yng Ngholeg Sir Benfro, fe wnaeth Mr Lewis:
- ar neu o gwmpas 18 Ionawr 2023, dderbyn rhybudd amodol gan Heddlu Dyfed Powys am gael cyffur a reolir yn ei feddiant, yn benodol cocên, ar 23 Tachwedd 2022, yn erbyn s. 5(2) o Ddeddf Cam-drin Cyffuriau 1971
- ar 23 Tachwedd 2022, ei fod â chyffur dosbarth A yn ei feddiant, yn benodol cocên, yn ystod oriau gwaith ar eiddo Coleg Sir Benfro
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mr Lewis oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach. Penderfynodd hefyd na fyddai Mr Lewis yn cael gwneud cais i'w adfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o ddwy flynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mr Lewis wneud cais llwyddiannus ar gyfer cymhwyster i'w adfer i'r Gofrestr ar ôl 20 Hydref 2026, bydd wedi ei wahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mr Lewis yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Leah Johns - 29 Hydref 2024
Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 24, 25, 28 a 29 Hydref 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol honiad o drosedd berthnasol wedi eu profi yn erbyn athro addysg bellach, Leah Johns.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Atal (gydag amodau) ar gofrestriad Ms Johns fel athro addysg bellach am gyfnod o 12 mis (o 29 Hydref 2024 hyd 29 Hydref 2026), cyn belled â'i bod yn bodloni'r amodau a nodir o fewn y terfyn amser.
O'r herwydd, ni fydd Ms Johns yn gallu gweithio fel person cofrestredig (athro addysg bellach) sy'n darparu gwasanaethau penodol mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru, am gyfnod y Gorchymyn Atal.
Mae gan Ms Johns yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Kristen Evans - 16 Hydref 2024
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 14-16 Hydref 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, Kristen Evans.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi ei brofi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel Asesydd gydag ACT Training Ltd, bod Mr Evans:
- rhwng Hydref 2022 a Mai 2023, wedi ymddwyn mewn modd amhriodol tuag at Gydweithiwr A, a bod ei fod yn anfoesgar a/neu'n fygythiol tuag ati a/neu ddim yn cydweithredu gyda hi
- rhwng Mawrth a Mai 2023, heb gysylltu â dysgwr/wyr craidd Iechyd a Gofal Cymdeithasol a/neu gynyddu eu gwaith, er gwaethaf rhoi gwybod i'w reolwr/wyr yn ystod cyfarfodydd wythnosol a/neu fisol ei fod wedi gwneud.
- ar 26 Chwefror 2020, fe wnaeth gais i gofrestru gyda CGA fel ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, ac ni wnaeth ddatgan yn y cais ei fod wedi ei gael yn euog yn flaenorol, pan oedd yn briodol gwneud y datganiad hwn ar Ran 8 y ffurflen gais
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, fe wnaeth y Pwyllgor hefyd benderfynnu bod ymddygiad Mr Evans ym mharagraffau 2 a 3 uchod yn anonest a heb hygrededd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mr Evans oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith. Penderfynodd hefyd na fyddai Mr Evans yn cael gwneud cais i'w adfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o ddwy flynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mr Evans wneud cais llwyddiannus ar gyfer cymhwyster i'w adfer i'r Gofrestr ar ôl 16 Hydref 2026, bydd wedi ei wahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mr Evans yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
James Jones – 4 Hydref 2024
Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 30 Medi - 4 Hydref 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athrawes ysgol, Mr James Jones.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel Dirprwy Bennaeth yn Ysgol Gynradd Wats Dyke, fe wnaeth Mr Jones ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn amhriodol ar nifer o achosion drwy:
- ar neu o gwmpas 17 Ionawr 2022, fe rannodd ddau fideo i'r holl rieni oedd wedi tanysgrifio i'r ysgol ar ap SeeSaw, oedd yn dangos disgyblion yn ei ddosbarth blwyddyn 1/2 yn rhannu gwybodaeth bersonol a/neu gyfrinachol:
- roedd fideo 1 yn dangos disgyblion yn rhannu canlyniadau prawf sillafu ym mis Medi 2021 yn dilyn eu sgôr sillafu ym mis Ionawr 2022
- roedd fideo 2 yn dangos cynnydd canlyniadau sgôr prawf sillafu o fis Medi 2021 i fis Ionawr 2022
- ar neu o gwmpas 18 Ionawr 2021, fe rannodd tudalen blog SeeSaw ei ddosbarth i'w gyfrif Facebook cyhoeddus.
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor bod ymddygiad Mr Jones yn amhriodol yn achos 1 a 2, ac wedi torri cyfrinachedd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mr Jones fel athro ysgol am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 4 Hydref 2024 a 4 Hydref 2026). O'r herwydd bydd Mr Jones yn gallu gweithio fel person cofrestredig (athro ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mr Jones yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Martin Lofthouse – 3 Hydref 2024
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol rhwng 30 a Medi a 3 Hydref 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athro addysg bellach, Martin Lofthouse.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi ei brofi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel darlithydd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, y gwnaeth Mr Lofthouse ar 7 Mehefin 2023:
- rhwystro Dysgwr A rhag gadael yr ystafell ddosbarth
- wedi gwneud cyswllt amhriodol a/neu ddiangen gyda Dysgwr A, o ran eu bod wedi gafael yn a/neu ddal Dysgwr A wrth eu braich a/neu eu hysgwydd
- wedi gweiddi ar Ddysgwr A
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mr Lofthouse fel athro addysg bellach am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 3 Hydref 2024 a 3 Hydref 2026). O'r herwydd, bydd Mr Lofthouse gallu gweithio fel person cofrestredig (athro addysg bellach) sy'n darparu gwasanaethau penodol mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru, am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mr Lofthouse yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
David Sweet – 3 Hydref 2024
Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 2 a 3 Hydref 2024, wedi canfod bod honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol a throsedd berthnasol wedi eu profi yn erbyn athro ysgol, David Sweet.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel athro ysgol yn Ysgol John Bright, bod Mr Sweet:
- ar 18 Mehefin 2018, wedi ei gael yn euog yn Llys yr Ynadon Swydd Gaer o ddefnyddio geiriau/ymddygiad bygythiol/treisgar neu ymddygiad afreolus sy'n debygol o achosi aflonyddwch/braw ar 25 Mawrth 2018, yn erbyn adran 5(1) (a) ac adran 5(6) Deddf Trefn Gyhoeddus 1986. O ganlyniad i'r drosedd hon, cafodd ddirwy o £225.
- ar 30 Mehefin 2022, fe'i cafwyd yn euog yn Llys Ynadon Gogledd Ddwyrain Cymru o yrru cerbyd modur gyda gormodedd o alcohol ar 1 Mehefin 2022, yn erbyn adran 5(1)(a) Deddf Traffig y Ffyrdd 1988. O ganlyniad i'r drosedd hon, ar 21 Gorffennaf 2022, fe'i gwaharddwyd rhag gyrru am 24 mis a chafodd ddirwy o £1071.
- ar neu o gwmpas 15 Gorffennaf 2016 a/neu 18 Mehefin 2018, rhoddodd wybodaeth wallus i'r ysgol am y rhesymau dros ei absenoldeb o'r gwaith, gan iddo adrodd ei fod yn sâl, pan oedd, mewn gwirionedd, yn y llys.
- ar neu o gwmpas 15 Gorffennaf 2016 a/neu 18 Mehefin 2018, fe wnaeth fethu â datgelu i'r ysgol ei fod wedi cael euogfarn(au) troseddol.
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, fe wnaeth y Pwyllgor hefyd benderfynu bod ymddygiad Mr Sweet ym mharagraffau 3 a 4 uchod yn anonest a heb hygrededd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mr Sweet fel athro ysgol am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 3 Hydref 2024 a 3 Hydref 2026). O'r herwydd bydd Mr Sweet yn gallu gweithio fel person cofrestredig (athro ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mr Sweet yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Timothy John – 24 Medi 2024
Dyddiad cyhoeddi:2 Hydref 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 23 a 24 Medi 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, Timothy John.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi ei brofi, tra ei bod wedi ei chyflogi fel swyddog hyfforddi gyda Cambrian Training, bod Mr John:
- rhwng 2020 a 2022, ar fwy nag un achlysur, wedi cyflwyno Cofnod Cynnydd a Chyflawniad ar gyfer dysgwr, pan na wnaeth ddigwydd
- rhwng 2020 a 2022, ar fwy nag un achlysur, wedi creu dogfennau ffug i gefnogi bod Cofnod Cynnydd a Chyflawniad ar gyfer dysgwr wedi digwydd
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, fe wnaeth y Pwyllgor hefyd benderfynu bod ymddygiad Mr John ym mharagraffau 1 a 2 uchod yn anonest a heb hygrededd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mr John oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith. Penderfynodd hefyd na fyddai Mr John yn cael gwneud cais i'w adfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o ddwy flynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mr John wneud cais llwyddiannus ar gyfer cymhwyster i'w adfer i'r Gofrestr ar ôl 24 Medi 2026, bydd wedi ei wahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mr John yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Samuel Harvey – 12 Medi 2024
Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 10, 11 ac 12 Medi 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, Samuel Harvey.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi ei brofi, tra ei bod wedi ei gyflogi fel Prif Athro Arweiniol Ysgolion MPCT gyda Learning Curve Group, bod Mr Harvey wedi:
- ar neu o gwmpas Medi 2022, gwneud un neu fwy o'r sylwadau amhriodol wrth ddysgwyr, neu yn eu presenoldeb:
- rhoi gwybod i ddysgwr ei fod wedi ei arestio dros yr haf
- wedi cynnig mynediad am ddim i ddysgwr i glwb nos the Loft
- wedi dweud wrth ddysgwyr geiriau gyda'r effaith ei fod yn edrych ymlaen at fynd adref a threulio'r noson gyda'i wraig a/neu ei bartner ar ôl iddi gael 'lip filler'
- wedi cyhuddo dysgwr o ddechrau tân mewn maes parcio aml lefel
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mr Harvey fel ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 12 Medi 2024 a 12 Medi 2026). O'r herwydd bydd Mr Harvey yn gallu gweithio fel person cofrestredig (ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith), sy'n darparu gwasanaethau ar ran corff dysgu'n seiliedig ar waith (heblaw fel gwirfoddolwr) yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mr Harvey yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Louise Thomas - 10 Medi 2024
Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 10 Medi 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Louise Thomas.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wei eu profi, bod Ms Thomas, ar 6 Ebrill 2018 wedi cael rhybudd gan Heddlu Gwent am ddwyn gan berson ar 16 Chwefror 2018, yn erbyns.1 Deddf Dwyn 1968.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Ms Thomas oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu ysgol. Penderfynnodd hefyd na fyddai Ms Thomas yn cael gwneud cais i'w adfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o 2 blynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Ms Thomas wneud cais llwyddiannus i'w hadfer i'r Gofrestr ar ôl 10 Medi 2026, bydd wedi ei gwahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Ms Thomas yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Aaron Phillips - 4 Medi 2024
Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 3 a 4 Medi 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Aaron Phillips.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi eu profi bod Mr Phillips:
- ar 10 Mehefin 2022, wedi derbyn rhybudd gan Heddlu Dyfed Powys am 'ddatgelu/bygwth datgelu ffotograffau rhywiol preifat gyda'r bwirad o achosi trallod ar 02/01/22'. yn erbyn s.33(1)(9) Deddf Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd 2015
- ni wnaeth rhoi gwybod i CGA ei fod wedi cael rhybudd am y drosedd o 'datgelu/bygwth datgelu ffotograffau rhywiol preifat gyda'r bwirad o achosi trallod'
Ar ôl gwneud y canfyddiadu hyn, penderfynnodd y Pwyllgor bod ymddygiad Mr Phillips ym mharagraff 2 uchod yn anonest, ac yn arddangos diffyg hygrededd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Msr Phillips oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu ysgol. Penderfynnodd hefyd na fyddai Mr Phillips yn cael gwneud cais i'w adfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o 2 blynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mr Phillips wneud cais llwyddiannus ar gyfer cymwyster i'w adfer i'r Gofrestr ar ôl 4 Medi 2026, bydd wedi ei wahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mr Phillips yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Molly Jane Williams - 13 Awst 2024
Dyddiad cyhoeddi: 21 Awst 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 25 Gorffennaf ac 13 Awst 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol a throsedd berthnasol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Molly Williams.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi eu profi, bod Miss Williams:
- Ar 18 Medi 2023, wedi ei chael yn euog o'r troseddau canlynol yn Llys yr Ynadon Merthyr Tudful:
- achosi anaf difrifol drwy yrru cerbyd a yrrir yn fecanyddol ar ffordd, ar 31 Mawrth 2023, heb y gofal a'r sylw dyladwy, yn erbyn s.2(c) Deddf Traffig y Ffyrdd 1988. O ganlyniad i'r drosedd hon, ar 9 Hydref 2023, cafodd Miss Williams ddedfryd o Orchymyn Cymunedol i'w gwblhau erbyn 8 Hydref 2024, Gofyniad Gweithgarwch Adsefydlu am fwyafswm o 20 diwrnod, gwaharddiad gyrru am 16 mis, a'i gorchymyn i dalu iawndal o £200 a dirwy o £200.
- gyrru cerbyd modur ar 31 Mawrth 2023, heb fod yn unol â thrwydded yn eu hawdurdodi i yrru cerbyd modur o'r dosbarth hwnnw, yn erbyn s.87(1) Deddf Traffig y Ffyrdd 1988. O ganlyniad i'r drosedd hon, ardystiwyd trwydded yrru Miss Williams ar 9 Hydref 2023 ac nid oedd cosb ar wahân.
- defnyddio cerbyd modur ar ffordd, neu fan cyhoeddus arall ar 31 Mawrth 2023, heb bolisi yswiriant, yn erbyn s.143 Deddf Traffig y Ffyrdd 1988. O ganlyniad i'r drosedd hon, ardystiwyd trwydded yrru Miss Williams ar 9 Hydref 2023 ac nid oedd cosb ar wahân.
- gyrru cerbyd modur ar 31 Mawrth 2023, ar ôl yfed cymaint o alcohol bod y gyfran ohono ar anadl Miss Williams, sef 52 microgram o alcohol mewn 100 mililitr o anadl, yn fwy na'r terfyn rhagnodedig, yn erbyn s.5(1)(a) Deddf Traffig y Ffyrdd 1988.O ganlyniad i'r drosedd hon, ar 9 Hydref 2023, cafodd ddedfryd o Orchymyn Cymunedol i'w gwblhau erbyn 8 Hydref 2024, Gofyniad Gweithgarwch Adsefydlu am fwyafswm o 20 diwrnod, a gwaharddiad gyrru am 16 mis.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Miss Williams oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu ysgol. Penderfynodd hefyd na fyddai Miss Williams yn cael gwneud cais i'w hadfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o 2 blynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Ms Williams wneud cais llwyddiannus i'w hadfer i'r Gofrestr ar ôl 13 Awst 2026, bydd wedi ei gwahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Miss Williams yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Alun Wyn Rogers - 12 Mehefin 2024
Dyddiad cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 11 ac 12 Mehefin 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Alun Wyn Rogers.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol, yn Ysgol plas Coch, fe wnaeth Mr Rogers ar 22 Mawrth 2022, slapio Plentyn A ar eu braich tra ar ymweliad addysgol i Ddyfroedd Alun.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Cofrestru Amodol ar gofrestriad Mr Rogers fel gweithiwr cymorth dysgu o 12 Mehefin 2024 am gyfnod o 6 mis, cyn belled â'i bod yn bodloni'r amodau a nodir o fewn y terfyn amser.
Mae gan Mr Rogers yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.