Lawrlwytho Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg 2024/25
Cyflwyniad
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru.
Fe’n sefydlwyd gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, ac rydym yn rheoleiddio ymarferwyr addysg mewn 13 o wahanol gategorïau cofrestru sy’n rhychwantu ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, ac addysg oedolion/dysgu seiliedig ar waith. Ein Cofrestr Ymarferwyr Addysg yw’r gofrestr gyhoeddus fwyaf o unrhyw broffesiwn yng Nghymru, a’r gofrestr fwyaf pellgyrhaeddol o weithwyr addysg proffesiynol yn y byd, gyda dros 91,000 o ymarferwyr wedi’u cofrestru.
Rydym wedi ein cynnwys yng nghategori pedwar Safonau’r Gymraeg. Mae hyn yn golygu bod rhaid i ni gydymffurfio â 148 o safonau sy’n ymwneud â chyflenwi gwasanaethau, materion gweithredol, llunio polisïau, a chadw cofnodion. Mae ein polisi safonau gwasanaeth, a chanllawiau ar ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg yn fewnol, (sy’n cael eu hadolygu bob dwy flynedd a bob blwyddyn yn ôl eu trefn), yn esbonio sut byddwn yn gweithredu yn unol â gofynion y safonau ac yn dilyn yr egwyddor bod y Gymraeg a’r Saesneg yn gydradd yn ein gwaith a’n trefniadau gweinyddol. Maen nhw hefyd yn cydnabod ein cyfrifoldeb i hyrwyddo a datblygu defnydd o’r Gymraeg o fewn ein gweithle ac yn y gweithlu addysg ehangach y mae ein cofrestreion yn ymarfer ynddo.
Ochr yn ochr â’r dogfennau hyn, mae’r adroddiad blynyddol hwn yn amlinellu sut rydym wedi cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg yn ystod 2024/25, gan fanylu ar sut rydym wedi gweithio i hyrwyddo defnydd o’r iaith, ymhlith ein cyflogeion, ac wrth ymgysylltu â chofrestreion a rhanddeiliaid allanol.
Ein safonau, cydymffurfedd, a monitro
Mae gan bob cyflogai gyfrifoldeb i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r safonau, sydd ar gael i gyflogeion a defnyddwyr gwasanaethau ar ein gwefan (gan gydymffurfio â safon weithredu 149). Rydym hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth ar ein gwefan sy’n manylu ar sut rydym yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.
Mae cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg yn eitem sefydlog ar agenda cyfarfodydd misol yr uwch dîm rheoli. Y Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi sy’n gyfrifol am fonitro cydymffurfedd â’r safonau. Mae’r adroddiad blynyddol hwn, sy’n manylu ar sut rydym yn cydymffurfio â’r safonau, wedi cael ei adolygu gan ein Pwyllgor Gweithredol cyn cael ei drafod a’i gymeradwyo gan ein Cyngor.
Pe bai Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn am wybodaeth ynghylch unrhyw agwedd ar sut rydym yn cydymffurfio â’r safonau, mae’n ddyletswydd arnom i’w darparu. Rydym wedi parhau i ymgysylltu’n adeiladol â Chomisiynydd y Gymraeg yn ystod y cyfnod adrodd, nid yn unig ynglŷn â’n hymdrechion i hyrwyddo ac annog defnydd o’r Gymraeg, ond hefyd i geisio ei gyngor ar gyflenwi gwasanaethau ac arfer da.
Cydymffurfedd
Safonau cyflenwi gwasanaethau
Gohebiaeth ysgrifenedig
Pan na fydd dewis iaith yr unigolyn rydym yn cysylltu ag ef yn hysbys, neu pan fyddwn yn ysgrifennu at grwpiau o bobl (er enghraifft cylchlythyron trwy e-bost), mae ein gohebiaeth gychwynnol yn ddwyieithog bob amser, gyda’r Gymraeg ar y chwith neu ar y brig fel ei bod yn ymddangos yn gyntaf. Pan fyddwn yn gwybod y dewis iaith, cyfathrebir yn yr iaith honno. Pan fydd rhywun yn ysgrifennu atom yn y Gymraeg a’r Saesneg, rydym yn ymateb yn ddwyieithog.
Mae ein pennawd ar ohebiaeth yn cynnwys datganiad sy’n croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg ac yn cadarnhau na fydd defnyddio’r Gymraeg yn arwain at oedi cyn ymateb.
Mae pob llofnod e-bost a/neu droedyn e-bost yn cynnwys teitlau swydd a manylion cyswllt dwyieithog a logo Cymraeg yn y Gweithle ar gyfer cyflogeion sy’n dewis ei gynnwys, ac sy’n siaradwyr rhugl neu’n ddysgwyr. Mae pob ateb ‘allan o’r swyddfa’ yn Gymraeg a Saesneg fel mater o drefn.
Galwadau ffôn
Mae ein prif rif ffôn yn cysylltu â system ffôn wedi’i hawtomeiddio sy’n cyfarch y galwr yn ddwyieithog (y neges Gymraeg yn gyntaf). Wedi hynny, mae’r system yn caniatáu i’r galwr ddewis siarad â chyflogai naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg. Rydym wedi hyfforddi cyflogeion ar sut i ymdrin â galwadau er mwyn sicrhau bod galwyr yn cael y gwasanaeth gorau yn eu dewis iaith.
Mewn achosion pan fydd galwr, sy’n dewis siarad Cymraeg, yn dymuno siarad ag unigolyn ag arbenigedd penodol nad yw’n siaradwr Cymraeg, rhoddir gwybod i’r galwr a gofynnir iddo a yw’n fodlon cael ei drosglwyddo i’r unigolyn i gynnal y sgwrs drwy gyfrwng y Saesneg.
Ar adegau pan fydd angen i alwad gan unigolyn sy’n dewis siarad Cymraeg gael ei throsglwyddo i adran benodol yn ystod adeg pan nad oes unrhyw staff sy’n siarad Cymraeg ar gael, rhoddir tri opsiwn i’r galwr: aros ar yr alwad, gadael ei fanylion cyswllt er mwyn cael galwad yn ôl cyn gynted â phosibl, neu gael ei drosglwyddo i aelod o staff i barhau â’i alwad drwy gyfrwng y Saesneg (sy’n dangos cydymffurfedd â safon weithredu 17). Ceir isod grynodeb o nifer y galwadau a gafwyd yn ystod 2024/25, yn Gymraeg a Saesneg:
Galwadau Cymraeg | Galwadau Saesneg | Anhysbys[1] | Cyfanswm | ||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Nifer | % | Nifer | % | Nifer | % | ||
Chwarter 1 | 447 | 8.7% | 4,648 | 90.2% | 56 | 1.1% | 5,151 |
Chwarter 2 | 279 | 8.0% | 3,180 | 91.1% | 30 | 0.9% | 3,489 |
Chwarter 3 | 317 | 9.8% | 2,865 | 89.0% | 38 | 1.2% | 3,220 |
Chwarter 4 | 325 | 8.1% | 3,640 | 90.6% | 54 | 1.3% | 4,019 |
Cyfanswm | 1,368 | 8.6% | 14,333 | 90.3% | 178 | 1.1% | 15,879 |
Cyfarfodydd
Wrth drefnu cyfarfodydd, rydym yn cadarnhau dewis iaith y rhai a fydd yn bresennol o flaen llaw ac yn cynnig cyfieithu ar y pryd, os oes angen.
Mae’r Cyngor yn cynnal ei gyfarfodydd yn ddwyieithog, gyda chytundeb yr aelodau, ac mae’n defnyddio gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i sicrhau bod yr holl gyfranogwyr ac arsylwyr yn gallu dilyn y trafodion. Mae cofnodion cyfarfodydd cyhoeddus y Cyngor yn cael eu cymeradwyo’n ddwyieithog gan y Cyngor a’u cyhoeddi’n ddwyieithog ar ein gwefan.
Digwyddiadau
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cynnal sawl digwyddiad i hyrwyddo ein gwaith ac i ymgysylltu â chofrestreion a rhanddeiliaid, sef:
- Dosbarth Meistr: Arwain ymarfer myfyriol – o dystiolaeth i weithredu effeithiol (Mehefin 2024)
- Digwyddiad briffio i randdeiliaid ar Ystadegau Blynyddol 2024 Cyngor y Gweithlu Addysg (Hydref 2024)
- Sesiwn Briffio ar Bolisi: Gweithwyr cymorth dysgu yng Nghymru: tueddiadau, heriau, a llwybrau polisi (Tachwedd 2024)
- Darlith Siarad yn Broffesiynol: Croesawu deallusrwydd artiffisial mewn addysg: cyfleoedd, heriau, ac ystyriaethau moesegol (Ionawr 2025)
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd llawn yn yr holl ddigwyddiadau cyhoeddus a drefnir gennym, sy’n caniatáu i’r cyflwynwyr ac aelodau’r gynulleidfa gymryd rhan yn Gymraeg neu yn Saesneg. Mae’r holl ddigwyddiadau o’r fath yn ystod y flwyddyn adrodd wedi cael eu cynnal yn rhithwir, trwy Zoom, sy’n caniatáu ar gyfer darparu cyfieithu ar y pryd.
Yn yr holl ddigwyddiadau a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod adrodd, roedd cyflwynydd y digwyddiad wedi annerch y gynulleidfa’n ddwyieithog, yn Gymraeg ac yn Saesneg, wrth ei agor a’i gau. Mae siaradwyr Cymraeg wedi cyflwyno eu heitemau trwy gyfrwng y Gymraeg a darparwyd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer pobl ddi-Gymraeg. Roedd y gynulleidfa’n gallu cyflwyno cwestiynau yn Gymraeg neu Saesneg trwy’r swyddogaeth sgwrsio, ac yn gallu gofyn cwestiynau ar lafar yn y naill iaith neu’r llall yn ystod wyth o’n digwyddiadau (gofynnwyd dau gwestiwn yn Gymraeg ar lafar, ac 11 trwy’r swyddogaeth sgwrsio).
Darparwyd yr holl gyflwyniadau PowerPoint a ddefnyddiwyd yn y digwyddiadau hyn yn ddwyieithog, ac roedd y mynychwyr yn gallu dewis p’un ai gweld y sleidiau yn Gymraeg neu Saesneg. Mae’r holl ddigwyddiadau’n cael eu recordio a darperir isdeitlau ar eu cyfer yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r recordiadau hyn ar gael ar ein gwefan.
Mae ein holl ddigwyddiadau cyhoeddus yn rhad ac am ddim ac rydym yn gweinyddu ein tocynnau’n ddwyieithog trwy blatfform ar-lein, sef TicketSource. Yn rhan o’r weithdrefn gofrestru, rydym yn gofyn a yw’r mynychwyr yn siarad Cymraeg ai peidio.
Yn ystod mis Mai 2024, buom yn bresennol yn Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn am yr wythnos, ac ym mis Awst 2024 buom yn bresennol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd am yr wythnos, gan rannu stondin gydag Addysgwyr Cymru yn y ddau achos. Gwnaethom sicrhau bod o leiaf un cyflogai sy’n siarad Cymraeg yn bresennol bob amser ac anogwyd cyflogeion sy’n dysgu Cymraeg i wirfoddoli.
Mae’r digwyddiadau eraill rydym wedi’u mynychu eleni, ledled Cymru (a thu hwnt) yn cynnwys:
- y Sioe Addysg Genedlaethol (Llandudno a Chaerdydd)
- Pride Cymru (Caerdydd)
- Mela Caerdydd
- Sioe Frenhinol Cymru (Llanelwedd)
- Tafwyl (Caerdydd)
- 'marchnadleoedd’ cynadledda mewn lleoliadau amrywiol
- diwrnodau agored Prifysgolion ledled Cymru
- ffeiriau recriwtio ledled Cymru a Lloegr
Gwnaethom bob ymdrech i sicrhau bod o leiaf un cyflogai yn y digwyddiadau hyn yn siarad Cymraeg fel bod cofrestreion, rhanddeiliaid a’r cyhoedd yn gallu ymgysylltu â ni yn eu dewis iaith.
Cyflwyniadau
Fel y crynhoir isod, rydym yn cynnig cyflwyniadau am nifer o’n meysydd gweithredol yn Gymraeg neu Saesneg, ar gais cyflogwyr/rhanddeiliaid. Rydym yn ceisio darparu’r holl gyflwyniadau yn yr iaith y gofynnwyd amdani[2].
Mae cyflwyniad ar y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol (y Cod) ar gael ar ein sianel YouTube sy’n cynnwys y sleidiau ac isdeitlau yn Gymraeg.
Priodoldeb i ymarfer
Mae’r tîm (ac uwch swyddogion) priodoldeb i ymarfer yn ymweld yn gyson ag ysgolion, colegau addysg bellach, a lleoliadau eraill ledled Cymru i roi cyflwyniadau i gofrestreion presennol a rhai’r dyfodol, cyflogwyr/asiantau ac eraill am y Cod. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, darparom 46 o’r sesiynau hyn, y cyflwynwyd tair ohonynt yn Gymraeg.
Cofrestru
Bob blwyddyn, mae’r tîm cofrestru yn rhoi cyflwyniadau i fyfyrwyr addysgu (ysgolion ac addysg bellach) a gwaith ieuenctid yn eu blwyddyn olaf mewn sefydliadau ledled Cymru. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, rhoesom 33 o gyflwyniadau am gofrestru. Cafwyd cais i gynnal 11 o’r rhain yn Gymraeg a gwnaethpwyd hynny. Darparwyd copïau o’r holl sleidiau yn Gymraeg a Saesneg ar ôl pob cyflwyniad. Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn yr holl gyflwyniadau yn gallu gofyn cwestiynau (a chael ymateb) yn Gymraeg neu Saesneg.
Datblygiad proffesiynol a chyllid
Mae’r tîm datblygiad proffesiynol a chyllid yn rhoi cyflwyniadau i athrawon newydd gymhwyso a rhanddeiliaid perthnasol am y proffil sefydlu, ac i’r holl gofrestreion a rhanddeiliaid am y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP). Yn ystod y cyfnod adrodd, cawsom 18 o geisiadau am gyflwyniadau yn Gymraeg, allan o gyfanswm o 74.
Hyrwyddo Gyrfaoedd
Yn ystod y cyfnod adrodd, cyflwynodd y tîm hyrwyddo gyrfaoedd gyfanswm o 16 o arddangosiadau o wefan Addysgwyr Cymru. Cafwyd cais i gynnal 6 o’r rhain yn Gymraeg a gwnaethpwyd hynny.
Arwyddion, hysbysiadau, cyhoeddusrwydd, a deunyddiau hyrwyddo, dogfennau, a ffurflenni
Rydym yn cynhyrchu holl ddeunyddiau CGA naill ai’n ddwyieithog (gyda’r Gymraeg ar y chwith neu ar y brig fel ei bod yn ymddangos yn gyntaf) neu mewn fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Mae fersiynau uniaith Saesneg yn hysbysu’r darllenydd bod y deunydd ar gael yn Gymraeg (sy’n dangos cydymffurfedd â safonau gweithredu 136, 137, a 138).
Y wefan a chyfryngau cymdeithasol
Mae ein gwefan a’r gwasanaethau gwe cysylltiedig yn gwbl ddwyieithog a gall defnyddwyr newid yn rhwydd rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae hyn yn wir am ein holl wasanaethau gwe, gan gynnwys y Gofrestr Ymarferwyr Addysg gyhoeddus, y gellir ei gwirio gan ddysgwyr, rhieni/gwarcheidwaid, aelodau o’r cyhoedd, a chyflogwyr. Yn ogystal, mae’r PDP yn cael ei gefnogi gan ap gwbl ddwyieithog.
Yn ystod 2024/25, o ran y PDP:
- roedd 193 o athrawon newydd gymhwyso wedi creu eu proffiliau sefydlu gan ddefnyddio’r fersiwn Gymraeg (roedd 1,029 wedi’u creu yn Saesneg)
- crëwyd 2,371 o dempledi profiad dysgu proffesiynol yn Gymraeg (14,263 yn Saesneg[3])
- crëwyd 437 o broffiliau dechrau gyrfa yn Gymraeg (gan fyfyrwyr Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) ar ddiwedd eu hastudiaethau) ac fe’u defnyddiwyd i amlygu eu cryfderau a’u meysydd i’w datblygu ymhellach wrth symud ymlaen i’r cyfnod sefydlu (1,364 yn Saesneg)
Rydym hefyd yn gyfrifol am wefan Addysgwyr Cymru, sy’n cynnig porth gyrfaoedd, hyfforddiant a recriwtio ar-lein ar gyfer addysgwyr a darpar addysgwyr yng Nghymru. Mae’r wefan yn cydymffurfio’n llwyr â Safonau’r Gymraeg, ac mae’r holl gynnwys ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae hefyd yn darparu gwasanaeth gwe-sgwrs dwyieithog, sy’n cynnig ateb byw neu’r diwrnod wedyn gan swyddogion CGA. Daeth tri ymholiad i law trwy’r gwasanaeth gwe-sgwrs yn Gymraeg a 151 yn Saesneg yn ystod 2024/25. Yn ogystal, cawsom 195 o negeseuon e-bost uniongyrchol, yr oedd chwech ohonynt yn Gymraeg.
Mae gan CGA gyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar Facebook a LinkedIn ar hyn o bryd, ac roeddem yn gweithredu cyfrif ar X (Twitter) hyd at fis Rhagfyr 2024. Ar draws y platfformau hyn, mae’r holl negeseuon yn cael eu postio yn Gymraeg a Saesneg ar un ffrwd. Rydym hefyd yn ymateb i’r holl negeseuon a geir trwy gyfryngau cymdeithasol yn iaith yr ymholiad gwreiddiol.
Mae’r holl fideos a bostiwn ar ein sianel YouTube ar gael mewn fersiynau ar wahân gydag isdeitlau Cymraeg a Saesneg (darperir yr holl destun yn newis iaith y gwyliwr, ni waeth pa iaith a siaredir).
Y Rheolwr Cyfathrebu sy’n gyfrifol am yr holl allbwn ar y cyfryngau cymdeithasol.
Derbynfa’r swyddfa
Yn ein tîm gwasanaethau corfforaethol, mae’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer dwy o’r pedair swydd, sy’n sicrhau bod gennym staff dwyieithog ar y dderbynfa bob amser. Rhoddir laniard neu fathodyn pin Cymraeg ar Waith i’r holl gyflogeion sy’n siarad Cymraeg ac fe’u hanogir i’w wisgo (sydd hefyd yn dangos cydymffurfedd â safon weithredu 130 a 130A), ac mae posteri’n cael eu harddangos yn y dderbynfa er mwyn rhoi gwybod i ymwelwyr ein bod yn darparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog. Mae’r llyfr ymwelwyr yn ddwyieithog, hefyd.
Gwybodaeth am gyflenwi gwasanaethau Cymraeg eraill
Achredu addysg gychwynnol athrawon (AGA)
Rydym yn gyfrifol am achredu a monitro rhaglenni AGA yng Nghymru. Rydym yn hysbysu’r holl ddarparwyr am bwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn y broses achredu ac yn sicrhau bod y trefniadau achredu’n gweithredu’n ddwyieithog. Ar bob ymweliad (rhithwir neu ar y safle) â phartneriaethau, rydym yn croesawu cyflwyniadau a deialog broffesiynol trwy gyfrwng y Gymraeg, neu’n ddwyieithog. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaethau cyfieithu ar y pryd yn yr holl ymweliadau (rhithwir neu ar y safle).
Yn ystod y cyfnod adrodd, defnyddiwyd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer dau ymweliad achredu (Caerdydd a CaBan), a dau ymweliad ailachredu (Prifysgol De Cymru a Phartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe). Fe’i defnyddiwyd yn y digwyddiad i randdeiliaid AGA hefyd, a gynhaliwyd ar y cyd gan CGA ac Estyn, wyneb yn wyneb ym mis Hydref 2024.
Ym mis Tachwedd 2024, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, dyrannom niferoedd derbyn AGA ar gyfer rhaglenni sy’n dechrau ym mis Medi 2025 i bartneriaethau AGA. Gwnaethom hefyd roi targedau penodol i bartneriaethau ar gyfer recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg (30% o gyfanswm y nifer a gaiff eu recriwtio). Byddwn yn monitro recriwtio o gymharu â’r targedau hyn yn 2025/26 ac yn adrodd arno i Lywodraeth Cymru.
Rydym yn dirprwyo’r cyfrifoldeb am achredu rhaglenni AGA i’n bwrdd achredu AGA (y bwrdd). Ar 31 Mawrth 2025, roedd y bwrdd yn cynnwys pymtheg aelod, gan gynnwys y cadeirydd a dau ddirprwy, sydd oll yn dod o feysydd addysg gwahanol. Ar hyn o bryd, mae pum aelod o’r bwrdd yn siaradwyr Cymraeg rhugl a dau aelod sy’n ddysgwyr.
Hyrwyddo gyrfaoedd yn y gweithlu addysg i siaradwyr Cymraeg
Yn ystod 2024/25, parhaom i weithio i hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiynau cofrestredig yn unol â’n cylch gwaith statudol, yn ogystal â gwneud mwy na’r hyn a nodir yn ein swyddogaethau statudol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae ein hymagwedd yn gydnaws ag uchelgeisiau Llywodraeth Cymru o ran datblygu sgiliau iaith yr holl ymarferwyr (a’u gallu i addysgu’r Gymraeg neu gyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg) ac yn ymateb i strategaeth Cymraeg 2050, sy’n nodi bod gan y sector addysg gyfraniad allweddol i’w wneud er mwyn gwireddu gweledigaeth miliwn o siaradwyr Cymraeg.
Mae ein tîm eiriolaeth a chymorth wedi datblygu cynlluniau recriwtio ac ymgysylltu sy’n cynnwys recriwtio wedi’i dargedu ar gyfer athrawon cyfrwng Cymraeg. Mae’r tîm hefyd yn cynnwys swyddog recriwtio a chymorth sy’n gyfrifol am gynllunio a chyflwyno digwyddiadau a gweithgarwch hyrwyddol ar gyfer siaradwyr Cymraeg. Mae hyn wedi cynnwys:
- gweithio gyda phartneriaethau AGA i gyflwyno nosweithiau gwybodaeth i’r rhai sy’n ystyried dod yn athrawon cyfrwng Cymraeg
- cyflwyno gweithdai cyflogadwyedd a chyflwyniadau ar yrfaoedd ym maes addysg mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg
- mynychu ffeiriau gyrfaoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a cholegau
- cyflwyniadau i gynorthwywyr addysgu cyfrwng Cymraeg i’w hannog i symud ymlaen i yrfa ym maes addysgu
Mae swyddogion CGA yn parhau i weithio’n agos gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gysylltiedig â nifer o gamau gweithredu o fewn Cynllun Cymraeg mewn Addysg 10 mlynedd Llywodraeth Cymru. Mae cyfarfodydd rheolaidd wedi arwain at gynlluniau i gyflwyno gweithgarwch hyrwyddo ar y cyd mewn digwyddiadau cyfrwng Cymraeg cenedlaethol, ac mae’r holl gyfathrebiadau ynglŷn â recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg yn cyfeirio defnyddwyr at wefan Addysgwyr Cymru.
Priodoldeb i ymarfer ac apeliadau sefydlu
Ar 31 Mawrth 2025, roedd gennym 53 o aelodau panel ar gael i eistedd ar bwyllgorau priodoldeb i ymarfer, yr oedd 13 ohonynt yn siaradwyr Cymraeg.
Rydym yn cynnal yr holl achosion priodoldeb i ymarfer ac apeliadau sefydlu yn newis iaith y cofrestrai (Cymraeg neu Saesneg). Pan dderbynnir achos, byddwn yn cysylltu â’r cofrestrai dan sylw i gadarnhau ei ddewis iaith. Os bydd y mater yn symud ymlaen i wrandawiad, byddwn yn cadarnhau’r dewis hwn eto i sicrhau cydymffurfedd. Mae tystion yn rhydd i gyflwyno tystiolaeth yn Gymraeg neu Saesneg, ni waeth beth yw prif iaith y gwrandawiad.
Yn ystod y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2025, clywsom un gwrandawiad yn gyfan gwbl yn Gymraeg a phedwar gwrandawiad yn rhannol yn Gymraeg.
Y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru (y Marc Ansawdd)
Ar 31 Mawrth 2025, roedd gennym 45 o aseswyr ar gyfer y Marc Ansawdd. O’r rhain, mae naw yn siaradwyr Cymraeg (ar wahanol lefelau).
Caiff sefydliadau sy’n gwneud cais am y Marc Ansawdd gyflwyno dogfennau yn Gymraeg, yn Saesneg, neu’n ddwyieithog. Rydym yn cynnal asesiadau’r Marc Ansawdd yn newis iaith yr ymgeisydd. Yn ystod y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2025, cynhaliwyd un asesiad Marc Ansawdd yn rhannol yn Gymraeg.
Safonau llunio polisïau
Polisïau a gweithdrefnau
Mae ein proses Asesiad Effaith Integredig newydd – a gyflwynwyd eleni – yn disodli ac yn cryfhau’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb blaenorol. Mae’n ehangu cwmpas yr ystyriaethau ac yn sicrhau bod y broses o ddatblygu ac adolygu polisïau yn fwy cadarn. Yn rhan o’r broses hon, rydym yn asesu cydymffurfedd â safonau’r Gymraeg, ac yn gwerthuso sut gallai polisïau effeithio ar gyflogeion, cofrestreion, a rhanddeiliaid sy’n siarad neu’n dysgu Cymraeg. Mae’r broses hefyd yn annog swyddogion i geisio cyfleoedd i hyrwyddo statws y Gymraeg a defnydd ohoni yn y gweithle, a chynyddu defnydd o’n gwasanaethau Cymraeg. Mae gennym bolisi penodol ar waith hefyd ar ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle (safon 92).
Ymgynghoriadau, ymchwil, ac ystadegau
Cyhoeddom ddwy ddogfen ymgynghori yn ystod y flwyddyn adrodd. Roedd y rhain yn ymwneud â’n Cynllun Strategol 2025-2028 a’n Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol diwygiedig. Cynhaliwyd y ddau ymgynghoriad yn ddwyieithog, ac roeddent yn ystyried a cheisio barn am y Gymraeg yn unol â safonau 86-88.
Eleni, rydym wedi ymateb i ymgynghoriadau a galwadau am dystiolaeth Comisiynydd y Gymraeg ynglŷn â’r canlynol:
- Holiadur Canlyniadau Rheoleiddiol
- Holiadur llinell ymholi allweddol
- Polisi Gorfodi diwygiedig
Ym mis Gorffennaf 2024, cyhoeddom ein Hystadegau Blynyddol ar gyfer y Gweithlu Addysg yng Nghymru. Rhoddodd yr adroddiad hwn fanylion am y Gymraeg ar gyfer y gweithlu addysg cyfan yng Nghymru, ledled ysgolion, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, a lleoliadau gwaith ieuenctid. Ar ôl ei gyhoeddi, cynhaliwyd sesiwn friffio i randdeiliaid ym mis Hydref 2024, a roddodd drosolwg o’r data i’r mynychwyr, gyda phwyslais penodol ar y tueddiadau allweddol a amlygwyd, gan gynnwys ystadegau yn ymwneud â nifer yr ymarferwyr sy’n gallu siarad Cymraeg a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Fe wnaeth Rheolwr Data CGA, a arweiniodd y digwyddiad, gyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg.
Safonau gweithredu
Hyrwyddo’r iaith Gymraeg
Mae gennym bolisi ar waith ar gyfer hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn y gweithle. Diben y polisi hwn yw annog a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn fewnol, fel elfen allweddol o ddiwylliant ein sefydliad. Mae ymwybyddiaeth o Safonau’r Gymraeg yn rhan o’n rhaglen sefydlu, sy’n addysgu cyflogeion newydd am y safonau a sut maen nhw’n berthnasol i ni. Anogir cyflogeion newydd sy’n siarad Cymraeg i ddefnyddio’r iaith ar gyfer gwaith ac wrth sgwrsio’n anffurfiol â chydweithwyr. Tynnir sylw cyflogeion newydd at gyfleoedd i ddysgu a datblygu sgiliau Cymraeg, yn ogystal ag ymarfer siarad Cymraeg gyda chydweithwyr. Yn ogystal, mae gennym fideo hyrwyddol ar ein gwefan a’n sianel YouTube sy’n dangos sut rydym yn hyrwyddo’r Gymraeg yn y gweithle, a’r gwaith rydym yn ei wneud i sicrhau bod ein holl wasanaethau’n ddwyieithog.
Anfonwyd ein e-gylchlythyr dwyieithog, sef Cymraeg ar Waith, at yr holl staff bob tri mis yn ystod y flwyddyn i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ar draws ein sefydliad a rhoi cyngor ac awgrymiadau da ar gydymffurfio, er mwyn helpu i sicrhau ein bod yn gweithredu Safonau’r Gymraeg yn gyson.
Mae ein mewnrwyd staff, sef Eddie, yn ddwyieithog, sy’n galluogi staff i gael yr holl gyfathrebiadau mewnol, a mynediad at wybodaeth sefydliadol a llenyddiaeth gorfforaethol, yn eu dewis iaith. Rydym hefyd yn defnyddio Eddie i rannu gwybodaeth am ymgyrchoedd ymwybyddiaeth a dathliadau diwylliannol amrywiol. Eleni, trwy Eddie, hyrwyddwyd ymgyrch ‘Defnyddia dy Gymraeg’ Comisiynydd yr Iaith, Dydd Miwsig Cymru a nifer o ddigwyddiadau Cymraeg gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, a Tafwyl.
Mae ein canllaw arddull Gymraeg sy’n benodol i CGA, sef yr Arddulliadur, yn rhoi arweiniad i’r holl staff ar gyfathrebu yn Gymraeg.
Rydym hefyd yn parhau i ddarparu mynediad at y pecyn meddalwedd Cysgliad, sy’n cynnwys geiriadur a gwirydd sillafu ar-lein, ar gyfrifiaduron cyflogeion Cymraeg eu hiaith. Mae’r rhaglen 'To Bach', sy’n cynorthwyo i ddefnyddio’r acen grom sy’n ymddangos yn aml yn y Gymraeg, wedi’i gosod ar bob cyfrifiadur.
Polisïau a gweithdrefnau
Rydym yn cyhoeddi holl bolisïau CGA, gan gynnwys y rhai a restrir yn y safonau, yn Gymraeg a Saesneg ar fewnrwyd y staff. Mae unrhyw ffurflenni neu ddogfennau sy’n gysylltiedig â’r polisïau ar gael i gyflogeion yn Gymraeg a Saesneg neu’n ddwyieithog.
Mae ein polisïau disgyblu a chwynion cyflogaeth yn nodi hawliau cyflogeion, yn unol â’r safonau, i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn ystod unrhyw weithdrefn.
Cwynion
Os daw unrhyw gwynion i law, mae gennym brosesau ar waith i sicrhau ein bod yn eu nodi’n fanwl a’u cadw’n electronig. Mae cwynion yn cael eu hadrodd i’r uwch dîm rheoli. Mae gennym adran benodol ar ein tudalen we sy’n amlinellu ein hymrwymiad i’r Gymraeg o ran cwynion sy’n ymwneud â’r Gymraeg. Mae ein dogfen safonau gwasanaeth ar gael ar ein gwefan hefyd ac rydym yn darparu copïau caled ar gais. Nid ydym wedi cael unrhyw geisiadau am gopïau o’n safonau gwasanaeth.
Yn ystod 2023-24, ni chawsom unrhyw gwynion am yr iaith Gymraeg na’n cydymffurfedd â’r safonau. Fodd bynnag, cawsom ohebiaeth gan bedwar unigolyn a oedd yn anfodlon ynglŷn â derbyn neges e-bost ddwyieithog gan CGA lle’r oedd y testun Cymraeg yn ymddangos yn gyntaf. Datryswyd y pedair cwyn trwy ymatebion a esboniodd ein bod yn sefydliad cwbl ddwyieithog y mae’n ofynnol iddo gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.
Hyfforddiant o ran y Gymraeg
Rydym wedi meithrin amgylchedd anogol ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn y sefydliad. Rydym yn annog cyflogeion i siarad/dysgu Cymraeg ac mae siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf yn gefnogol iawn o’u cydweithwyr sy’n ddysgwyr.
Y broses Adolygiadau Datblygu Perfformiad, ynghyd â’r arolwg staff y cyfeirir ato isod, yw’r prif fodd o amlygu hyfforddiant a datblygiad o ran y Gymraeg ar gyfer cyflogeion. Rydym yn llwyr gefnogi hyfforddiant Cymraeg perthnasol i’r holl gyflogeion. Yn ystod y flwyddyn adrodd, parhaodd un aelod o staff i ymgymryd â hyfforddiant Cymraeg ffurfiol pellach
Rydym hefyd wedi cynorthwyo ein staff sydd am ychwanegu at eu hyfforddiant ffurfiol trwy gynnig sesiynau mentora mewnol. Mae un aelod o staff sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg, gyda’n cefnogaeth, ers 2018, yn cyfarfod â’n swyddog cyfathrebu sy’n siarad Cymraeg bob wythnos i gael sgyrsiau anffurfiol er mwyn helpu i fagu hyder a meithrin ei sgiliau sgwrsio.
Darparwyd hyfforddiant dwyieithog ar iechyd a diogelwch, fel yr amlinellir yn safon weithredu 122. Ni ddarparwyd hyfforddiant pellach yn y meysydd a amlinellir yn safonau gweithredu 122 a 123 yn ystod y flwyddyn adrodd. Os darperir hyfforddiant yn y meysydd hyn, caiff ei ddarparu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg.
Sgiliau Cymraeg
Cyflogeion
Rydym yn cynnal arolwg o sgiliau a galluoedd Cymraeg ein cyflogeion bob blwyddyn. Hefyd, gofynnwn i bawb sy’n dechrau gweithio i CGA lenwi holiadur yn ystod y broses sefydlu. Mae’r holiadur yn gofyn i gyflogeion roi gwybodaeth am eu sgiliau Cymraeg mewn perthynas â gwrando, darllen, siarad, ac ysgrifennu, gan ofyn iddynt asesu eu galluoedd gan ddefnyddio’r raddfa 0-5 (fel yr awgrymir yn nogfen gyngor Comisiynydd y Gymraeg). Cafwyd cyfradd ymateb 96% i arolwg 2025. Rydym wedi crynhoi’r ymateb gan yr holl gyflogeion yn y tabl isod ac wedi atodi dadansoddiad manwl o’r ymatebion (yn ôl adran) yn atodiad 1.
Arolwg Cymraeg cyflogeion – crynodeb o’r canlyniadau[4]
Sgôr gymhwysedd | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
0 |
1 |
2 |
3 |
4 |
5 |
Cyfanswm | |
Gwrando |
15 |
16 |
3 |
2 |
2 |
17 |
55 |
Darllen |
13 |
17 |
3 |
3 |
4 |
15 |
55 |
Siarad |
15 |
18 |
1 |
3 |
4 |
14 |
55 |
Ysgrifennu |
18 |
15 |
2 |
2 |
5 |
13 |
55 |
Roedd yr arolwg Cymraeg hefyd yn gofyn i gyflogeion am eu gofynion hyfforddiant o ran y Gymraeg. Gofynnodd cyfanswm o 16[5] o gyflogeion am hyfforddiant Cymraeg. Roedd gan 12 ddiddordeb mewn hyfforddiant cyflwyniadol/dechreuol, gofynnodd pedwar am hyfforddiant ymestynnol, ac roedd un eisiau cael hyfforddiant adolygu/sgiliau arbennig (ar gyfer siaradwyr Cymraeg rhugl).
Aelodau'r Cyngor, aelodau’r Bwrdd AGA, aelodau’r panel Priodoldeb i Ymarfer ac aseswyr y Marc Ansawdd
Yn rhan o’n gwaith casglu data, gofynnir i holl aelodau’r Cyngor, aelodau’r Bwrdd AGA, aelodau’r panel ac aseswyr y Marc Ansawdd nodi eu galluoedd Cymraeg trwy arolwg gwirfoddol. Defnyddir y wybodaeth a gesglir i fonitro sgiliau Cymraeg yr aelodau a llywio gweithgarwch recriwtio yn y dyfodol
Aelodau’r Cyngor[6]
O’r 14 o aelodau a oedd yn eu swyddi ar 31 Mawrth 2025, cawsom wyth ymateb:
Ydych chi’n gallu deall/siarad/ysgrifennu Cymraeg? | |
---|---|
Dysgwr Cymraeg | 1 |
Dim | 3 |
Gwell gennyf beidio â dweud | 1 |
Deall Cymraeg llafar; siarad Cymraeg; darllen Cymraeg | 1 |
Deall Cymraeg llafar; siarad Cymraeg; darllen Cymraeg; ysgrifennu Cymraeg | 1 |
Siarad a deall ychydig bach | 1 |
Cyfanswm | 8 |
Aelodau’r bwrdd achredu AGA
O’r 15 o aelodau’r Bwrdd a oedd yn eu swyddi ar 31 Mawrth 2025, cawsom naw ymateb:
Sgôr gymhwysedd | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
0 | 1 | 2 | 3 | 4 | 5 | Cyfanswm | |
Gwrando | 3 | 2 | 2 | 0 | 0 | 2 | 9 |
Darllen | 3 | 2 | 2 | 0 | 0 | 2 | 9 |
Siarad | 2 | 3 | 2 | 0 | 0 | 2 | 9 |
Ysgrifennu | 3 | 2 | 2 | 0 | 1 | 1 | 9 |
Aelodau’r panel priodoldeb i ymarfer
O’r 53 o aelodau’r panel ar 31 Mawrth 2025, cawsom 38 o ymatebion:
Sgôr gymhwysedd | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
0 | 1 | 2 | 3 | 4 | 5 | Cyfanswm | |
Gwrando | 11 | 5 | 5 | 7 | 3 | 7 | 38 |
Darllen | 10 | 6 | 10 | 5 | 2 | 5 | 38 |
Siarad | 9 | 6 | 8 | 5 | 3 | 7 | 38 |
Ysgrifennu | 11 | 7 | 10 | 5 | 1 | 4 | 38 |
Aseswyr y Marc Ansawdd
O’r 45 o aseswyr ar 31 Mawrth 2025, cawsom 18 o ymatebion:
Sgôr gymhwysedd | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
0 | 1 | 2 | 3 | 4 | 5 | Cyfanswm | |
Gwrando | 5 | 3 | 6 | 0 | 1 | 3 | 18 |
Darllen | 5 | 4 | 4 | 1 | 1 | 3 | 18 |
Siarad | 3 | 7 | 3 | 1 | 1 | 3 | 18 |
Ysgrifennu | 9 | 5 | 0 | 2 | 1 | 1 | 18 |
Recriwtio
Cyn dechrau ar broses recriwtio, bydd rheolwr llinell a’r cyfarwyddwr perthnasol, gan ddefnyddio ein ffurflen gofyniad recriwtio, yn gwerthuso’r angen am y swydd bosibl, a’i natur, gan gynnwys yr angen am sgiliau Cymraeg. Ar ôl hynny, caiff y broses recriwtio gyfan ei chwblhau yn Gymraeg a Saesneg neu’n ddwyieithog, gan gynnwys yr hysbyseb swydd, yr holl wybodaeth ategol, y ffurflen gais, a’r ohebiaeth gydag ymgeiswyr.
Wrth hysbysebu swyddi y mae’r Gymraeg yn hanfodol ar eu cyfer, defnyddir gwefannau recriwtio Cymraeg. Ar y cam cyfweld, rydym yn sicrhau bod o leiaf un aelod o’r panel dethol yn siarad Cymraeg yn rhugl. Yna, gofynnir o leiaf un cwestiwn i’r ymgeisydd yn Gymraeg, y bydd angen iddo ei ateb yn Gymraeg.
Mae ein ffurflen gais yn cynnwys lle i’r ymgeisydd nodi a yw eisiau defnyddio’r Gymraeg mewn cyfweliad neu unrhyw ddull asesu arall. Mae hefyd yn esbonio y byddwn yn darparu gwasanaeth cyfieithu, os bydd angen.
Pan fyddwn yn cynnig swydd newydd, gofynnwn i’r unigolyn a yw eisiau cael unrhyw ohebiaeth ffurfiol, gan gynnwys y contract cyflogaeth, yn Gymraeg.
Yn ystod y flwyddyn adrodd, hysbysebwyd 11 o swyddi newydd a gwag, fel y manylir isod:
Swyddog Gweinyddol |
Swyddog Gweithredol |
Swyddog Gweithredol Uwch (HEO) |
Uwch-swyddog Gweithredol (SEO) |
Gradd 7 |
Cyfarwyddwr |
Cyfanswm | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Hanfodol |
0 |
2 |
0 |
0 |
0 |
0 |
2 |
Dymunol |
0 |
7 |
1 |
1 |
0 |
0 |
9 |
Arall |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
Cyfanswm |
0 |
9 |
1 |
1 |
0 |
0 |
11 |
Safonau cadw cofnodion
Rydym yn cadw’r holl gofnodion yn unol â’r safonau a byddwn yn eu rhoi i Gomisiynydd y Gymraeg ar gais.
Atodiad 1: Arolwg Cymraeg cyflogeion: crynodeb o’r canlyniadau yn ôl adran[7]
Gwrando
Sgôr gymhwysedd | Cyfanswm | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
0 | 1 | 2 | 3 | 4 | 5 | ||
Uwch reolwyr | 0 | 2 | 1 | 0 | 0 | 1 | 4 |
Data | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 4 | 4 |
Cyllid a gwasanaethau corfforaethol | 2 | 3 | 1 | 1 | 1 | 0 | 8 |
Priodoldeb i ymarfer | 9 | 2 | 0 | 0 | 0 | 0 | 11 |
Polisi, cynllunio a chyfathrebu | 0 | 3 | 0 | 0 | 0 | 2 | 5 |
Datblygiad proffesiynol a chyllid | 2 | 0 | 0 | 1 | 0 | 3 | 6 |
Cofrestru | 0 | 4 | 1 | 0 | 0 | 4 | 9 |
Achredu AGA | 1 | 0 | 0 | 0 | 1 | 0 | 2 |
Hyrwyddo gyrfaoedd | 1 | 1 | 0 | 0 | 0 | 3 | 5 |
Marc Ansawdd | 0 | 1 | 0 | 0 | 0 | 0 | 1 |
Cyfanswm | 15 | 16 | 3 | 2 | 2 | 17 | 55 |
Darllen
Sgôr gymhwysedd | Cyfanswm | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
0 | 1 | 2 | 3 | 4 | 5 | ||
Uwch reolwyr | 0 | 2 | 0 | 1 | 0 | 1 | 4 |
Data | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 4 | 4 |
Cyllid a gwasanaethau corfforaethol | 2 | 4 | 0 | 1 | 1 | 0 | 8 |
Priodoldeb i ymarfer | 6 | 5 | 0 | 0 | 0 | 0 | 11 |
Polisi, cynllunio a chyfathrebu | 0 | 2 | 1 | 0 | 0 | 2 | 5 |
Datblygiad proffesiynol a chyllid | 2 | 0 | 0 | 1 | 0 | 3 | 6 |
Cofrestru | 0 | 3 | 2 | 0 | 0 | 4 | 9 |
Achredu AGA | 1 | 0 | 0 | 0 | 1 | 0 | 2 |
Hyrwyddo gyrfaoedd | 1 | 1 | 0 | 0 | 2 | 1 | 5 |
Marc Ansawdd | 1 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 1 |
Cyfanswm | 13 | 17 | 3 | 3 | 4 | 15 | 55 |
Siarad
Sgôr gymhwysedd | Cyfanswm | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
0 | 1 | 2 | 3 | 4 | 5 | ||
Uwch reolwyr | 0 | 2 | 1 | 0 | 0 | 1 | 4 |
Data | 0 | 0 | 0 | 0 | 1 | 3 | 4 |
Cyllid a gwasanaethau corfforaethol | 2 | 4 | 0 | 2 | 0 | 0 | 8 |
Priodoldeb i ymarfer | 7 | 4 | 0 | 0 | 0 | 0 | 11 |
Polisi, cynllunio a chyfathrebu | 1 | 2 | 0 | 0 | 1 | 1 | 5 |
Datblygiad proffesiynol a chyllid | 2 | 0 | 0 | 1 | 0 | 3 | 6 |
Cofrestru | 1 | 4 | 0 | 0 | 0 | 4 | 9 |
Achredu AGA | 1 | 0 | 0 | 0 | 0 | 1 | 2 |
Hyrwyddo gyrfaoedd | 1 | 1 | 0 | 0 | 2 | 1 | 5 |
Marc Ansawdd | 0 | 1 | 0 | 0 | 0 | 0 | 1 |
Cyfanswm | 15 | 18 | 1 | 3 | 4 | 14 | 55 |
Ysgrifennu
Sgôr gymhwysedd | Cyfanswm | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
0 | 1 | 2 | 3 | 4 | 5 | ||
Uwch reolwyr | 0 | 3 | 0 | 0 | 1 | 0 | 4 |
Data | 0 | 0 | 0 | 0 | 2 | 2 | 4 |
Cyllid a gwasanaethau corfforaethol | 4 | 2 | 0 | 2 | 0 | 0 | 8 |
Priodoldeb i ymarfer | 7 | 4 | 0 | 0 | 0 | 0 | 11 |
Polisi, cynllunio a chyfathrebu | 1 | 2 | 0 | 0 | 1 | 1 | 5 |
Datblygiad proffesiynol a chyllid | 2 | 0 | 1 | 0 | 0 | 3 | 6 |
Cofrestru | 1 | 3 | 1 | 0 | 0 | 4 | 9 |
Achredu AGA | 1 | 0 | 0 | 0 | 1 | 0 | 2 |
Hyrwyddo gyrfaoedd | 1 | 1 | 0 | 0 | 0 | 3 | 5 |
Marc Ansawdd | 1 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 1 |
Cyfanswm | 18 | 15 | 2 | 2 | 5 | 13 | 55 |
[1]Mae anhysbys yn ymwneud â galwadau a drosglwyddwyd yn fewnol gan nad yw’r system ffôn yn gallu cofnodi’r data hwn.
[2]Pan ofynnir i gyflwyniad gael ei roi ar ddyddiad penodol, mae’n bosibl na fydd modd darparu siaradwr bob tro (naill ai yn Gymraeg neu Saesneg). Pan nad oes siaradwr Cymraeg ar gael, byddwn yn falch o gynnig dyddiadau amgen pan y gellir rhoi’r cyflwyniad yn Gymraeg
[3]Yn unol â pholisi cadw a dileu cyfrif PDP CGA, rydym wedi dileu 9,586 o gyfrifon ac asedau cysylltiedig defnyddwyr y PDP nad ydynt wedi’u cofrestru â CGA mwyach yn ystod y cyfnod adrodd
[4]Sylwer bod nifer yr ymatebion gan gyflogeion i’r arolwg (55) ddau yn brin o gyfanswm nifer y cyflogeion a oedd yn gweithio i CGA ar 31 Mawrth 2025. Mae hyn oherwydd ni ymatebodd ddau aelod o staff i’r arolwg.
[5]Gofynnodd un aelod o staff am hyfforddiant dechreuol ac ymestynnol.
[6]Sylwer bod y ffurflen a oedd yn ceisio gwybodaeth am alluoedd Cymraeg aelodau’r Cyngor wedi cael ei dosbarthu cyn y ceisiadau a anfonwyd at staff ac aelodau’r panel. O ganlyniad, ni chasglwyd y data gan ddefnyddio’r ffurflen ddiwygiedig ac nid yw’n cyfateb. O 2025/26 ymlaen, bydd yr holl ddata’n cael ei gasglu ar yr un sail
[7]Sylwer bod nifer yr ymatebion gan gyflogeion i’r arolwg (55) ddau yn brin o gyfanswm nifer y cyflogeion a oedd yn gweithio i CGA ar 31 Mawrth 2025. Mae hyn oherwydd ni ymatebodd ddau aelod o staff i’r arolwg