CGA / EWC

About us banner
Adolygiad o’r Safonau proffesiynol ar gyfer AB a dysgu seiliedig ar waith
Adolygiad o’r Safonau proffesiynol ar gyfer AB a dysgu seiliedig ar waith

Yn 2020-21, cynhaliom adolygiad o’r Safonau Proffesiynol ar gyfer athrawon addysg bellach (AB) ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith (DSW) yng Nghymru.

Ac yntau wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, nod y prosiect oedd datblygu offer ymarferol newydd i helpu ymarferwyr i ymgysylltu â’r safonau.

Beth wnaethom ni

Ein nod oedd sicrhau bod y safonau proffesiynol yn darparu fframwaith hygyrch ac ymarferol i ymarferwyr sy’n eu harwain wrth ddatblygu gyrfaoedd boddhaus a chynnal lefel uchel o broffesiynoliaeth.

Roedd ein dull seiliedig ar dystiolaeth yn cynnwys:

  • cynnal adolygiad papur o’r safonau presennol a’r modd y mae ymarferwyr yn ymgysylltu â nhw
  • edrych ar sut mae gwledydd a sectorau eraill yn mynd i’r afael â safonau proffesiynol, a’r math o adnoddau ymarferol y maent yn eu defnyddio i helpu gweithwyr proffesiynol i ymgysylltu â nhw
  • gwrando ar farnau a phrofiadau ymarferwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill, a gweithio gyda nhw i ddatblygu adnoddau newydd.

Buom yn ymgysylltu’n helaeth â’r sector trwy gydol yr adolygiad.

  • Dosbarthom holiaduron i’r holl athrawon AB cofrestredig, ymarferwyr DSW, cyflogwyr a rhanddeiliaid allweddol. Arweiniodd hyn at dros 440 o ymatebion.
  • Buom yn cyfweld â sefydliadau allweddol gan gynnwys undebau llafur, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru ac Estyn.
  • Cynhaliom gyfres o grwpiau ffocws gydag ymarferwyr AB a DSW.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, gweithiom gyda grŵp o ymarferwyr AB a DSW i ddatblygu set o adnoddau drafft a gynlluniwyd i gynorthwyo ymgysylltiad â’r safonau. Cyflwynom y rhain i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2021, ynghyd â chrynodeb o ganfyddiadau ein hymchwil a’n hargymhellion ar gyfer y cam nesaf o’r gwaith hwn.

Beth sydd nesaf?

Bydd peilot o’r adnoddau drafft yn cael ei gynnal gyda nifer fach o ddarparwyr yn 2021-22 i’n helpu i ddeall eu heffaith ar waith. Bydd hefyd yn ein galluogi i wneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen i sicrhau eu bod yn cynorthwyo ymarferwyr yn llawn i ymgysylltu â’r safonau.

 Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r adnoddau ymhellach. Bydd hyn yn cynnwys

  • nodi arfer da i’w ymgorffori yn yr adnoddau
  • datblygu astudiaethau achos sy’n dangos y safonau ar waith.

Hefyd, rydym yn ystyried ffyrdd i ddatblygu safonau ar gyfer staff cymorth ac arweinwyr mewn AB a DSW, yn ogystal ag ar gyfer y sector dysgu oedolion.

Cysylltwch â ni

Os oes unrhyw gwestiynau gennych ynglŷn â’r gwaith hwn, mae croeso i chi This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..