CGA / EWC

Registration
Ein gwasanaethau i gofrestreion
Ein gwasanaethau i gofrestreion

Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol

Mae’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol (y Cod) yn amlinellu’r safonau a ddisgwylir ohonoch  a’i fwriad yw cefnogi ac arwain eich ymddygiadau a’ch crebwyll fel cofrestrai sy’n gweithio mewn rôl addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

 

Canllawiau arfer da

Ysgrifennwyd ein cyfres o ganllawiau i ategu’r Cod a’u nod yw eich cynorthwyo i gydymffurfio â’r Cod. Mae pob un ohonynt yn canolbwyntio ar faes penodol, fel mynd i’r afael â hiliaeth, perthnasoedd gwaith cadarnhaol, a defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol. Cadwch lygad ar y dudalen gan fod canllawiau newydd yn cael eu cyhoeddi’n rheolaidd.

Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)

Fel ymarferwyr addysg, mae myfyrdod parhaus, dysgu a datblygu yn hanfodol i’ch rôl. Mae eich PDP yn adnodd ar-lein hyblyg a luniwyd yn benodol i’ch helpu i gofnodi a myfyrio ar eich dysgu, a’i rannu, i gyd â’r nod o lywio eich datblygiad proffesiynol a’ch ymarfer parhaus.

EBSCO a Meddwl Mawr

Bonws ychwanegol yw bod eich PDP yn caniatáu i chi gael at EBSCO yn rhad ac am ddim. Dyma gronfa ddata ymchwil, testun llawn, fwyaf y byd ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol a’i nod yw eich helpu chi i ddarllen a gwneud ymchwil i ddatblygu eich ymarfer a’ch syniadau ymhellach. Cofrestrwch ar gyfer Meddwl Mawr, ein clwb llyfrau a chyfnodolion, i dderbyn argymhellion misol am gynnwys diddorol ar EBSCO.

Adnoddau a chanllawiau

Os yw ymgymryd â’ch ymchwil eich hun o ddiddordeb i chi, beth am gael cip ar ein canllawiau, sydd â’r nod o’ch helpu i gychwyn arni. Maent yn cwmpasu pynciau fel moeseg ymchwil, ymchwil weithredol, ysgrifennu adroddiadau a sefydlu clwb cyfnodolion.

Cyfres digwyddiadau am ddim

Rydym yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn i’ch cefnogi chi a’ch datblygiad proffesiynol. Maent yn cynnwys ein darlith flynyddol, sef ‘Siarad yn Broffesiynol’, dosbarthiadau meistr, sesiynau brifio ar bolisi, a gweminarau. Gallwch wylio recordiadau o lawer o’n digwyddiadau blaenorol ar ein sianel YouTube.

‘Sgwrsio’ gyda phodlediad CGA

Mae ein podlediad yn dwyn cofrestreion ac arbenigwyr ynghyd o bob rhan o’r sector addysg ar gyfer sgyrsiau bywiog ar bynciau sy’n bwysig i chi. Beth am wrando’n ôl ar rifynnau blaenorol a thanysgrifio nawr. Os hoffech i ni ymdrin â phwnc ar Sgwrsio, This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Blogiau

Mae ein blog yn rhannu cyfraniadau gan gofrestreion ac arbenigwyr ar yr ymchwil, y diweddariadau a’r arfer gorau diweddaraf o bob rhan o’r sector addysg. Os oes pwnc rydych chi’n angerddol amdano ac yr hoffech ei rannu â chydweithwyr ar draws Cymru, This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Addysgwyr Cymru

Mae Addysgwyr Cymru yn cynnwys amrywiaeth o wasanaethau sy’n dwyn ynghyd gyfleoedd gyrfaol, hyfforddiant a gwaith o fewn sector addysg Cymru mewn un lleoliad hawdd cael ato. Ei borth swyddi, sy’n un o’r mwyaf yn benodol ar gyfer y sector addysg yng Nghymru, yw’r lle i droi er mwyn gweld y swyddi gwag diweddaraf.

Hefyd, mae’r tîm yn cynnig gwasanaeth recriwtio, eiriolaeth a gwybodaeth yn rhad ac am ddim i unigolion sy’n chwilio am gyfleoedd dilyniant fel addysgwyr. Mae hynny’n cynnwys cymorth cynhwysfawr, gan gynnwys ysgrifennu ceisiadau a CV a gweithdai sgiliau cyfweliad.

Cyflwyniadau 

Rydym yn hapus i drefnu cyflwyniadau yn eich gweithle. Mae pynciau poblogaidd yn cynnwys y PDP, y Cod, data ar y gweithlu a’n gwaith priodoldeb i ymarfer.

Cael y newyddion diweddaraf

Fel un o gofrestreion CGA, byddwch yn cael ‘FyCGA’ yn awtomatig, sef ein cylchlythyr tymhorol sy’n cynnwys y diweddaraf gan CGA ac unrhyw newyddion pwysig yn gysylltiedig â’ch cofrestriad.

Hefyd, rydym ni ar y cyfryngau cymdeithasol, lle gallwch gael diweddariadau am ein gwaith o ddydd i ddydd. Dilynwch ni ar X, Facebook, a Linkedin.

Yma i helpu, bob amser

Mae ein tîm wrth law, petai eu hangen arnoch. Mae manylion am sut i gysylltu â phob tîm ar gael ar y dudalen cysylltu â ni.

Cofiwch…

Mae’n bwysig bod gennym y manylion personol cywir ar eich cyfer chi. Mae hyn yn cynnwys cymwysterau, manylion cyswllt, dewisiadau iaith a manylion cyflogaeth. Gallwch sicrhau bod eich manylion yn gywir ac yn gyfredol unrhyw bryd trwy fewngofnodi i’ch cyfrif FyCGA.