CGA / EWC

Registration
Ymarferwyr sydd wedi hyfforddi’r tu allan i Gymru
Ymarferwyr sydd wedi hyfforddi’r tu allan i Gymru

Os gwnaethoch chi hyfforddi fel athro ysgol y tu allan i Gymru, gallwch wneud cais i gael eich cydnabod yn athro ysgol sy’n gymwys i ymarfer yng Nghymru.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadarnhau eich bod wedi’ch cydnabod yn athro ysgol cymwysedig. Yna, byddwch yn gallu gwneud cais i gofrestru gyda ni yn y categori athro ysgol.

Mae angen i chi gael eich cydnabod yn athro ysgol cymwysedig a’ch bod wedi cofrestru gyda ni i weithio fel athro ysgol yng Nghymru.

Athrawon cymwysedig a enillodd SAC yn Lloegr

Mae eich statws athro cymwysedig (SAC) a ddyfarnwyd yn Lloegr yn cael ei gydnabod yn awtomatig yng Nghymru:

• os cwblhaoch eich hyfforddiant cychwynnol athrawon yn Lloegr mewn sefydliad achrededig
• os ydych wedi cael eich asesu gan sefydliad achrededig yn Lloegr
• os ydych wedi dilyn cynllun hyfforddiant athrawon seiliedig ar gyflogaeth yn Lloegr

Athrawon AB cymwysedig sy’n cael eu cydnabod yn athrawon ysgol cymwysedig yn Lloegr

Os ydych chi’n athro AB cymwysedig sy’n cael ei gydnabod yn athro ysgol cymwysedig gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Athrawon yn Lloegr, nid ydych yn cael eich cydnabod yn athro ysgol cymwysedig yng Nghymru. Mae hyn yn golygu nad allwch wneud cais i gael eich cydnabod na’ch cofrestru fel athro ysgol. Mae hyn yn cynnwys os ydych yn athro AB cymwysedig Dysgu a Sgiliau Athro Cymwysedig (QTLS).

Gwneud cais am gydnabyddiaeth

Gwneud cais am gydnabyddiaeth SAC yng Nghymru ar gyfer athrawon ysgol cymwysedig o’r Alban

Gwneud cais am gydnabyddiaeth SAC yng Nghymru ar gyfer athrawon ysgol cymwysedig o Ogledd Iwerddon

Gwneud cais am gydnabyddiaeth SAC yng Nghymru ar gyfer athrawon ysgol cymwysedig o unrhyw wlad y tu allan i’r DU

Ar ôl i ni asesu eich cais, byddwn yn e-bostio’r canlyniad atoch gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a ddefnyddioch i gyflwyno’ch cais, oni bai eich bod wedi dweud fel arall wrthym.