CGA / EWC

Fitness to practise banner
Egress Protect
Egress Protect

Pam mae CGA yn defnyddio Egress Protect?

Oherwydd ein gwaith rheoleiddiol, rydym yn aml yn ymdrin â chyfrolau mawr o ddata personol, ac ni fyddem am i'r data fynd i'r dwylo anghywir. Yn gynyddol rydym yn anfon gwybodaeth trwy e-bost, gan fod hwn yn ffordd gyflym a chyfleus o gyfathrebu.image of an egress email

Mae Egress Switch yn rhaglen e-bostio a throsglwyddo ffeiliau diogel sy'n caniatáu i'r Cyngor anfon negeseuon e-bost a dogfennau sensitif mewn modd diogel.

Mae negeseuon neu ddogfennau a anfonir trwy Egress yn cael eu diogelu gydag amgryptiad AES 256-bit.

Oes yna gost?

Na, mae'n rhad ac am ddim i gael negeseuon e-bost oddi wrth CGA, a gallwch hefyd ymateb yn ddiogel i'r negeseuon e-bost hynny. Codir tâl arnoch ddim ond os byddwch chi'n defnyddio Egress eich hun i'w hanfon at dderbynwyr heblaw am CGA.

Sut ydw i'n agor e-bost Egress Protect?

Os anfonwyd e-bost diogel atoch, fe gewch neges fel y dangosir i'r dde gyda'r geiriau:

Anfonwyd yr e-bost hwn atoch yn ddiogel trwy gyswllt yng Nghyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Os oes gennych unrhyw amheuon am yr e-bost hwn, cysylltwch â'r anfonwr yn uniongyrchol gan ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost a ddylai gorffen gyda ewc.wales neu cga.cymru

I gael mynediad at y neges ddiogel, gallwch greu cyfrif Switch e-bost am ddim ar eu gwefan trwy glicio ar y ddolen defnyddiwr newydd.

Neu, os oes gennych gyfrif eisoes, mae angen i chi fewngofnodi gyda'r ddolen defnyddiwr presennol.

Bydd cael cyfrif Egress am ddim hefyd yn caniatáu i chi anfon atebion diogel i Gyngor y Gweithlu Addysg.

Darllenwch fwy am e-bost diogel Egress Protect

Ewch i wefan Egress am gefnogaeth bellach

Ydw i'n gallu agor negeseuon Egress ar fy ffôn neu lechen?

Ydych. Mae gan Egress wefan ar gyfer ffonau symudol i helpu wrth agor y wefan ar ddyfais symudol a cheir apiau ar gyfer dyfeisiau Apple ac Android.

Beth os ydw i'n profi problemau technegol?

E-bostiwch dîm cefnogi Egress drwy This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu ffoniwch 0871 376 0014.